Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau’n cofio i fy swyddogion sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen bach y llynedd, a oedd yn cynnwys ymarferwyr o dimau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru, ar gyfer paratoi fersiwn ddiwygiedig ddrafft o’r Canllawiau ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc.

Cafodd y grŵp ei gadeirio gan Ruth Richardson, pennaeth Cynorthwyol Nyrsio a Gofal Parhaus i Blant ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chadeirydd Fforwm Gofal Parhaus i Bobl Ifanc Cymru Gyfan, sy’n gweithredu o dan ambarél Fforwm Uwch-nyrsys Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan.

Roedd y grŵp wedi cyflawni ei waith yn dilyn gweithdy llwyddiannus a gynhaliwyd yn Stadiwm SWALEC ar 4 Hydref 2018, lle daeth cynrychiolwyr ynghyd o amrywiaeth o leoliadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru i drafod sut y gellid gwella’r canllawiau gofal parhaus.

Defnyddiodd y Grŵp gorchwyl a gorffen yr adborth a gafwyd o’r gweithdy hwnnw, ynghyd â’r mewnbwn a gafwyd gan gydweithwyr ym meysydd Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, i’w helpu yn y gwaith o ddiwygio’r canllawiau. Hefyd ceisiwyd barn gan swyddfa’r Comisiynydd Plant drwy gydol y broses. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y canllawiau diwygiedig yr hydref diwethaf, ac rwy’n falch o allu eu cyhoeddi heddiw.

Pan asesir bod plentyn neu berson ifanc yn gymwys i gael gofal parhaus, rwy’n disgwyl i asiantaethau megis y rhai iechyd, addysg, a gofal cymdeithasol gydweithio i sicrhau nad oes unrhyw fylchau yn y modd y bodlonir anghenion yr unigolyn sydd wedi cael ei asesu.

Byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, a’u partneriaid a fydd yn gyfrifol am drefnu’r gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r pecyn ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal parhaus, a byddant yn gwneud hynny gyda’r nod o alluogi’r plentyn neu’r person ifanc i fyw gyda’i deulu, yn ei gymuned, neu yn ei leoliad addysg neu ofal yn y modd mwyaf boddhaol posibl. Mae’n hollbwysig sicrhau bod anghenion y plentyn neu’r person ifanc yn ganolog i’r broses hon.

Ni ddylai unrhyw oedi mewn darparu gwasanaethau ddigwydd oherwydd ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn talu am agweddau penodol ar y gwasanaethau hyn, ac rwy’n disgwyl i bob parti ystyried defnyddio cyllidebau cyfun lle bo hynny’n bosibl.

Yn ogystal ag ystyried y newidiadau i ddeddfwriaeth sydd wedi cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diweddar yng Nghymru, nod y canllawiau yw hwyluso’r gwaith o wneud penderfyniadau effeithiol mewn modd amserol.