Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn arswydo ac yn ofidus iawn ynghylch y duedd ddiweddar o dargedu athrawon a staff ysgolion ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n gwbl annerbyniol bod athrawon yn destun cynnwys cignoeth, sarhaus a niweidiol ar-lein, ac ni ddylid goddef unrhyw gam-drin o’r fath. Mae diogelu lles staff o’r pwys mwyaf, ac mae hynny hyd yn oed yn bwysicach o ystyried bod hwn yn gyfnod heriol i bawb.

Pan gaiff cam-drin mor warthus ei gyfeirio at athrawon ac ysgolion ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n cydnabod bod hyn nid yn unig yn cael effaith ofidus ar unigolion, gall hefyd gael effeithiau niweidiol sylweddol ar y gymuned addysg. Dyna pam, fel mater o flaenoriaeth, y gwnes i gyfarwyddo fy swyddogion i gysylltu â TikTok yn uniongyrchol i fynegi fy mhryderon ynghylch y gofid sylweddol y mae hyn yn ei achosi i athrawon, ac i ofyn am i unrhyw achosion o gynnwys amhriodol neu dramgwyddus gael eu dileu ar unwaith.

Mae swyddogion gweithredol TikTok wedi cadarnhau eu bod wedi ymrwymo i ddatrys y mater hwn ar fyrder. Rwy’n cael ar ddeall fod tîm hyder a diogelwch pwrpasol wedi’i sefydlu, sy’n gweithio ar frys i ddileu a/neu wahardd cyfrifon sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n dynwared ysgolion neu’n postio cynnwys sy’n bwlio neu gynnwys aflonyddu wedi’i gyfeirio at athrawon. Mae TikTok hefyd wedi cadarnhau bod cymedrolwyr cynnwys yn gweithio’n rhagweithiol i nodi a dileu unrhyw achosion newydd o gynnwys difrïol sy’n cael ei bostio ar y platfform. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda TikTok, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r mater hwn i mi’n rheolaidd.

Mae hon yn duedd amlwg ledled y DU ac mae’n hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull cydgysylltiedig, cydweithredol a chadarn. O’r herwydd, rydym yn gweithio’n agos gyda’r UK Council for Internet Safety, y mae ei aelodau’n cynnwys elusennau diogelwch ar-lein blaenllaw, Llywodraeth y DU a gwledydd datganoledig. Bydd fy swyddogion hefyd yn parhau i weithio gydag Undebau Llafur i roi cymorth iddynt hwy a’u haelodau.

Yn hollbwysig, mae Canolfan y DU ar gyfer Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel wedi cytuno ar broses uwchgyfeirio gyda TikTok drwy’r Professionals Online Safety Helpline er mwyn sicrhau bod cynnwys difrïol yn cael ei ddileu,.

Rwy’n annog pob athro neu aelod o staff ysgol sydd wedi profi unrhyw achosion o gam-drin ar-lein i roi gwybod i’r Professionals Online Safety Helpline.

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad i’r canllawiau ar heriau feirol niweidiol i ysgolion sydd bellach yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â chynnwys tramgwyddus wedi’i gyfeirio at staff ysgol a sut i roi gwybod am ddigwyddiadau.

Un o’r egwyddorion allweddol a amlinellir yn y canllawiau yw arfer gofal a phwyll er mwyn osgoi hyrwyddo’n anfwriadol, a thrwy hynny annog ymhellach, unrhyw duedd feirol niweidiol. Mae gwaith ymchwil tra hysbys ar gael sy’n tynnu sylw at achosion lle mae sylw llawn bwriadau da gan sefydliadau wedi cymell mwy o ddiddordeb mewn tueddiadau feirol yn anfwriadol. I’r perwyl hwnnw, byddwn yn pwyso am sgwrs gyfrifol a gofalus am y mater hwn a byddwn yn annog ysgolion i gyfeirio at y canllawiau hyn.

Mae gan bob ysgol ddyletswydd gofal tuag at aelodau staff ac felly dylent sicrhau bod unrhyw staff sy’n cael eu cam-drin ar-lein yn cael eu cefnogi’n briodol. Mae Undebau Llafur hefyd yn ffynhonnell gymorth ragorol, a byddwn yn annog ysgolion i ddelio ag unrhyw achosion o ymddygiad amhriodol yn unol â’u polisi ymddygiad.

Mae mynd i’r afael â’r ymddygiad hwn drwy addysg yn hanfodol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall pwysigrwydd dangos parch a bod yn ystyriol ar-lein ac all-lein. Yr wythnos ddiwethaf, yn ystod wythnos gwrth-fwlio, hyrwyddodd Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Plant amrywiaeth o adnoddau ystafell ddosbarth sydd ar gael ar ardal Cadwn ddiogel ar-lein Hwb i gefnogi sgyrsiau ynghylch ymddwyn gyda pharch ar-lein. Bydd fy swyddogion yn parhau i ddarparu amrywiaeth o adnoddau, gwybodaeth ac arweiniad y gellir eu defnyddio i hyrwyddo ymddygiad ystyriol ar-lein ac arfogi pobl ifanc gyda sgiliau i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol.

Er bod gan addysg rôl allweddol wrth fynd i’r afael â’r ymddygiad hwn, rwyf yn bendant o’r farn bod yn rhaid i blatfformau cyfryngau cymdeithasol gydnabod eu cyfrifoldeb a’u dyletswydd gofal i’w defnyddwyr a chwarae eu rhan wrth ddileu cam-drin ar-lein. Croesawaf yr addewid o amddiffyniadau gwell trwy’r Bil Diogelwch Ar-lein arfaethedig, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Ofcom i sicrhau dull cyson o ddarparu profiad ar-lein mwy diogel i bawb yn y pen draw.

Hoffwn orffen drwy ategu na ddylai unrhyw athro gael ei gam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef i ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael gan eich ysgol, Undeb Llafur a’r Professionals Online Safety Helpline. Yn olaf, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r holl athrawon hynny am eu gwaith caled a’u hymroddiad parhaus i’r proffesiwn.

Professionals Online Safety Helpline - UK Safer Internet Centre (Saesneg yn unig)