Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae symud o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion yn adeg bwysig i bobl ifanc sydd ag anghenion iechyd tymor hir, ac yn broses y mae angen ei gwella er mwyn sicrhau dilyniant yn y gofal a’r gwasanaethau a ddarperir.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, codwyd materion o ran y broses trosglwyddo a phontio gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a hefyd gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Rydym wedi datblygu canllawiau newydd ar ôl ymgynghori’n helaeth, er mwyn gwella’r gofal a ddarperir i bobl ifanc 16-25 oed yn ystod y cyfnod hwn, sy’n cynnwys yr amser cyn iddynt symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, y cyfnod yn ystod y broses symud ei hun, a’r cyfnod ar ôl iddynt symud. Nod y canllawiau yw gwella profiad pobl ifanc a’u gofalwyr wrth iddynt drosglwyddo, drwy wella sut mae gofal yn cael ei gynllunio a’i ddarparu.

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o gynllunio, gweithredu ac adolygu’r broses o bontio a throsglwyddo gofal rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion. Dylai’r gwaith cynllunio ar gyfer pontio rhwng y gwasanaethau hyn ddechrau pan fydd y person ifanc yn 13 -14 oed.

Mae’n bwysig bod gofal yn cael ei ddarparu mewn modd sy’n briodol yn ddatblygiadol, a’i fod yn canolbwyntio ar y claf, heb effeithio ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir, gan sicrhau bod ymgysylltu parhaus yn digwydd a bod profiad y claf yn dda.

Mae’r canllawiau’n helpu i weithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) mewn modd cyson. Rydym yn disgwyl i’r canllawiau gael eu hategu gan drefniadau llywodraethu cadarn a phrosesau a gweithdrefnau gweinyddu trylwyr yn lleol. Rhaid i holl sefydliadau’r GIG sicrhau bod eu hatebolrwydd yn glir a bod trefniadau cyflenwi cadarn ar waith, sy’n cynnwys adnabod a dynodi uwch-arweinydd pontio a throsglwyddo, a fydd yn atebol ar gyfer sicrhau ansawdd y gwaith trosglwyddo a bod y canllawiau pontio a throsglwyddo yn cael eu gweithredu’n briodol ar draws yr holl wasanaethau sylfaenol, cymunedol, eilaidd, ac arbenigol (trydyddol) a ddarperir gan ei sefydliad.

Hefyd bydd sefydliadau’r GIG yn adnabod ac yn penodi gweithiwr pontio a throsglwyddo a enwir i gefnogi’r gwaith o drosglwyddo gofal iechyd, ar gyfer pob person ifanc.