Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw sy'n disgrifio'r galw am ddur ar gyfer prosiectau seilwaith ac adeiladu’r sector cyhoeddus yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'n cyfrifo'r gofynion o ran y dur y bydd ei angen yn y dyfodol er mwyn cwblhau'r prosiectau seilwaith ac adeiladu sydd i'w gweld yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

Rwyf yn croesawu'r adroddiad ac yn derbyn yr holl argymhellion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio prosesau caffael cyhoeddus i gynnig cyfleoedd sy'n agored ac yn hygyrch i gyflenwyr lleol a chyflenwyr y DU wneud cais am gontractau cyhoeddus, naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r gadwyn gyflenwi.

Mae'r sector dur wedi wynebu heriau sylweddol yn ddiweddar, ac mae’r heriau hynny’n parhau. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi hwb i hyder cyflenwyr dur Cymru a'r DU ac yn dystiolaeth iddynt bod galw am eu cynnyrch ymhlith sector cyhoeddus Cymru. Ceir manylion o’r swm a'r math o ddur y bydd ei angen wrth gyflawni prosiectau’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n y dyfodol, prosiectau sy’n cynnwys datblygu’r ffyrdd a'r rheilffyrdd, ysbytai newydd a'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif.

Dyma un o'r darnau o waith yr ydym ni wedi'i wneud fel rhan o lif gwaith caffael y Tasglu ar gyfer cwmni dur Tata. Mae cyhoeddi’r adroddiad yn enghraifft bellach o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i gyflenwyr dur Cymru wrth iddynt wynebu heriau byd-eang.