Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i gyhoeddi’r Canllawiau ynghylch Llyfrgelloedd a Reolir gan Gymunedau a Darpariaeth Statudol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru.
Mae gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru wedi gofyn am eglurder o ran a yw llyfrgelloedd a reolir gan gymunedau’n rhan o ddarpariaeth llyfrgelloedd cyhoeddus statudol awdurdodau lleol o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Nid oedd unrhyw ganllawiau yn bodoli cyn hynny, ac mae’r adroddiad hwn yn galluogi Cymru i fod y cyntaf o blith gwledydd y DU i ymateb i’r cais.
Mae’r canllawiau’n nodi’r meini prawf y dylai llyfrgelloedd a reolir gan gymunedau eu bodloni cyn iddynt gael bod yn rhan o’r gwasanaeth llyfrgelloedd statudol. Mae’r meini prawf hyn yn gysylltiedig â Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru a’r 18 o hawliau craidd a restrir o fewn y Safonau. Mae’r canllawiau’n cynnwys esboniad manwl am yr hawliau craidd hyn.
Mae’r canllawiau’n seiliedig ar yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid a gynhaliwyd wrth ddatblygu pumed fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014-2017 a’r Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru 2014. Daeth wyth ymateb i law oddi wrth y sector yn sgil y gwahoddiad i gyflwyno sylwadau ar y cynigion drafft.
Hefyd, mae argymhelliad IX yn yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru 2014 yn dweud:
“Dylai CyMAL gydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau a dogfennaeth briodol ar gyfer cytundebau partneriaeth sy’n nodi’r gofynion sylfaenol a fyddai’n galluogi llyfrgell a gefnogir gan y gymuned i gael ei hystyried yn rhan o ddarpariaeth statudol yr awdurdod. Dylid ceisio cyngor cyfreithiol perthnasol fel rhan o’r broses hon. Dylai CyMAL ddatblygu, erbyn mis Ionawr 2015, y meini prawf i lyfrgell a gefnogir gan y gymuned gael ei chynnwys yn rhan o’r ddarpariaeth statudol a rhoi’r rhain ar waith o fis Ebrill 2015 ymlaen”.