Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - ‘Cais am Dystiolaeth’ o ran cyflenwi tai drwy’r system gynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er mwyn bodloni’r angen cynyddol am dai yng Nghymru, mae’n hanfodol adeiladu tai newydd o ansawdd uchel yn y mannau cywir. Mae’r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, yn cryfhau rôl y system gynllunio drwy gydnabod bod penderfyniadau cynllunio o bwys mawr wrth gyflawni prif nod y strategaeth. Felly, mae gan y system gynllunio rôl bwysig i’w chwarae wrth gyflawni amcanion y strategaeth genedlaethol, gan gynnwys sicrhau y bydd cynlluniau datblygu’n canolbwyntio ar gyflawni yn y dyfodol.

Ar 10 Mai 2018, cyhoeddais fy mod yn bwriadu cynnal adolygiad eang ei gwmpas o gyflenwi tai drwy’r system gynllunio. Roedd hyn mewn ymateb i’r sefyllfa bresennol o safbwynt y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai, ac yn ymwneud yn uniongyrchol â thangyflawni o ran diwallu’r angen am dai a nodir mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

Fel rhan gychwynnol o’r adolygiad eang ei gwmpas, rwyf yn cyflwyno ‘Cais am Dystiolaeth’ i ystyried sut y gall y system gynllunio helpu i ddarparu mwy o dai newydd mewn lleoliadau cynaliadwy. Mae’r ‘Cais am Dystiolaeth’ yn dechrau heddiw, sef 18 Gorffennaf 2018, a bydd yn para am gyfnod o 12 wythnos.
 
Mae’r ‘Cais am Dystiolaeth’ yn rhoi cyfle i randdeiliaid gyflwyno safbwyntiau a chynigion,  sy'n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai a materion eraill o ran cyflawni. Fodd bynnag, rwyf yn credu bod y egwyddorion cyffredinol a ganlyn yn berthnasol, a dylid mynd i’r afael â hwy ar sail y dystiolaeth a gyflwynir:

• Mae’n rhaid gwneud penderfyniadau cynllunio yn unol â chynllun datblygu cyfredol – sef y dull rheoli datblygu ar sail cynllun;

• Mae’n rhaid pennu’r angen am dai yn unol â’r dystiolaeth, ac mae’n rhaid dangos bod modd darparu’r tai ar yr holl safleoedd a nodir;

• Mae’n rhaid i drefniadau monitro a’r camau gweithredu cysylltiedig gryfhau’r dull rheoli datblygu ar sail cynllun.

Oherwydd y sefyllfa bresennol o safbwynt y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai ar draws Cymru, mae rhai Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cael ceisiadau ‘tybiannol’ i adeiladu tai ar safleoedd nad ydynt wedi’u dyrannu ar gyfer datblygiad mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae hyn yn creu ansicrwydd mewn cymunedau ac yn cael effaith andwyol ar y system ar sail cynlluniau. Felly, er mwyn cefnogi’r adolygiad ac i liniaru peth o’r pwysau y mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn ei wynebu ar hyn o bryd, rwyf wedi penderfynu datgymhwyso paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN 1): Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai. Mae hyn yn dileu’r paragraff sy’n cyfeirio at roi pwysoliad “sylweddol” i’r diffyg cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai fel ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai.

O ganlyniad i ddatgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1, mater i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau fydd penderfynu ar faint o ystyriaeth y dylid ei rhoi i'r angen i gynyddu’r cyflenwad o dir ar gyfer tai pan nad oes gan Awdurdod Cynllunio Lleol ddigon o dir ar gyfer tai.

Mae datgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1 yn cael effaith o 18 Gorffennaf 2018 ymlaen. Bydd hyn yn effeithio ar bob cais cynllunio sydd wedi’i gyflwyno ond nad yw’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu arno. Ni fydd y datgymhwyso yn berthnasol i geisiadau cynllunio pan fo penderfyniad wedi’i wneud i gymeradwyo’r cais yn amodol ar lofnodi cytundeb adran 106.

Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynyddu’r cyflenwad o dai er mwyn diwallu anghenion cymunedau ledled Cymru i ymateb i’r ‘Cais am Dystiolaeth’.