Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod yr Athro Charlotte Williams OBE wedi derbyn fy ngwahoddiad i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru mewn rôl gynghori a gweithredu o fis Mawrth 2021.

Bydd gan yr Athro Williams gyfrifoldeb penodol dros amrywiaeth yn y cwricwlwm, a bydd yn cefnogi swyddogion i weithredu argymhellion adroddiad terfynol y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, a gyhoeddir ddiwedd mis Mawrth.