Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth mewn swyddi etholedig, gan weithio i alluogi a grymuso pobl sydd am sefyll mewn etholiad i wasanaethu eu cymunedau. Mewn gwlad sydd â phoblogaeth amrywiol, mae'n bwysig bod gan unigolion ffydd yn y trefniadau democrataidd sy'n darparu'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt. Mae felly'n hanfodol sicrhau bod safbwyntiau pob rhan o gymdeithas yn cael eu cynrychioli yn y trafodaethau a'r dadleuon sy'n digwydd yn ein cymunedau.  Heb gael yr ystod lawn o safbwyntiau, gall unigolion o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol deimlo eu bod yn cael eu hallgáu ac nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Canolbwyntiodd ein rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth ar ystod o weithgareddau a oedd yn ceisio goresgyn y rhwystrau y mae pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn eu hwynebu wrth ystyried cynnig eu hunain i sefyll mewn etholiad. Prif elfen y rhaglen oedd y prosiect mentora, lle roedd cynghorwyr presennol yn mentora aelodau o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. O'r 51 a gafodd eu mentora, safodd 16 mewn etholiadau, a chafodd 4 eu hethol.

Ar 26 Mehefin, cafodd gwerthusiad o'r rhaglen ei gyhoeddi. Daeth i'r casgliad, er bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiannus wrth fynd i’r afael â rhai o'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, y byddai wedi elwa ar gael dull gweithredu a oedd wedi'i dargedu'n fwy er mwyn gallu nodi atebion a oedd wedi'u teilwra'n fwy i unigolion. Mae hefyd yn canolbwyntio ar y diffyg ymwybyddiaeth o'r rôl y mae cynghorwyr yn ei chwarae a'r cyfraniad y maent yn ei wneud i fywydau unigolion mewn cymunedau. Mae'r adroddiad hefyd yn glir bod angen cynllun ariannu i gefnogi pobl anabl pan fônt yn sefyll mewn etholiadau ac yn ystod eu cyfnod fel cynghorwyr.

Mae nifer o'r meysydd y mae'r gwerthusiad yn tynnu sylw atynt yn adlewyrchu materion tebyg i'r rheini a nodwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau drwy ei waith ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu adroddiad y Pwyllgor ac wedi derbyn y mwyafrif o'r 22 o argymhellion.

Yn ogystal â chefnogi unigolion i sefyll mewn etholiad, mae hefyd yn bwysig parhau i roi'r gefnogaeth honno i unigolion drwy gydol eu gyrfaoedd fel aelodau etholedig. Mae adroddiad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar nifer o faterion pwysig, gan gynnwys mynychu o bell, trefniadau rhannu swydd a chefnogaeth i bobl anabl sydd am sefyll mewn etholiadau. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn yr holl feysydd hyn. 

Er enghraifft, ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd ar y gweill, rydym yn bwriadu diwygio'r adrannau ar fynychu o bell ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, i'w gwneud yn haws i gynghorau hwyluso mynychu o bell mewn cyfarfodydd.  Byddwn hefyd yn cynnwys darpariaethau i hwyluso trefniadau rhannu swyddi ar gyfer aelodau o weithrediaeth cyngor ac arweinwyr. Bydd y Bil hefyd yn cynnwys dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau priodol o ymddygiad, ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol gyhoeddi cyfeiriad swyddogol eu haelodau etholedig, yn hytrach na'u cyfeiriadau cartref. Felly, byddai angen i awdurdodau lleol ddarparu cyfeiriad swyddfa swyddogol i aelodau ei ddefnyddio ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.

Mae cyfoeth o ymchwil a dulliau ymarferol eisoes ar gael sy'n nodi'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan lawn mewn democratiaeth leol. Yr hyn sydd ei angen nawr yw dysgu o'r holl waith hwn a rhoi trefniadau ar waith a fydd yn helpu unigolion i oresgyn y rhwystrau hyn.

Bydd ail gam y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn manteisio ar y gwaith hwn, ac yn cynnwys:

  • Ymgyrch gyfathrebu – bydd gan yr ymgyrch hon ddau brif nod. Y cyntaf fydd codi ymwybyddiaeth o rôl cynghorwyr a sut y maent yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion lleol. Yr ail nod fydd annog pobl o gefndiroedd amrywiol i sefyll fel cynghorwyr.
  • Cefnogaeth i unigolion anabl – sefydlu cynllun i gefnogi pobl anabl i ymgeisio mewn etholiadau drwy fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau ariannol a gweithredol sy'n eu hatal rhag cymryd rhan. Caiff hyn ei roi ar waith mewn pryd ar gyfer yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf.
  • Trefniadau absenoldeb teuluol - rydym yn bwriadu cynyddu'r cyfnod o absenoldeb sydd ar gael i aelodau etholedig sy'n mabwysiadu plant, drwy'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau.

Yn ogystal â hyn, mae angen gwneud gwaith pellach mewn nifer o feysydd i nodi camau gweithredu allweddol i'w cymryd i gefnogi amrywiaeth bellach. 

Byddaf yn cadeirio trafodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol ym mis Medi i drafod nifer o'r meysydd hyn a chytuno ar ystod o gamau penodol i'w cymryd. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Hyfforddi a Datblygu
  • Trefniadau gweithio hyblyg
  • Diogelu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol cynghorwyr
  • Cymorth i unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig
  • Casglu a dadansoddi data i lywio mentrau yn y dyfodol

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid mewn nifer o weithdai i nodi cyfres o gamau a phennu amserlen er mwyn gallu symud y gwaith hwn ymlaen yn ddi-oed. Byddaf yn cadeirio trafodaeth bellach ym mis Rhagfyr i ystyried canlyniad y gweithdai hyn a chytuno ar raglen gyflawni.

Bydd yn bwysig bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn unol â'r gwaith ehangach ar faterion cydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt, gan gynnwys yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol a'n gwaith ar ddatblygu a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, sy'n cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip. Byddaf yn ysgrifennu cyn hir at nifer o randdeiliad allweddol i'w gwahodd i gymryd rhan yn y cam nesaf hwn o'n rhaglen.