Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o gyflwyno’r datganiad hwn i’r Aelodau, yn amlinellu’r cynnydd sydd wedi ei wneud o ran cam 3 y broses o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith. Mae hyn yn cynnwys gosod:

  • Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
  • Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
  • Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
  • Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018.

Byddaf hefyd yn rhoi diweddariad ar reoleiddio gwasanaethau mabwysiadu ac yn crybwyll ein cynlluniau ar gyfer y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud â sefydlogrwydd y farchnad ac asesiadau ariannol.

Ymgynghori ar reoliadau cam 3 yn ymwneud â gwasanaethau lleoli oedolion, eirioli a maethu a gosod y rheoliadau hynny

Er mwyn bwrw ymlaen â rhoi’r Ddeddf ar waith, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ddiweddar ar fersiynau drafft o’r rheoliadau uchod ynghylch lleoli oedolion ac eirioli. Yn ogystal, ymgynghorwyd ar y darpariaethau yn y ddwy set o reoliadau maethu, wedi’u cyfuno. Erbyn hyn rydym wedi gwahanu’r gofynion sydd ar wasanaethau maethu rheoleiddiedig (annibynnol) o dan y Ddeddf, a’r gofynion sydd ar ddarparwyr awdurdodau lleol, a wnaed o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac wedi creu dau offeryn ar wahân. Gwnaethpwyd hyn am eu bod yn destun gweithdrefnau craffu gwahanol – un yn gadarnhaol a’r llall yn negyddol. Fodd bynnag mae’r cynnwys yn dal yr un fath â’r cynnwys yr ymgynghorwyd arno, ac mae’r newidiadau oedd i’w gwneud yn dilyn yr ymgynghori wedi’u cynnwys bellach, fel yr amlinellir yn y crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r broses ymgynghori (manylion pellach isod).

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad dros gyfnod o ddeuddeg wythnos rhwng mis Mai a mis Awst 2018. Cafodd y Rheoliadau, fel y’u diwygiwyd yn dilyn yr ymgynghori, eu gosod gerbron y Cynulliad cyn y toriad ac mae’r adroddiadau ymgynghori, y canllawiau statudol drafft a’r cod ymarfer drafft wedi’u cyhoeddi hefyd.

http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?assembly=5&category=Laid%20Document

https://beta.llyw.cymru/rheoliadau-gwasanaethau-lleoli-oedolion

https://beta.llyw.cymru/rheoliadau-gwasanaethau-eirioli

https://beta.llyw.cymru/rheoliadau-gwasanaethau-maethu

https://gov.wales/topics/health/socialcare/regulation/?skip=1&lang=cy

Derbyniwyd cyfanswm o 70 o ymatebion ysgrifenedig i’r tri ymgynghoriad, gan ystod eang o randdeiliaid, a chafwyd cyfraniadau gwerthfawr hefyd gan y 130 o bobl a ddaeth i’n digwyddiadau ymgynghori. O ganlyniad, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau o sylwedd i’r rheoliadau er mwyn hybu ein bwriadau polisi, sef sicrhau bod y gwaith rheoleiddio ac arolygu yn  helpu unigolion i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol ac yn gwella ansawdd a pharhad y gofal, gan hefyd symleiddio’r systemau rheoleiddio ar gyfer y darparwr gwasanaeth ac arolygiaeth Gofal Cymru. Hoffwn dynnu sylwi’r Aelodau at rai o’r newidiadau hynny, isod.

Newidiadau i’r rheoliadau yn dilyn yr ymgynghori

Ar sail yr ymatebion i’r ymgynghori, rydym wedi newid peth ar y derminoleg, er mwyn teilwra’r rheoliadau agosach i’r math penodol o wasanaeth.

Mae geiriad y rheoliadau lleoliadau oedolion wedi’u diwygio i gyfeirio at ‘bolisi a gweithdrefnau .. ar baru ar gyfer cydweddu’ yn hytrach nag at ‘leoliadau’. Gwnaed hynny yn sgil nifer o sylwadau na ddylai lleoli oedolion gael ei ystyried yn unig fel dod o hyd i lety i unigolion, ond ei bod yn hanfodol yn hytrach bod y geiriad yn adlewyrchu pwysigrwydd dewis personol yr unigolyn a sicrhau cydweddu rhyngddynt hwy a’r teulu y byddant yn byw gydag ef.

Yn yr un modd, o ran eirioli, mae’r cynllun y mae gofyn i ddarparwr ei lunio ynglŷn ag unigolyn wedi’i ailenwi’n “gynllun eirioli” i sicrhau na fydd cymysgu rhyngddo a mathau eraill o gynllun a allai fod ar waith ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth.

Ymysg  y newidiadau polisi a wnaed yn sgil adborth yn ystod yr ymgynghori, mae’r canlynol:

Bydd yr eithriad ar gyfer person sy’n darparu eiriolaeth ar gyfer pedwar o bobl neu lai mewn blwyddyn yn cael ei newid i gynnwys darparu ar gyfer grŵp mawr o frodyr a chwiorydd, heb ystyried pob plentyn yn achos unigol. Bydd yr eithriad yn gymwys i unigolyn neu i sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth.

O ran rheoleiddio ac arolygu maethu, bydd y ddyletswydd gonestrwydd yn cael ei chymhwyso i wasanaethau awdurdodau lleol yn ogystal ag i ddarparwyr annibynnol, ac mae’r gofyniad ar awdurdodau lleol i benodi rheolwr gwasanaethau maethu wedi’i ddiwygio fel y gall dau neu ragor o awdurdodau lleol benodi un rheolwr ar gyfer gwasanaeth rhanbarthol, yn unol â’r broses o roi’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol ar waith.

Yn olaf, yn unol â’n hymrwymiad i gysoni’r gofynion rheoleiddio, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol, rydym yn pennu y bydd adolygiadau ansawdd gofal/gwasanaeth yn cael eu cynnal bob 6 mis ar draws y gwasanaethau rheoleiddiedig a’r mathau o ddarparwyr hyn. Rydym hefyd yn cyflwyno darpariaeth bontio gyffredin i reolwyr gwasanaethau lleoli oedolion a maethu a fydd yn caniatáu iddynt, tan fis Ebrill 2022, gaffael y cymwysterau angenrheidiol i gofrestru â’r rheoleiddiwr gwasanaethau, Gofal Cymdeithasol Cymru. Gan y bydd y cymwysterau gofynnol ar gyfer eiriolaeth yn barod ar gyfer mis Medi 2020, rydym wedi pennu Medi 2022 yn ddyddiad ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Rheoleiddio gwasanaethau mabwysiadau a dyddiad dod i rym cyffredin ar gyfer cam 3

Daeth ein hymgynghoriad ar reoleiddio gwasanaethau mabwysiadu i ben ar 27 Tachwedd 2018 ac mae’r gwaith o ddadansoddi’r ymatebion ar y gweill. Rwy’n ddiolchgar i bawb a fynychodd y ddau ddigwyddiad ymgynghori ddechrau mis Tachwedd, ac i’r rhai a gyflwynodd ymatebion ffurfiol, am eu barn ystyrlon a’u sylwadau gwerthfawr ynglŷn â sut y gellid mireinio’r rheoliadau. Bydd y rhain yn awr yn cael eu hastudio a bydd diwygiadau’n cael eu gwneud fel y bo’n briodol, cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Cynulliad fis Chwefror 2019. Dylai hyn ein galluogi i bennu’r un dyddiad dod i rym, sef 29 Ebrill 2019, ar gyfer holl wasanaethau cam 3. O’r dyddiad hwnnw bydd gofyn iddynt wneud cais i ailgofrestru (neu, yn achos darparwyr eiriolaeth, cofrestru o’r newydd) gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae gwaith ymgysylltu ar y gweill gan yr arolygiaeth i roi gwybodaeth i’r darparwyr ac i’w helpu i baratoi.

Sefydlogrwydd y farchnad

Yn olaf, gallaf gadarnhau bod trefniadau’n cae eu gwneud i sefydlu grŵp technegol o randdeiliaid allweddol i helpu i ddatblygu rheoliadau, lle bo angen, i roi darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â sefydlogrwydd y farchnad a goruchwyliaeth ariannol ar waith. Bydd hyn yn rhan o’r ystyriaethau ehangach ynglŷn â gwaith dilynol ar asesiadau poblogaeth a chynlluniau ardal. Bwriedir cynnal gweithdai yn ystod y misoedd nesaf gyda golwg ar ymgynghori ar gynigion yn ystod yr haf. Dylai hyn olygu y bydd modd i’r rhan honno o’r fframwaith statudol fod yn weithredol o 2020 ymlaen, sy’n ymrwymiad a wnaed gan fy rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, yn ei ddatganiad llafar ar 22 Mai 2018. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar ei waith ef a’i ragflaenwyr yn rhoi’r Ddeddf ar waith hyd yma a byddaf yn croesawu ystyriaeth ehangach o’n cynlluniau ar gyfer goruchwylio’r farchnad gofal cymdeithasol, yn ddiweddarach eleni.