Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn aml, gall y sawl sy’n byw gyda phoen parhaus ddioddef symptomau a all effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau. Amcangyfrifir bod rhwng 11% ac 20% o’r boblogaeth yn byw gyda rhyw fath o boen parhaus, cyflyrau a all hefyd gael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl, y gallu i weithio a pherthynas gyda ffrindiau a theulu.

I gydnabod yr effaith sylweddol y gall y cyflyrau hyn ei chael ar fywydau pobl, gofynnodd Llywodraeth Cymru i grŵp gorchwyl a gorffen, sy’n cynnwys partneriaid clinigol ac academaidd a phobl sy’n byw gyda phoen parhaus, i baratoi canllawiau ar reoli poen parhaus a gwneud argymhellion ar gyfer datblygu’r gwasanaeth.

Mae’r canllawiau newydd hyn yn disodli’r Gyfarwyddeb Datblygu a Chomisiynu ar gyfer Poen Anfalaen Cronig, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2008. Mae’r canllawiau ar Fyw gyda Phoen Parhaus yng Nghymru i’w gweld yma: https://llyw.cymru/pobl-sydd-mewn-poen-yn-barhaus-canllawiau

Mae’r canllawiau hyn yn argymell nifer o gamau gweithredu i’r GIG er mwyn gwella gwasanaethau poen a chefnogi staff anarbenigol i ddeall y gwahanol driniaethau sydd ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys hunanreoli â chymorth, gwella ymwybyddiaeth o boen parhaus ymhlith staff gofal sylfaenol a’r cyhoedd, gan gynghori ar yr amrywiaeth o dechnegau triniaeth sydd ar gael a rhannu gwybodaeth yn well. Bydd Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan yn cael ei sefydlu i gefnogi byrddau iechyd i weithredu’r argymhellion yn y canllawiau.

Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i holl aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith caled wrth baratoi’r canllawiau, yr wyf yn falch o’u cyhoeddi heddiw.