Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 16 Medi 2020 cyhoeddais gam tri Cymorth i Brynu – Cymru, gan ddweud y byddai'r cynllun yn rhedeg am 12 mis o 1 Ebrill 2021, gyda'r gobaith o 12 mis arall pe bai cyllid ar gael. Heddiw, mae'n bleser gennyf gadarnhau y bydd y cynllun yn parhau am y cyfnod ychwanegol hwnnw o ddeuddeng mis ac y bydd ar gael tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

Mae hyn yn newyddion da i ddarpar gwsmeriaid, adeiladwyr tai mawr a bach, a phawb sy’n gysylltiedig â phrynu a gwerthu cartrefi newydd.

Rwyf am i bawb yng Nghymru gael mynediad at gartref fforddiadwy o ansawdd da, lle maent yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu cyrraedd eu llawn botensial. Mae Cymorth i Brynu – Cymru wedi chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r uchelgais hwn, ac fe fydd yn parhau i wneud hynny. Yn ystod tymor y llywodraeth hon, hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2020, llwyddodd y cynllun i ddarparu 8,503 o gartrefi, gan gynnig cymorth ariannol i alluogi pobl sydd angen cymorth i gyflawni eu breuddwyd o berchentyaeth. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf mae gennym y potensial i helpu llawer mwy i gyflawni'r freuddwyd honno.

Mae Cymorth i Brynu – Cymru wedi bod yn sbardun effeithiol i sicrhau arferion gorau, gan helpu i wneud yn siŵr mai dim ond pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol y defnyddir lesddaliad, er enghraifft mewn perthynas â gwerthu fflatiau. Bydd Cam 3 Cymorth i Brynu – Cymru yn cyfyngu rhenti tir ar gyfer cartrefi lesddaliad a werthir drwy'r cynllun i rhent hedyn pupur, a bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi fod o ansawdd da ac yn barod ar gyfer band eang.

Ein bwriad yw i’r cynllun barhau i arwain drwy esiampl. Er mai mater i'r Llywodraeth nesaf, wrth gwrs, fydd penderfynu a fydd Cymorth i Brynu – Cymru yn parhau y tu hwnt i 2023, gwn fod angen eglurder ar ddatblygwyr ynghylch disgwyliadau'r dyfodol wrth gynllunio. Felly, rwyf hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i nodi ein huchelgais y dylai cartrefi marchnad y dyfodol gyrraedd yr un safonau gofod ag yr ydym yn eu disgwyl gan gartrefi cymdeithasol. Byddai'r uchelgais hwn yn cael ei adlewyrchu mewn unrhyw estyniad i Cymorth i Brynu – Cymru yn y dyfodol.

Bydd pennu safonau cyfartal nid yn unig yn sicrhau bod gan bawb le i ffynnu ond hefyd yn agor cyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio rhwng darparwyr tai cymdeithasol ac adeiladwyr ar gyfer y farchnad, ac yn cefnogi datblygiad cymunedau deiliadaeth wirioneddol gymysg.

Wrth wneud y cyhoeddiad hwn heddiw rwy’n rhoi cyfle i bobl Cymru, a phawb sy'n ymwneud â'r diwydiant tai, allu cynllunio ar gyfer y dyfodol ac rwy’n egluro ein bwriad i barhau i ddefnyddio Cymorth i Brynu – Cymru fel dull o hyrwyddo arferion gorau a chynnal y gwaith o ddarparu cartrefi o ansawdd da i bobl Cymru.