Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae bwyta bwyd maethlon yn hanfodol bwysig i blant yn ystod eu blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn eu helpu i dyfu a datblygu mewn ffordd iach, yn amddiffyn dannedd rhag pydru ac yn gosod sylfaen ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant yn y dyfodol. Gall lleoliadau gofal plant gynnig cyfle perffaith i annog plant ifanc i fwyta'n iach a dysgu am fwyd.

Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar safonau a chanllawiau arferion gorau Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant. Mae hyn yn cynnwys bwydlenni a rysetiau ar gyfer lleoliadau. Datblygwyd y canllawiau mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr o'r sector gofal plant ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Fodd bynnag, rydym am brofi'r canllawiau gyda'r sector, gan gynnwys darparwyr gofal plant, cydlynwyr cynlluniau meithrin, deietegwyr, arolygwyr ac yn bwysicaf oll, rhieni, er mwyn casglu adborth. Bydd fy swyddogion hefyd yn cynnal tri gweithdy ar draws Cymru i sicrhau cydweithio ymarferol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod wedi datblygu adnodd ymarferol a fydd yn gwella safonau maeth ledled Cymru yn y lleoliadau hyn.

https://beta.llyw.cymru/ymgyngoriadau

Mae'r canllawiau maeth yn un elfen o waith y Llywodraeth hon i atal a gostwng lefelau gordewdra.

Bydd yr aelodau'n ymwybodol o'n hymrwymiad drwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i ddatblygu strategaeth at y diben hwn. Mae cryn dipyn o waith eisoes wedi ei wneud i ddatblygu data, edrych ar dystiolaeth ac arferion rhyngwladol, trafod yn gynnar gyda rhanddeiliaid i lunio argymhellion a datblygu cyfleoedd trawslywodraethol. Byddaf yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni a fydd yn ceisio profi nifer o syniadau a chynigion gyda chymunedau ar draws Cymru.


Bydd y strategaeth yn un 10 mlynedd gyda'r nod o ddefnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i adeiladu newid cynaliadwy yn y tymor hir. Nid oes unrhyw atebion cyflym, unigol a fydd yn arwain at y newidiadau yr ydym am eu gweld. Mae angen amrywiol gamau gweithredu, ochr yn ochr â’i gilydd, i atal ac yna gostwng lefelau gordewdra a chynyddu cyfran y bobl sydd o bwysau iach.

Fodd bynnag, ni fyddaf yn aros i'r strategaeth gael ei chyhoeddi cyn gweithredu. Mae fy swyddogion yn gweithio ar amrywiol gamau gweithredu a fydd yn cael eu datblygu a'u cyflawni yn y tymor byr. Mae llunio canllawiau maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant yn rhan o'r gwaith hwn. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynghylch lansio'r ymgynghoriad yn y man.