Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth inni fynd yn hŷn, mae'n bwysig parhau i fwyta deiet maethlon a chytbwys er mwyn helpu i gynnal iechyd a llesiant. Wrth heneiddio, gall gwahanol ffactorau darfu ar effeithiolrwydd y bwyd yr ydym yn ei fwyta a'r ddiod yr ydym yn ei hyfed, gan gynyddu'r risg o ddiffyg maethiad, a allai gael canlyniadau iechyd difrifol. Gallai'r risg fod yn fwy i bobl hŷn sydd mewn cartref gofal, yn enwedig os oes ganddynt gyflyrau a all effeithio ar faint o fwyd a diod y maent yn gallu eu cymryd.

Yn amlwg, mae'n bwysig bod anghenion deietegol pob person hŷn yn ein cartrefi gofal yn cael eu diwallu drwy ddarparu bwyd o safon a digon o ddiod i sicrhau'r lefel hydradu briodol, a hynny mewn amgylchedd gofalgar sy'n parchu eu hurddas. Heddiw rydym yn lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar Fwyd a Maeth mewn Cartrefi Gofal i Bob Hŷn - Canllawiau Arferion Gorau.

Nod y canllawiau fydd helpu’r sector cartrefi gofal i wella ansawdd maeth y bwyd y maent yn ei ddarparu, ac i ddiwallu'r amrywiaeth o anghenion sydd gan eu preswylwyr mewn modd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau iddynt, o ran eu hiechyd a'u llesiant maethol. Bydd y cymorth yn cynnwys ystod lawn o gynlluniau bwydlenni yn ogystal â syniadau ar gyfer ryseitiau, er mwyn hyrwyddo'r arferion gorau. Bydd y canllawiau hefyd yn helpu Arolygiaeth Gofal Cymru i gyflawni ei gwaith arolygu, gan ei gwneud yn haws ffurfio barn gytbwys.

Cafodd y canllawiau eu datblygu drwy weithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol. Ein cam nesaf fydd ymgysylltu â'r sector ehangach er mwyn profi'r canllawiau, a chasglu adborth gan staff cartrefi gofal a'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â nhw, deietegwyr, arolygwyr, ac yn bwysicaf oll, y preswylwyr eu hunain. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu adnodd ymarferol a fydd yn gwella safonau maeth ledled Cymru yn y lleoliadau hyn.

https://beta.llyw.cymru/ymgyngoriadau