Jane Hutt , Y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario dros £4.3 biliwn, neu tua un rhan o dair o'i gyllideb ar nwyddau a gwasanaethau allanol. Caiff y modd y mae’r rhain yn cael eu comisiynu a’u caffael effaith pellgyrhaeddol ar effeithlonrwydd ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar y gymuned busnes yng Nghymru.
Mae hyn yn arbennig o hanfodol yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Dangoswyd lefel y pryder a deimlir gan fusnesau gan yr ymateb i'r fframwaith adeiladu ysgolion diweddar a ddyfarnwyd gan Gyngor Sir Powys. Yn yr ymarfer yma, crëwyd ‘lotiau’ ar gyfer prosiectau llai eu gwerth a defnyddiwyd amodau ‘budd i’r gymuned’. Mae swyddfeydd yng Nghymru gan bob un o'r chwe chyflenwr a enillodd mewn cystadleuaeth agored ac maent yn cyflogi pobl leol ac fel rhan o'r fframwaith, mae'n ofynnol iddynt ddarparu cadwyn gyflenwi leol a chyfleodd hyfforddi a datblygu. Bwriedir cyhoeddi canlyniad fframwaith adeiladu ysgolion pellach yn y dyfodol agos ac rwy'n ymwybodol ei fod yn cynnwys cymysgedd o gyflenwyr, yn cynnwys busnesau cynhenid. Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r holl fuddion ac yn canfod unrhyw welliannau y gellir eu gwneud, rwyf wedi comisiynu ymarfer ‘gwers a ddysgwyd’. Mae'n hanfodol bod pawb ohonom yn deall ac yn ymdrin â’r materion a wynebir mewn caffael ac ar draws y gymuned fusnes ac yn cymryd camau priodol. Byddaf yn adrodd yn ôl ar hyn maes o law.
Fel y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, gyda chyfrifoldeb dros gaffael cyhoeddus yng Nghymru, mae'n rhaid i mi sicrhau ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau o bob punt ‘Cymreig’. Rydym yn wynebu gostyngiad mewn gwario cyhoeddus, ac ar yr un pryd mae poblogaeth sy'n heneiddio a disgwyliadau uwch yn cynyddu'r galw am wasanaethau. Fel ceidwaid arian cyhoeddus, mae'n rhaid i ni anelu at gaffael o’r radd flaenaf – ni fydd “gwneud pethau fel y maen nhw wedi cael eu gwneud o’r blaen” yn ddigon bellach. Mae'r camau yr ydym yn eu cymryd yn asio gyda'r rhai a bennir yn ‘Adnewyddu'r Economi – cyfeiriad newydd’, ac am y rheswm yma rwyf wedi bod yn awyddus i annog cyflenwyr i ymwneud ac archwilio camau i wella canlyniadau yng Nghymru. Rwyf wedi sefydlu nifer o ffyrdd i wella deialog yn cynnwys y Grŵp Llywio Adeiladu a Phanel Cyfeirio Cyflenwyr. Rwy'n hyderus y bydd ymagwedd ragweithiol yn arwain at berthynas cryfach fyth rhwng caffael cyhoeddus a busnes yng Nghymru.
Rwy’n cydnabod bod yr hinsawdd ariannol yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau unigol sy’n methu ennill contractau cyhoeddus. Mae'r sector adeiladu yn benodol, yn wynebu anawsterau gwirioneddol a chystadleuaeth galed.
Er mwyn helpu mynd i'r afael â her y toriad sylweddol o 40% yn ein cyllidebau cyfalaf yn y dyfodol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd camau arwyddocaol a phenderfynol, yn y flwyddyn ariannol gyfredol ac yng Nghyllideb y flwyddyn nesaf, i amddiffyn ein rhaglen gyfalaf a thrwy hynny y diwydiant adeiladu a diwydiannau cysylltiedig yng Nghymru rhag difrod y toriad sylweddol hwn a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU.
Ar ben hyn mae ymagweddau mwy gwybodus tuag at gaffael wedi sianelu budd i'n cymunedau lleol. Mae ‘Agor Drysau: Y Siarter ar gyfer Caffael sy'n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig’ wedi gweld hysbysebu contractau gwerth £12.5bn trwy gwerthwchigymru. Y llynedd hysbysebwyd 24% yn fwy o gontractau gwerth is, addas ar gyfer busnesau llai. Trwy ein canllawiau ‘Budd i’r Gymuned’ rydym wedi annog ymagwedd tuag at gontractio cyfalaf sy’n canolbwyntio ar y budd lleol, gan greu nifer o gyfleoedd hyfforddi ac is-gontractio. Lle mabwysiadwyd hyn mae enillion economaidd lleol ar y buddsoddiad cyfalaf wedi bod 30% yn uwch na'r cyfartaledd.
Mewn ymateb uniongyrchol i'r adborth o’r byrddau trafod ar Adnewyddu'r Economi rydym yn mynd i'r afael â'r broses cyn-gymhwyso. Mae ein cyfres un cwestiwn yn cael ei threialu, ac yn ystod y flwyddyn caiff ei chysylltu fel rhan o wefan ‘gwerthwchigymru’ ar ei newydd wedd. Mae gan y prosiect ‘Cronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID)’ yma y potensial i leihau costau tendro yn sylweddol i gyflenwyr – costau a amcangyfrifir sydd dros £20m y flwyddyn ar hyn o bryd.
Bydd yr ymagwedd newydd yma hefyd yn symud rhai o'r rhwystrau a wynebir gan gyflenwyr bach. Eisoes rydym wedi gweld cwmnïau adeiladu llai a leolir yng Nghymru yn ennill 15 o’r 26 prif dendr a gyhoeddwyd y llynedd. Yn y sector Tai gwelwyd gweithgaredd caffael sylweddol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru. Enillwyd 90% o'r gwaith yma gan gyflenwyr wedi’u lleoli yng Nghymru.
Mae'r darlun o ran cystadleuaeth o fewn Cymru yn parhau'n gadarnhaol. Dangosodd adolygiad o £3.5bn o wariant sector cyhoeddus bod cyflenwyr a leolir yng Nghymru yn ennill contractau - roedd bron i 60% o'r 3400 o gyflenwyr a enillodd waith uniongyrchol oedd werth rhwng £150k a £5m y flwyddyn yn fusnesau bach a chanolig ac roedd 1800 neu 51% wedi’u lleoli yng Nghymru.
Wrth edrych i'r dyfodol rwyf am weld newid cyflymach. Mae angen i ni symud ymlaen o wella cam wrth gam a graddol i fabwysiadu arloesedd cydnabyddedig yn llawn. Mae hyn yn golygu rhoi arweiniad; mae'n golygu bod yn barod i weithredu'n gyflym a mentrus er budd Cymru. Mae gan arweinwyr y sector cyhoeddus ddyletswydd i gymryd caffael o ddifri a chymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd.
Rwyf am osod allan fy ngweledigaeth ar gyfer y dyfodol a rhoi neges glir ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl oddi wrth ein partneriaid sector cyhoeddus a pha gefnogaeth y byddaf yn ei darparu trwy is-adran Gwerth Cymru Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi yr wyf yn gadeirydd arno yn darparu arweinyddiaeth ymarferol er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.
Yn gyntaf ‘Galluogrwydd’ – mae angen i bob sefydliad sicrhau eu hunain bod ganddynt fynediad i'r lefel cywir o gyngor caffael masnachol naill ai'n uniongyrchol neu trwy fynediad i gyd-gefnogaeth. Yng Ngorffennaf 2010 cyhoeddais sefydlu prosiect ‘Doniau Cynhenid’, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, er mwyn datblygu’r galluogrwydd angenrheidiol ar draws Cymru. Mae'r gyfres gyntaf o hyfforddeion caffael yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd trwy Gwerth Cymru, a bydd rhaglen hyfforddi i uwch arweinwyr a swyddogion ar gael yn ystod 2011.
Yn ail ‘e-gaffael’ – mae angen i bob sefydliad gael gwared ar brosesau maniwal diangen a gwneud y defnydd gorau o dechnoleg. Mae ‘cyfnewidcymru’ yn cynnig casgliad llawn o offer e-gaffael ac rwyf yn darparu cymorth gweithredol trwy Fuddsoddi-i-Arbed a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae'n rhaid i bob sefydliad fanteisio ar y cyfle hwn i wneud newid busnes sylweddol. Dros y ddwy flynedd nesaf dylai pob tendr a’r mwyafrif o archebion a thaliadau fod yn electronig. Mae gan hyn y potensial i ryddhau dros £50m o arbedion amser staff.
Yn drydydd ‘Cydweithredu’ – mae angen i wario cyffredin ac ailadroddus gael ei wneud unwaith yn unig i Gymru. Mae angen i ni drefnu ein gwariant a datblygu ffynonellau ar y cyd o arbenigedd mewn meysydd o wariant uchel megis adeiladu, gofal cymdeithasol a ThGCh. Trwy ein ffrwd gwaith Caffael y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi, dan arweiniad Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Ddinbych, rydym wedi comisiynu Tasglu. Mae argymhellion ac adroddiad y Tasglu ‘Prynu'n Gallach mewn Cyfnod Anoddach’ bellach yn cael eu hystyried gan sector cyhoeddus Cymru. Rwy’n falch bod ymagweddau newydd yn cael eu rhoi gerbron ac rwyf wedi gofyn i Gwerth Cymru helpu i gyflenwi a datblygu’r syniadau hyn ymhellach. Pe baem yn cynllunio a gweithio gyda’n gilydd mae gan gydweithredu cryfach y potensial i sicrhau rhyw £150m o arbedion dros y 5 mlynedd nesaf. Gwelwyd bod safoni ein manylebau a dileu amrywiadau o eitemau cyffredin yn lleihau cost a rhyddhau arbedion.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y newidiadau a welais. Yn fy niweddariad i'r Cynulliad ar y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi ym Medi amlygais y cyfleoedd sydd ar gael yn sgil cytundebau cydweithredol a defnyddio prosesau caffael electronig. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gwnaed arbedion o £11m o gaffael cydweithredol ac erbyn hyn mae dros 70% o sefydliadau yn defnyddio pob un o'r prif gytundebau Gwerth Cymru neu Cymru gyfan.
Mae mabwysiadu e-gaffael yn tyfu ond fe all, ac fe ddylai gynyddu. Ar hyn o bryd mae 7 Awdurdod Lleol, 158 o ysgolion o 5 rhanbarth, bron y cyfan o'r GIG a Llywodraeth y Cynulliad ei hun yn fyw ar ffocws e-fasnachu ‘cyfnewidcymru’; gyda llawer mwy o sefydliadau yn defnyddio e-dendro, cardiau caffael ac e-ocsiwn. Gwelwyd arbedion amser staff gwerth £8m eleni ac arbedion gwerth 16 tunnell o CO2.
Yn bedwerydd – Meithrin cadwyni cyflenwi Cymreig. Mae angen i bob sefydliad chwarae ei ran mewn dad-fytholegu a symleiddio prosesau caffael. Mae hyn yn golygu ymagweddu tuag at ein dyheadau ar gyfer arbedion yng nghyd-destun datblygu cadwyni cyflenwi yng Nghymru a sicrhau enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad cyfalaf a phrif gontractau refeniw. Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon, rwyf am weld pob un o'r prif gontractau cyfalaf a refeniw yn mabwysiadu ymagwedd ‘Budd i’r Gymuned’ a byddaf yn ysgrifennu'n fuan at bob prif weithredwr er mwyn rhoi arweiniad o'r newydd ac annog gweithredu. Mae'n rhaid i'n cyflenwyr chwarae eu rhan mewn lleihau costau, ond ar yr un pryd mae angen ymagwedd arnom sy’n meithrin cadwyni cyflenwi cryf a chystadleuol yng Nghymru.
Mae yno enillion sylweddol os manteisiwn ar y cyfleoedd sydd ar gael. Gallwn wneud arbedion effeithlonrwydd ac ar yr un pryd gyflenwi enillion cymdeithasol ym mhrif feysydd ein gwariant - ar yr amod ein bod yn datblygu ein galluogrwydd, symud rhwystrau ac ymrwymo i weledigaeth a rennir ar gyfer Cymru.