Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Heddiw, rwy'n cyhoeddi canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru. Mae'r canllawiau gwirfoddol hyn yn annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â chasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd. Maent hefyd yn annog pleidiau i ystyried camau y gallant eu cymryd mewn perthynas â chwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod.
Daw'r canllawiau hyn yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau drafft, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Ionawr 2025. Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried y canllawiau drafft hynny ac i roi eu hadborth drwy ymateb i’r ymgynghoriad.
Daeth nifer o themâu i'r amlwg yn ystod yr ymarfer ymgynghori ac fe wnaethom geisio adlewyrchu'r rhain yn ein hymateb. Galwodd rhai ymatebwyr am fwy o eglurder ynghylch y nodweddion a'r amgylchiadau a nodir yn y canllawiau. Awgrymodd eraill ffyrdd y gallem wella a chryfhau'r arolwg templed ar gyfer pleidiau gwleidyddol. Rhannodd rhai rhanddeiliaid eu hamheuon ynghylch gallu pleidiau gwleidyddol i weithredu elfennau o'r canllawiau ac fe wnaethant alw am fwy o gefnogaeth i helpu pleidiau i wneud hynny. Roedd y gefnogaeth hon yn cynnwys camau y gallent eu cymryd i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
Nid oedd yn syndod bod llawer o’r ymatebwyr wedi tynnu sylw at yr angen i bleidiau gwleidyddol chwarae eu rhan wrth ddiogelu ymgeiswyr rhag bygwth, aflonyddu a cham-drin, ac i gefnogi'r rhai sy'n wynebu ymddygiad annerbyniol o'r fath.
Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau yng ngoleuni'r ymatebion. Mae'r rhain wedi cryfhau'r canllawiau a'u gwneud yn fwy defnyddiol i'r brif gynulleidfa, sef pleidiau gwleidyddol cofrestredig sy'n cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau Cymreig. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud yn bennaf â meysydd lle rydym wedi ceisio rhoi eglurhad ynghylch rhai agweddau; darparu syniadau ychwanegol ar gamau y gall pleidiau gwleidyddol eu cymryd; neu gyfeirio pleidiau at gefnogaeth ychwanegol mewn meysydd lle nodwyd y gallai hynny fod yn ddefnyddiol.
Er ein bod yn arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig gyda'r canllawiau gwirfoddol hyn, rwy'n croesawu ymrwymiad diweddar Llywodraeth y DU i gychwyn adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd y cam gweithredu hwn yn gosod gofyniad cyfreithiol ar bleidiau gwleidyddol cofrestredig i gyhoeddi data dienw am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd. Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i baratoi cyn i'r gofyniad cyfreithiol hwnnw gael ei gyflwyno.
Rwy'n cael fy nghalonogi gan awydd gwirioneddol yr holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd hon i weld nid yn unig mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth, ond hefyd mwy o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws nodweddion eraill. Wrth inni agosáu at etholiad y Senedd yn 2026, nawr yw'r amser i bob un o'r pleidiau sicrhau bod eu prosesau dethol ar gyfer ein Senedd fwy yng Nghymru wir yn adlewyrchu gwlad fodern ac amrywiol.
Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu’n barhaus. Mae pleidiau gwleidyddol wedi dangos bod ganddynt yr ewyllys i weld gwelliannau yn y maes hwn, ac mae'r canllawiau hyn yn rhoi'r offer iddynt wneud y gwelliannau hynny. Rwy'n galw ar bob un o'r pleidiau sy'n ymladd etholiadau Cymreig i gymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb am sicrhau bod yr ymgeiswyr y maent yn eu cyflwyno ar gyfer etholiad, ar bob lefel, yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol o'r bobl y maent yn ceisio eu gwasanaethu. Gyda'n gilydd, gallwn greu Senedd sy'n cynrychioli pobl o bob cefndir yn well ac yn gwasanaethu ein holl gymunedau, ac un lle mae gan bawb lais yn ein democratiaeth.