Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ym mis Hydref 2022, gwneuthum ymrwymiad yn y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i gwmpasu newid y model caffael ar gyfer y brechlyn ffliw anweithredol i gyflwyno model canolog, yn unol â phob brechiad arall.
Yn dilyn ystyriaeth fanwl a chydweithio'n agos â phartneriaid y GIG a chyrff sy'n cynrychioli gofal sylfaenol, rwyf yn falch o gadarnhau y bydd brechlyn ffliw ar gyfer 2025-26 a thymhorau dilynol yn cael eu caffael yn ganolog gan Lywodraeth Cymru.
Rwyf yn gwneud y datganiad hwn heddiw, er mwyn rhoi eglurder i gontractwyr gofal sylfaenol na fydd yn ofynnol iddynt osod archebion gyda chynhyrchwyr brechlynnau pan fydd y ffenestr archebu yn agor ar gyfer tymor 2025-26 ym mis Medi 2024.
Bydd y gwaith yn parhau gyda'r holl bartneriaid dros y misoedd nesaf i sicrhau pontio esmwyth i'r model newydd y flwyddyn nesaf. Bydd manylion pellach am sut y caiff y newidiadau eu rhoi ar waith eu darparu maes o law.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl bartneriaid am eu hymgysylltiad cadarnhaol â'r darn pwysig hwn o waith.