Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu yr wythnos hon, mae'n bleser gennyf roi gwybodaeth gynnar i'r Aelodau am ein cynlluniau a'n blaenoriaethau ar gyfer gofal cymdeithasol.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn o'r heriau sy’n parhau i wynebu’r sector gofal cymdeithasol oherwydd y pandemig, a’r angen i helpu’r gwasanaeth i adfer. Byddaf yn cyhoeddi fframwaith adfer gofal cymdeithasol cyn toriad yr haf, a fydd yn nodi ein blaenoriaethau yn hyn o beth. Bydd y fframwaith yn adeiladu ar Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol (COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol), a gyhoeddwyd fis Mawrth.

Mae'r fframwaith adfer yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â phartneriaid ar draws y sector gofal cymdeithasol.

Byddwn yn:

  • Sicrhau bod ein gwaith craidd o gynllunio’r adferiad yn canolbwyntio ar ailadeiladu llesiant, lleihau anghydraddoldeb, ehangu cyfranogiad a chreu cymdeithas gynhwysol;
  • Cefnogi pobl â Covid Hir, gan gynnwys o ran y galw cynyddol am ddarpariaeth gofal cymdeithasol;
  • Parhau i sicrhau bod y risg y bydd Covid-19 yn mynd i gartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau'n cael eu cynnal yn ddiogel;
  • Mynd i'r afael â'r effaith andwyol y mae Covid-19 yn ei chael ar ofalwyr di-dâl;
  • Gweithio gyda'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i wella telerau ac amodau'r gweithlu gofal cymdeithasol a sicrhau y rhoddir pwyslais parhaus ar gefnogi llesiant ac iechyd meddwl;
  • Gweithio gyda phartneriaid i lunio dull ariannu at y dyfodol a fydd yn galluogi comisiynwyr i ymateb i anghenion sy’n newid yn y boblogaeth er mwyn sicrhau gofal a chymorth ar gyfer y dyfodol;
  • Manteisio ar y cydweithio gwell ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a welwyd yn ystod y pandemig ac adeiladu arno i ysgogi gwelliant.

Mae'n hollbwysig ein bod yn defnyddio'r cyfnod adfer hwn i osod y sylfeini cywir ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn unol â'n huchelgeisiau tymor hwy, a nodir yn y papur gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Rwy’n gobeithio gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwn yn ystod y ddeufis nesaf.  

Un o ymrwymiadau allweddol y llywodraeth newydd hon yw cyflwyno'r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Rydym am greu gweithlu cryfach sy'n cael ei dalu’n well, a fydd yn sylfaen ar gyfer darparu gwell gwasanaethau.

Dim ond mewn partneriaeth gymdeithasol y gellir cyflawni hyn, drwy'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol – rydym yn awyddus i sicrhau bod y cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i weithredu'r Cyflog Byw Go Iawn yn cyrraedd pocedi gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae hwn yn faes gwaith sy’n flaenoriaeth inni.

Fel arwydd cynnar o'n bwriad, rwy’n falch o allu hysbysu'r Aelodau ein bod wedi sefydlu swydd prif swyddog gofal cymdeithasol Cymru. Bydd yn llais cryf i bawb sy'n gweithio yn y sector, yn cefnogi llesiant a datblygiad y gweithlu, yn hyrwyddo gwelliant a diwygio, ac yn rhoi arweiniad cenedlaethol ac yn hyrwyddo parch i bawb sydd mewn rolau gofal cymdeithasol.

Mae Albert Heaney yn gyn-weithiwr cymdeithasol y mae ei yrfa’n rhychwantu 33 mlynedd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd Albert n ymgymryd â'r rôl a'r cyfrifoldebau hyn ochr yn ochr â'i rôl bresennol fel arweinydd polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Law yn llaw â rolau tebyg y Prif Swyddog Meddygol a'r Prif Swyddog Nyrsio, bydd Albert yn y rôl newydd hon yn rhoi arweiniad i'r sector oddi fewn i Lywodraeth Cymru a’r tu allan iddi, gan roi cyngor diduedd a gwybodus i Weinidogion Cymru ar flaenoriaethau ar gyfer newid.

Ac yntau wedi arwain y polisi ar y deddfau trawsnewidiol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), bydd Albert yn adeiladu ar y profiad a'r arbenigedd hwn, gan ddwyn ynghyd gyfraniadau gan leisiau yn y maes gofal cymdeithasol a darparwyr gwasanaethau cymdeithasol, i weithio mewn partneriaeth ystyrlon er mwyn cydgynhyrchu canlyniadau ar gyfer y dyfodol. 

Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol – sydd wedi mynd yr ail filltir i gynnal gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel yn ystod y pandemig. Mae'n hanfodol bod eich lleisiau'n cael eu clywed wrth inni roi cynlluniau adfer ar waith a bwrw ymlaen â’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol y tymor hwn.

Mae prif swyddog gofal cymdeithasol newydd Cymru yn gyfraniad gwerthfawr i'r agenda hon a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal ag i’r rhai sy'n cael budd o’r gwasanaethau hynny.