Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 8 Gorffennaf, esboniodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y sefyllfa diweddaraf ynghylch y Rhaglen Datblygu Gwledig ac y byddem, wrth drafod y Rhaglen Datblygu Gwledig â’r Comisiwn Ewropeaidd, yn parhau i weithio ar y trefniadau i’w rhoi ar waith. 

I’r perwyl hwn, mae’n dda gennyf gyhoeddi heddiw y bydd y pecyn cyntaf o gymorth o dan Rhaglen Datblygu Gwledig newydd Cymru, Glastir Organig, ar gael i ffermwyr geisio amdano o 1 Hydref ar gyfer contractau sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2015. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dangos y ffordd i weddill y DU yn ei chefnogaeth i’r sector organig.  Y ni oedd y cyntaf i gynnig estyniad i bontio’r cymorth o’r Cynllun Datblygu Gwledig blaenorol a ni oedd y cyntaf i ymrwymo i ddarparu cymorth yn 2015.  
Bydd Glastir Organig yn rhoi cymorth ariannol i ffermwyr a chynhyrchwyr organig fel cydnabyddiaeth o’u gwasanaethau i’r amgylchedd yng Nghymru.  Mae systemau ffermio organig yn gweithio gyda natur i gynnal ffrwythlondeb y pridd ac i reoli plâu a chlefydau, gan amddiffyn ein hafonydd, ein bywyd gwyllt a’n pryfed peillio.  Bydd cymorth ar gael i’r cynhyrchwyr organig presennol er mwyn iddynt allu parhau i ffermio’n organig a hefyd i’r rheini sydd am newid o ffermio confensiynol i ffermio organig. 

Daw  cytundebau’r Cynllun Troi at Ffermio Organig i ben ar 31 Rhagfyr 2014 er mwyn i ffermwyr allu ymgeisio am gontractau Glastir Organig sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2015.  Byddent yn cael cynnig cyfraddau talu mwy ffafriol sy’n adlewyrchu’r cynnydd diweddar yn y costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu organig. 

Bydd cyfnod ymgeisio am Glastir Organig ar-lein yn dechrau ar 1 Hydref ac yn gorffen ar 29 Hydref ar gyfer contractau sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2015. 

Mae’r cynllun newydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ffermwyr a chynhyrchwyr organig.