Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ar ddechrau pandemig y coronafeirws, a phan ddaeth rheoliadau aros gartref i rym yng Nghymru, cyhoeddais £10m o gyllid ychwanegol i sicrhau nad oedd unrhyw un heb fynediad i lety. Roedd hyn yn golygu y gallai pawb ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd ar hylendid sylfaenol a golchi dwylo, gan eu galluogi i ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol a sicrhau eu bod yn gallu hunanynysu os oeddent yn mynd yn sâl.
Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel. Mae mwy na 800 o bobl wedi cael llety ers i’r cyfyngiadau symud dechrau. Cyn hyn roedd llawer o bob yn cysgu ar ein strydoedd; roedd eraill yn amddifad am nad oedd hawl ganddynt i gael arian cyhoeddus, ac roedd llawer yn byw mewn modd a ddisgrifir fel 'digartrefedd cudd’ –yn byw mewn modd ansicr fel 'syrffwyr soffa' neu mewn llety dros dro anaddas.
Mae ymdrech gydweithredol y sector i ddarparu ar gyfer y bobl hyn wedi bod yn anhygoel. Yr wyf yn cymeradwyo eu hymdrechion ond hefyd yn cydnabod yr heriau enfawr sy'n ein hwynebu a'r her barhaus.
Nid yw hyn yn golygu ein bod wedi datrys digartrefedd yng Nghymru. Os rhywbeth yr ydym wedi'i atal dros dro, ond ein nod o hyd yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
Nid yw Llywodraeth Cymru am weld pobl yn cael eu gorfodi’n ôl i’r strydoedd. Mae gennym gyfle unigryw i newid y gwasanaethau a newid bywydau – er gwell a gwneud digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw’n digwydd eto.
Nid oes terfyn amser i'r £10m o gyllid argyfwng a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, er ei fod wrth gwrs yn gyfyng ei natur, felly mae angen i ni gynllunio ar y cyd ar gyfer y camau nesaf ar y daith hon.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r ‘cam' nesaf yn ein hymateb i ddigartrefedd - cynllun i ailgartrefu pawb sydd wedi cael lloches frys yn ystod pandemig y coronafeirws. Bydd hyn yn cyd-fynd â thrawsnewid gwasanaethau a, hyd at £20m o gyllid ychwanegol.
Byddwn yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi cynllun cam dau sy'n nodi sut y byddant yn sicrhau nad oes angen i unrhyw un ddychwelyd i'r stryd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu er mwyn trawsnewid y llety a gynigir ar draws Cymru gyfan.
Bydd y cynlluniau hyn yn gallu sicrhau cyllid - refeniw a chyfalaf - o'r gronfa £20m. Byddwn yn disgwyl gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn, a fydd yn dod ag arbedion a manteision hirdymor i'n gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â'r potensial i drawsnewid bywydau'r unigolion dan sylw.
Caiff y cynllun ei gyhoeddi'n llawn ar ôl y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i gefnogi awdurdodau lleol, a'u holl bartneriaid, i gynllunio ar gyfer y cam nesaf sydd i'w gynnal yn hwyrach yr wythnos hon.
Mae awdurdodau lleol eisoes yn gweithio'n galed gyda phobl mewn llety brys i sicrhau bod cefnogaeth effeithiol, gyda chymorth i symud ymlaen i ddewisiadau tai hirdymor. Bydd eglurder ynghylch disgwyliadau a'r cymorth y gallwn ni fel Llywodraeth ei gynnig ar gyfer y cam nesaf a fydd yn eu cefnogi gyda’r gwaith hwn.
Mae’r cynllun wedi'i seilio'n gadarn ar yr argymhellion a dderbyniais oddi wrth y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd cyn i'r argyfwng hwn gymryd gafael. Rwy'n ddiolchgar i'r grŵp am eu hymgysylltu a'u cymorth parhaus wrth ystyried yr argymhellion hynny yng nghyd-destun COVID 19 a'r sefyllfa bresennol.
Yr wyf yn llawn cyffro ynghylch y cyfle sydd gennym ger ein bron. Bydd yn heriol iawn, ond ar sail yr hyn rydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd hyd yma, rwy'n hyderus y gallwn yn awr wneud newid sylweddol tuag at gyflawni ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.