Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl Cymru, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae blaenoriaethau'r Llywodraeth ym maes tai yn glir: mwy o gartrefi, cartrefi o ansawdd gwell a gwell gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thai.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rôl y sector rhentu preifat ochr yn ochr â thai cymdeithasol a pherchentyaeth o ran bodloni anghenion pobl Cymru o ran tai. Rydym yn benderfynol o ddileu'r rhwystrau sy'n atal tenantiaid rhag symud o fewn y sector rhentu preifat a chael mynediad i'r sector. Bydd ein deddfwriaeth bresennol a'n Bil arfaethedig sy'n mynd i'r afael â'r ffioedd a godir ar denantiaid wrth gytuno ar denantiaeth yn gwella hygyrchedd a fforddiadwyedd y cartrefi hynny. Rydym yn parhau i ddatblygu a darparu deddfwriaeth tai sy'n ein helpu i sicrhau ein bod yn rhoi sylfaen gadarn i gefnogi cyflenwi cartrefi fforddiadwy, sy'n ddiogel ac o ansawdd da.
Ar 30 Tachwedd 2017, rhoddais wybod i Aelodau'r Cynulliad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y ffioedd a godir ar denantiaid. Lansiwyd ymgynghoriad ar 9 Gorffennaf 2017 a daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 27 Medi 2017. Tynnodd y canlyniadau sylw at y gefnogaeth eang ar gyfer gwahardd codi ffioedd ar denantiaid, sy'n cyd-fynd a'r dystiolaeth gynyddol sy'n dangos bod y ffioedd hynny yn peri llawer o anawsterau i denantiaid presennol neu ddarpar denantiaid.
Mae'r gwaith o ddadansoddi'r ymgynghoriad bellach ar ben. Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion. Dyma'r prif negeseuon:-
- Roedd 56% o'r holl ymatebion yn cytuno y dylid cael gwared ar ffioedd yn gyfan gwbl
- Pan fo ffioedd yn cael eu codi, dywed tenantiaid, ar gyfartaledd, bod ffi o £249.47 yn cael ei godi i gychwyn tenantiaeth, £108 i adnewyddu tenantiaeth a £142 ar ddiwedd tenantiaeth.
- Dywedodd 62% o denantiaid bod ffioedd wedi cael effaith ar eu gallu i symud i mewn i eiddo sy'n cael ei rentu, tra bo 86% yn dweud bod y ffioedd wedi cael effaith ar eu penderfyniad i ddefnyddio asiant.
- Nid oedd 61% o'r landlordiaid yn ymwybodol o'r symiau a oedd yn cael eu codi ar eu tenantiaid gan eu hasiant.
Mae'r casgliadau hyn yn cefnogi ein cynigion i wahardd ffioedd a godir ar denantiaid. Mae'n rhoi rhagor o dystiolaeth i ni fod y ffioedd hyn yn golygu na all nifer sylweddol o denantiaid fforddio’r sector rhentu preifat.
Byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth cyn bo hir i wahardd taliadau a godir ar denantiaid y sector rhentu preifat, oni bai am yr eithriadau cyfyngedig a nodir ar wyneb y Bil. Bydd unrhyw un sy'n gofyn am daliad gwaharddedig fel rhan o'r denantiaeth yn cyflawni trosedd.
Yn bwysicach na dim, mae’n rhaid gorfodi'r gwaharddiad hwn ar ffioedd a godir ar denantiaid, a hynny o ddifrif. O ganlyniad, bydd unrhyw berson sy'n codi taliad gwaharddedig yn destun camau gorfodi.
Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma:https://beta.llyw.cymru/ffioedd-godir-ar-denantiaid-yn-y-sector-rhentu-preifat