Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cafodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) ei phasio ar 20 Ionawr 2021. Ym mis Rhagfyr 2021, ymgynghorais ynglŷn â chanllawiau statudol drafft ar gyfer y sector cynghorau cymuned a thref ar yr agweddau hynny ar y Ddeddf sy’n effeithio arno.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Mawrth ac rwy’n ddiolchgar am yr holl ymatebion a ddaeth i law. Yn gyffredinol, roedd cefnogaeth gref i’r canllawiau, a gofynnwyd am rai manylion ychwanegol ar faterion penodol. Gofynnwyd hefyd am astudiaethau achos pellach. Mae’r dadansoddiad llawn a’r ymateb i’r ymgynghoriad wedi’u cyhoeddi Ymgynghoriad – crynodeb o’r ymateb.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ffurfiol hwn, mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r canllawiau statudol heddiw.
Mae’r canllawiau statudol yn helpu cynghorau cymuned a thref i ystyried y gofynion os hoffent ddod yn gynghorau cymuned cymwys. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys gwybodaeth er mwyn helpu pob cyngor cymuned i gyflawni ei ddyletswyddau newydd, gan gynnwys:
- Ymuno â chyfarfodydd o sawl lleoliad
- Rhoi cyfle i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd cyhoeddus cynghorau
- Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol
- Paratoi a chyhoeddi cynllun hyfforddi i gefnogi hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr a staff cynghorau
Mae’r canllawiau ar gael drwy’r ddolen a ganlyn: Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: Canllawiau Statudol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref.