Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi enwau Cadeirydd ac Aelodau Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol newydd Cymru yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus.
Yr Aelodau yw:
- Mrs Sharron Lusher – Cadeirydd
- Dr Emyr Roberts – Aelod
- Mr Gareth Pierce – Aelod
- Professor Maria Hinfelaar – Aelod
- Professor Stephen Wilks – Aelod
- Mrs Gillian Murgatroyd – Aelod
- Dr John Graystone – Aelod
- Mr Simon Brown – Aelod
Bydd y Corff yn gyfrifol am gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru.
Bydd y Corff hefyd yn asesu tystiolaeth gan y prif randdeiliaid sy'n cynrychioli ysgolion a'r gweithlu addysg yng Nghymru, gan gyflawni rôl bwysig o ran herio mewn ffordd adeiladol, cefnogi, darparu cyfeiriad a datblygu dealltwriaeth o’r materion sy'n wynebu ysgolion yng Nghymru.