Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Daeth yr ymgynghoriad ar y Canllawiau drafft ar gyfer addysg camddefnyddio sylweddau, y bwriedir iddynt ddisodli Camddefnyddio Sylweddau: Plant a Phobl Ifanc, Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif: 17/02, i ben ar 26 Medi 2012. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal dros gyfnod o ddeuddeg wythnos ac roedd yn gyfle i randdeiliaid wneud sylwadau ar y canllawiau newydd arfaethedig a fyddai’n disodli Cylchlythyr Rhif: 17/02, a dylanwadu ar eu cynnwys.  

Gofynnais i fy swyddogion gynnal dadansoddiad manwl o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad gan fy mod am sicrhau bod yr holl sylwadau yn cael eu hystyried yn llawn. Yn gyffredinol, mae’r sylwadau a dderbyniwyd yn cytuno â chynnwys y canllawiau drafft. Yng ngoleuni’r safbwyntiau a fynegwyd gan y rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad, diwygiwyd y ddogfen ddrafft, yn bennaf i adlewyrchu’r safle diweddaraf o ran y polisïau a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig.

Mae’r diwygiadau hynny yn cynnwys defnyddio’r term ‘cyffuriau newydd a chyffuriau sy’n dod i’r amlwg’ (‘new and emerging drugs’ (NEDS)) i ddisodli ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’; cynnwys paragraff yn amlinellu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn ogystal â chydnabod y mewnbwn y gallai Timau Plismona yn y Gymdogaeth ei gynnig.    

Roedd yn glir hefyd, yng ngoleuni newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth, fod angen diwygio’r canllawiau ymhellach. Roedd y newidiadau deddfwriaethol yn cynnwys deddfwriaeth a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud darpariaeth resymol ar gyfer gwasanaethau cwnsela i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 11 ac 19 oed yn eu hardal. At hynny, cyflwynwyd hefyd Reoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag peryglon ysmygu drwy gyfyngu ar eu mynediad at gynnyrch tybaco, yn ogystal â Deddf Amddiffyn Rhyddid 2012 a oedd yn newid y diffiniad o ‘weithgaredd a reoleiddir’ yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, ac yn uno’r Swyddfa Cofnodion Troseddol â’r Awdurdod Diogelu Annibynnol i ffurfio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd dogfen yn crynhoi’r ymatebion a’r canllawiau diwygiedig terfynol ar gyfer addysg camddefnyddio sylweddau i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru cyn diwedd tymor yr haf 2013.