Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 2 Gorffennaf, gofynnodd y Gweinidog Busnes imi ddarparu datganiad ysgrifenedig i roi’r diweddaraf i’r Cynulliad am y camau arfaethedig yn dilyn cyhoeddi adroddiad ymchwil annibynnol ar effaith llusernau awyr a balwnau heliwm ar dda byw, planhigion a’r amgylchedd.

Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn awgrymu nad ydynt yn cael llawer o effaith ar yr amgylchedd ac mai ychydig o berygl sydd iddynt achosi niwed neu farwolaeth i lawer o dda byw. Ar sail y canfyddiadau hyn, byddai’n anodd cyfiawnhau gwahardd naill ai lusernau awyr na balwnau heliwm. Fodd bynnag, rwy’n dal yn bryderus am y mater a byddaf yn parhau i gydweithio’n agos â’n partneriaid, yn enwedig Cadwch Gymru’n Daclus, er mwyn sicrhau bod llusernau awyr a balwnau heliwm yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd. Mae fy Mhrif Swyddog Milfeddygol, Dr Christianne Glossop eisoes wedi cyhoeddi cyngor i godi ymwybyddiaeth o’r effeithiau posibl ar iechyd a lles da byw a’r peryglon i adeiladau da byw, a bydd yn gwneud hynny eto cyn hir.

Byddaf yn ysgrifennu at awdurdodau lleol i’w hannog i ystyried peryglon llusernau awyr a balwnau heliwm yn eu hardaloedd nhw. Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod dau o awdurdodau lleol Cymru eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad gwirfoddol ar ryddhau llusernau awyr ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol, yn atal pobl rhag rhyddhau’r llusernau ar raddfa fawr ac yn codi ymwybyddiaeth yn lleol; rwyf am annog awdurdodau lleol eraill i wneud yr un peth. Rwyf hefyd am godi’r mater gyda sefydliadau elusennol er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried effeithiau ehangach rhyddhau balwnau neu lusernau awyr yn eu digwyddiadau.

Canfyddiad yr adroddiad oedd bod risg tân sylweddol yn gysylltiedig â'r defnydd o lusernau tân, yn bennaf i gnydau amaethyddol, adeiladau a rhostiroedd. Mae dyletswydd statudol ar y tri Awdurdod Tân ac Achub (ATAau) i hybu diogelwch tân yn eu hardaloedd. Mae’r ATAau yn annog pobl i beidio â defnyddio llusernau awyr ac rwy’n cefnogi eu safbwynt, ac mae'r Gweinidog Llywodraeth Lleol yn cefnogi'r safbwynt hwn. Mae Pwyllgor Lleihau Risg Cymunedol yr ATAau hefyd yn gosod cyfeiriad strategol ar gyfer diogelwch tân, addysg ac ymgysylltu, ac mae’n cefnogi’r ffordd y mae Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân yn mynd ati i ymdrin â’r canlynol ar lefel y Deyrnas Unedig:

  • cydweithio â’u swyddfeydd safonau masnach lleol i reoli’r defnydd a wneir o lusernau awyr a’r ffordd y cânt eu dylunio;
  • cydweithio â’u hawdurdodau heddlu lleol i’w hannog i beidio â chymeradwyo rhoi trwyddedau digwyddiadau ar gyfer digwyddiadau lle bwriedir rhyddhau llusernau;
  • cydweithio â thrwyddedwyr digwyddiadau lleol i annog pobl i beidio â defnyddio’r llusernau hyn; a
  • mynd ati gyda phartïon a chanddynt fuddiant, fel yr heddlu lleol a’r Awdurdod Hedfan Sifil, i edrych ar y posibilrwydd y gellid dwyn achosion cyfreithiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr adroddiad ymchwil yn dweud bod peryglon i awyrennau ac ati ymhlith y peryglon mwyaf a achosir gan lusernau awyr a balwnau heliwm.  Nid yw diogelwch yn yr awyr wedi’i ddatganoli a mater i’r Adran Drafnidiaeth a’r Awdurdod Hedfan Sifil yw cymryd camau i fynd i’r afael â’r peryglon hyn.  Yn ogystal, mae’r adroddiad ymchwil yn sôn bod llusernau awyr coch yn gallu arwain at alwadau diachos i Wylwyr y Glannau ac, er nad yw materion sy’n ymwneud â Gwylwyr y Glannau wedi’u datganoli, mae fy swyddogion i wedi cysylltu â Rheolwr Argyfyngau Sifil Posibl Gwylwyr y Glannau Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r adroddiad.  

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn bwysig darparu gwybodaeth briodol i’r cyhoedd fel y gall pobl wneud dewisiadau gwybodus wrth benderfynu a ydynt am ryddhau llusernau awyr a balwnau heliwm ai peidio.  Er bod gwybodaeth benodol y dylid ei chyhoeddi ynghylch rhyddhau’r pethau hyn ger meysydd awyr, meysydd glanio a’r glannau, credwn y byddai’n gwneud synnwyr i hyn gael ei ystyried fel rhan o’r wybodaeth gynhwysfawr a roddir i’r cyhoedd am y pethau hyn. Er nad yw’n fater datganoledig, rydym yn cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth iddynt symud ymlaen â’r gwaith o sicrhau bod y gwneuthurwyr yn rhoi rhybuddion clir ar y pecynnau. Byddwn yn cadw golwg fanwl wrth i Lywodraeth y DU gydweithio â manwerthwyr, gwneuthurwyr ac eraill i helpu’r cyhoedd i ddeall sut i ddefnyddio’r pethau hyn mewn ffordd gyfrifol. Yn ogystal, bydd fy swyddogion yn cyhoeddi dolenni ar wefan Llywodraeth Cymru yn arwain at ganllawiau ar sut i ddefnyddio llusernau awyr yn ddiogel.