Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Gwnes eich hysbysu ym mis Gorffennaf ynghylch penodi'r Comisiwn Gwaith Teg a fydd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Linda Dickens.
Cylch Gorchwyl y Comisiwn yw:
"Ar sail tystiolaeth a dadansoddiad mae'r Comisiwn i wneud argymhellion i hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru.
Bydd y Comisiwn yn datblygu dangosyddion a mesurau gwaith teg a nodi ffynonellau data i helpu i fonitro cynnydd. Bydd yn ystyried a ellid datblygu’r ffyrdd o fesur sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd er mwyn hyrwyddo gwaith teg, yn nodi pa gamau newydd neu ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys deddfwriaeth newydd, ac yn cyflwyno argymhellion.
Diben y datganiad hwn yw tynnu eich sylw at gais y Comisiwn Gwaith Teg am dystiolaeth a lansiwyd ar 12 Hydref. Lansiodd y Comisiwn ei Gais am Dystiolaeth ar 12 Hydref ar ei wefan https://beta.llyw.cymru/comisiwn-gwaith-teg a bydd modd cyflwyno tystiolaeth tan 19 Tachwedd 2018.
Mae'r Cais am Dystiolaeth yn cael ei anelu at amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae'r Comisiwn yn dymuno elwa ar ystod eang o brofiad, safbwyntiau ac ymchwil sy'n berthnasol i gylch gorchwyl y Comisiwn Gwaith Teg. Nid ymgynghoriad am gynigion sydd wedi cael eu datblygu eisoes mohono ond yn hytrach gais yn gynnar yn y broses i helpu'r Comisiwn i baratoi ei gynigion ac i lunio'r argymhellion a fydd yn eu cyflwyno i'r Gweinidogion.
Bydd y Comisiwn hefyd yn ysgrifennu at Gadeiryddion Pwyllgorau'r Cynulliad fel rhan o'r cais am dystiolaeth.