Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ym mis Tachwedd 2013, sefydlais fyrddau cynghori yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i wneud gwaith rhanbarthol mwy strategol a chydweithredu’n well. Fe’u sefydlwyd fel Byrddau Gorchwyl a Gorffen am gyfnod o 18 mis, gan adolygu’r trefniadau wedi hynny.
Mae’r byrddau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwneud cynnydd da. Maent wedi cynnig arweinyddiaeth, gweledigaeth strategol, syniadau a chyngor. Maent wedi rhoi hwb, ffocws ac ynni sydd i’w croesawu o ran chwilio am gyfleoedd i ddatblygu’r dinas-ranbarthau.
Dros y misoedd diwethaf, mae Byrddau’r Dinas-ranbarthau wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu a thyfu eu rhanbarthau perthnasol. Maent wrthi’n gweithio i nodi a hyrwyddo prosiectau mawr i gefnogi’r rhain.
Mae hwn yn waith pwysig, ac mae rôl y byrddau’n hanfodol er mwyn gwneud cynnydd pellach. Rwyf felly’n ymestyn y cyfnod penodi ar gyfer y ddau fwrdd tan fis Tachwedd 2015. Bydd hyn yn eu galluogi i gwblhau eu gwaith uniongyrchol, a chaiff y sefyllfa ei hystyried ymhellach wedi hynny.
Byddaf yn parhau i roi’r diweddaraf i’r Gweinidogion ar hynt y gwaith.