Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn amlinellu’r camau nesaf yr wyf yn eu cymryd i ddatrys y materion a gododd yn sgil y diffyg arweinyddiaeth ac uniondeb a nodwyd gan yr ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllwg. Yn adroddiad hynod feirniadol Swyddfa Archwilio Cymru y nodwyd y materion hyn, ym mis Hydref 2012, ac mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrthi’n eu hystyried ar hyn o bryd.  

Nid yw’r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu’r diwylliant a’r safonau gwasanaeth cyhoeddus y mae gennym hawl i’w disgwyl gan unrhyw gorff cyhoeddus. Corff bach, annibynnol ar Lywodraeth, yw Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllwg, ac mae’n amlwg o’r adroddiad nad oedd ganddo’r rheolaethau llywodraethu cywir ac nad oedd yn cynnal y gwiriadau rhwystrau a gwrthbwysau sy’n briodol i bob corff cyhoeddus.

Mae’r Clerc a Phrif Beiriannydd (yr uwch reolwr) wedi ymadael â’r sefydliad ers y digwyddiadau dan sylw, ac rwy’n deall bod camau wedi’u cymryd erbyn hyn i sicrhau bod y Bwrdd Draenio’n cyflawni’r rheolaethau priodol yn awr.

Rydym eisoes wedi ymgynghori ynghylch dyfodol y cyrff hyn ac wedi datgan y byddwn yn ystyried adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wrth wneud ein penderfyniadau yn y dyfodol. Yn yr ymgynghoriad, fe wnaethon ni ddatgan yn glir y byddem yn ffafrio’r opsiwn o drosglwyddo pwerau pob Bwrdd Draenio Mewnol yng Nghymru i Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac wedi gofyn i swyddogion edrych ar gostau, buddion a risgiau’r opsiwn hwn ochr yn ochr â’r opsiynau eraill. Mae’r gwaith hwn yn dod ymlaen yn dda ac rwy’n disgwyl gallu cyhoeddi fy mhenderfyniad ynghylch dyfodol y byrddau hyn yn ystod y mis nesaf.