Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2011, yn gosod sylfaen y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi a fydd yn crynhoi’r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a’n partneriaid cymdeithasol i helpu cymunedau ac unigolion allan o dlodi.
Rwyf eisoes wedi dweud mai nod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf fydd trechu tlodi mewn cymunedau, ac mae hynny’n wir hefyd am ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol “Mae Pawb yn Cyfrif”. Mae’r ddwy fenter hyn yn rhannau allweddol o ymdrechion Llywodraeth Cymru i drechu tlodi.
Mae’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol wedi galluogi Llywodraeth Cymru i roi arweiniad i’w phartneriaid ar fynd i’r afael ag allgáu ariannol a gorddyledusrwydd yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar bum thema benodol:
- Mynediad at wasanaethau ariannol prif ffrwd;
- Darparu credyd a gwasanaethau fforddiadwy;
- Gwella mynediad at gyngor ar arian a dyled;
- Cynyddu gallu ariannol; a
- Sicrhau cymaint â phosibl o incwm.
Mae Rhaglen Gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys yr ymrwymiad i “gefnogi darparwyr cyngor y Trydydd Sector i gynorthwyo pobl â phroblemau dyled neu y mae angen help arnynt i reoli eu cyllid”. Mae gwella mynediad at wasanaethau cynghori a ddarperir yn gyson ac yn gyffredinol ledled Cymru yn hanfodol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol a ninnau’n disgwyl y newidiadau i’r trefniadau lles a budd-daliadau sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU.
Ar ben y newidiadau i’r system les a budd-daliadau, mae’r sector cynghori’n wynebu mwy o newidiadau nag erioed, megis terfynu’r Gronfa Cynhwysiant Ariannol, sy’n darparu cyngor wyneb yn wyneb ar ddyled; diwygio cymorth cyfreithiol; y wasgfa ar y cyllid a roddir i wasanaethau cynghori gan lywodraeth leol a’r posibilrwydd o drosglwyddo cyfrifoldebau am faterion defnyddwyr i’r Canolfannau Cyngor ar Bopeth.
Oherwydd anferthedd yr heriau a wynebwn, mae’r Gweinidog Cyllid a minnau wedi cytuno i gynnal adolygiad trwyadl o wasanaethau cynghori yng Nghymru. Yn allweddol i hyn fydd ceisio mewnbwn gan arbenigwyr yn y maes, defnyddwyr a chyllidwyr y gwasanaethau, a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd datganiad arall yn cael ei wneud yn y gwanwyn ynghylch cwmpas yr adolygiad a’r amserlen arfaethedig ar gyfer cyhoeddi’r canfyddiadau.
Yn y cyfamser, rwyf yn ddiweddar wedi cyhoeddi pecyn cyllid sylweddol ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru: mae’n darparu mwy na £100,000 i gynnal y gwasanaeth ffôn Llinell Gymorth Cymru yn 2011-12 ac yn cydgrynhoi cynlluniau defnyddio budd-daliadau presennol Llywodraeth Cymru (Cyngor Da: Iechyd Da, Defnyddio Budd-daliadau ar gyfer Plant ag Anableddau, Defnyddio Budd-dal y Dreth Gyngor a Defnyddio Budd-dal Tai) er mwyn gwella’r gwasanaethau cynghori sydd ar gael yng Nghymru. Bydd yr ymrwymiad ariannol i’r gwasanaeth hwn yn werth £2.2 filiwn y flwyddyn am dair blynedd, o Ebrill 2012.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod bod Swyddfeydd Post yn darparu ystod o wasanaethau sy’n helpu i atal allgáu ariannol, megis mynediad am ddim at arian parod a gwasanaethau bancio mewn cymunedau sy’n anghysbell neu wedi colli banc stryd fawr o ganlyniad i raglenni cau canghennau. Yn ddiweddar, ailagorais y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post, gan gyhoeddi bod £2 filiwn arall yn mynd i fod ar gael dros dair blynedd i swyddfeydd post lleol i wella cynaliadwyedd cyffredinol y rhwydwaith. Nod y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post yw annog swyddfeydd post i arallgyfeirio ac i wella’r busnesau manwerthu sydd ynghlwm wrthynt. Bydd hyn yn helpu swyddfeydd post i aros yn fasnachol hyfyw a chynaliadwy, ac yn dod â manteision ehangach i gymunedau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau hefyd i wella’r mynediad at gynhyrchion a gwasanaethau ariannol ar gyfer pobl ariannol allgaeëdig, na allant ddefnyddio’r gwasanaethau ariannol prif ffrwd a gynigir gan fanciau’r stryd fawr. Mae pobl na allant ddefnyddio cynhyrchion ariannol prif ffrwd yn dal mewn perygl o suddo i drobwll o ddyled afreolus, a waethygir yn aml gan weithgareddau darparwyr cyllid personol costus, cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog neu fenthycwyr arian anghofrestredig.
Mae Undebau Credyd yn cynnig dewis diogel a fforddiadwy yn lle’r darparwyr costus hyn. Fel darparwyr moesegol o gyllid personol fforddiadwy, mae’r mudiadau cydweithredol a chydfuddiannol hyn yn cynnig dewis fforddiadwy i’r bobl yn ein cymunedau sydd fwyaf mewn perygl o gael eu llethu gan orddyledusrwydd.
Buddsoddwyd £750,000 o gyllid refeniw a £1m o gyllid cyfalaf yn 2009/2010 i wella ‘Mynediad at Wasanaethau Ariannol drwy Undebau Credyd’. Mae £4.056m o gyllid wedi’i ddarparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop tan fis Medi 2013 i barhau â’r prosiect Mynediad at Gynhyrchion Ariannol drwy’r Undebau Credyd.
Ddiwedd Medi 2011, amcangyfrifwyd bod aelodaeth Undebau Credyd Cymru gan gynnwys cynilwyr iau yn 55,140. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd yn yr aelodaeth oedolion o fwy na 12 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Medi 2011 a chynnydd o fwy nag 11 y cant yn yr aelodaeth iau. Mae hyn wedi digwydd er gwaethaf tranc y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Amcangyfrifir bod y benthyciadau a ddarparwyd gan Undebau Credyd Cymru yn yr un cyfnod yn werth mwy na £13m, cynnydd o 22 y cant pan gymherir y cyfanswm â gwerth y benthyciadau a hysbyswyd ym Medi 2010.
Rhwng Ebrill 2009 a Medi 2010, darparodd Undebau Credyd wasanaethau ar gyfer mwy na 4,300 o aelodau newydd a oedd yn oedolion ariannol allgaeëdig, a gwasanaethau ar gyfer 482 o gynilwyr ifanc. Ers mis Hydref 2010, mae Undebau Credyd wedi helpu 4,900 arall o bobl i gael gafael ar gynhyrchion ariannol syml, tryloyw a fforddiadwy. Mae Undebau Credyd hefyd wedi recriwtio 1,400 arall o gynilwyr iau newydd ledled Cymru.
Er gwaethaf y llwyddiant hwn, mae yna ormod o bobl nad ydynt yn sylweddoli bod eu Hundeb Credyd lleol yn gallu cynnig gwybodaeth, cymorth a, lle y bo’n briodol, dewis fforddiadwy yn lle darparwyr cyllid personol eraill. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Beaufort Research Ltd ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd 52 y cant o’r ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o Undebau Credyd. Roedd yr ymateb hwn yn fwy na’r 46 y cant a oedd yn ymwybodol o ddarparwyr benthyciadau a siopau credyd ar y Rhyngrwyd, ond yn llai na’r 60 y cant o ymatebwyr a oedd yn ymwybodol o wystlwyr a chwmnïau credyd cartref, a’r 61 y cant a oedd yn ymwybodol o gwmnïau newid sieciau’r stryd fawr.
O’r rhai a oedd yn ymwybodol o Undebau Credyd ond heb ymaelodi, dywedodd 36 y cant nad oedd angen y gwasanaeth arnynt, dywedodd 11 y cant nad oeddent yn deall pwrpas undeb credyd, a dywedodd 9 y cant na fyddent yn ymaelodi ag Undeb Credyd.
Trwy’r prosiect Mynediad at Wasanaethau Ariannol drwy Undebau Credyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth busnes i undebau credyd gan The Social Investment Business. Yn ogystal â chynnwys cyngor ar gynllunio busnes, rheoli risg a darparu hyfforddiant yn effeithiol ar gyfer y tymor hir, mae’r cymorth hwn yn helpu i farchnata a hyrwyddo Undebau Credyd ledled Cymru gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau.
Mae’r gweithgarwch hwn yn cynnwys ymgyrch deledu genedlaethol a lansiwyd yn yr wythnos a gychwynnodd ar 13 Chwefror. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Undebau Credyd wedi cydweithio i gomisiynu hysbyseb deledu i’w darlledu dros bedair wythnos yn ystod 51 o doriadau hysbysebu rhaglenni’r dydd.
Dros y deunaw mis nesaf, bydd y gweithgareddau eraill i hyrwyddo Undebau Credyd yn cynnwys e-farchnata i ledaenu newyddion da am waith Undebau Credyd yng Nghymru, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â phobl ifanc 16-24 oed, er mwyn egluro manteision ymaelodi ag Undeb Credyd, yn ogystal â rhaglen o sioeau teithiol lleol mewn canolfannau lleol i godi ymwybyddiaeth ac i annog pobl i ymaelodi ag Undebau Credyd yn yr ardal. Fel y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, byddaf yn parhau i annog arweinwyr cymunedol, ffigyrau blaenllaw yn y gymdeithas a’r cyfryngau i helpu i hyrwyddo’r manteision a all ddeillio o ymaelodi ag Undeb Credyd lleol.
Rwyf hefyd wedi cael cynghorau lleol i helpu i hyrwyddo aelodaeth o Undeb Credyd drwy ddulliau megis didyniadau o’r gyflogres i gyflogeion y sector cyhoeddus. Ers fy llythyr at arweinwyr cynghorau lleol fis Awst y llynedd, sy’n cael sylw pellach gan fy swyddogion ar hyn o bryd, mae’r ymateb wedi bod yn galonogol. Gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr yn y cabinet, ein bwriad yw hyrwyddo undebau credyd ymhellach ac annog pobl ar draws cyrff sector cyhoeddus yn y sectorau iechyd ac addysg i ymaelodi.
Gyda’i gilydd, bydd cyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, adolygu’r gwasanaethau cynghori sydd ar gael i bobl Cymru, parhau i gynorthwyo Undebau Credyd a Swyddfeydd Post, ac annog cydweithredu agosach â darparwyr cymunedol eraill yn helpu i drechu tlodi ac allgáu ariannol ac yn cynnig rhywfaint o gymorth i bobl Cymru yn yr hinsawdd economaidd anodd hon.