Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gan fy mod wedi ymrwymo cyn hyn i fwrw ymlaen â’r diwygiadau i’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru mewn ffordd dryloyw a chydweithredol, rwyf heddiw’n rhannu ag Aelodau’r Cynulliad y bwriad polisi ar gyfer y prif reoliadau y byddwn yn cynnig eu gwneud dan ddarpariaethau Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Cytunais cyn hyn i roi gwybod i’r Aelodau ymlaen llaw beth yw’r syniadau polisi yng nghyswllt defnyddio’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a fydd yn rhoi manylion y fframwaith diwygiedig ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Rwy’n cadw at yr addewid hwnnw heddiw drwy roi’r wybodaeth hon gerbron yr Aelodau. Deallaf mai’r hyn y bydd Aelodau’n poeni fwyaf yn ei gylch, yn gwbl ddealladwy, yw’r datganiadau bwriad polisi sy’n ymwneud ag asesu, cymhwystra a chynllunio gofal, a materion allweddol eraill. Ond mae cwmpas polisi’r Bil yn ehangach na hyn, ac mae ystod eang hefyd i’r datganiadau bwriad polisi.  Hyderaf y bydd yr Aelodau’n croesawu hyn.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn fy mod wedi paratoi nifer fawr o ddatganiadau ysgrifenedig er mwyn datgan fy marn ynglŷn â llawer o’r meysydd polisi sy’n cael eu cyffwrdd gan y Bil. Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn, a’r ddogfen bwriad polisi sydd ynghlwm wrtho, yn rhan o’r broses barhaus hon o ddatblygu polisi ac ymgysylltu. Mewn rhai meysydd – megis talu am ofal cymdeithasol – rydym yn gweithio mewn sefyllfa sy’n newid o hyd ac mae angen i ni ddatblygu ein hagenda polisi ein hunain yn ogystal ag ymateb i’r hyn sy’n digwydd mewn gweinyddiaethau eraill. Mewn meysydd eraill, rydym yn dal i ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid, er mwyn casglu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddatblygu’n cynlluniau gweithredu, ac ni fyddai’n briodol i ni ffurfio bwriad polisi rhy benodol cyn bod y gweithgaredd hwn wedi dwyn ffrwyth ac yn barod i’w ystyried. Ym mhob maes, rydym yn ceisio ymgysylltu â’n rhanddeiliaid yn y gwasanaethau cyhoeddus, a’r sectorau annibynnol a gwirfoddol, a gwrando’n astud arnynt.

Mae’r datganiadau bwriad polisi ar gyfer pob darn neu grŵp o is-deddfwriaethau yn siarad drostynt eu hunain i raddau helaeth. Er hyn, mae nifer o faterion allweddol yr hoffwn dynnu sylw’r Aelodau atynt. Mae pob cyfeiriad at adran neu ran yn cyfeirio at y Bil fel y’i diwygiwyd yn ystod yr ail gam.

Asesu anghenion lleol

Mae Adran 11, rhan 2, o’r Bil yn nodi bod gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddyletswydd i weithio gyda’i gilydd er mwyn asesu maint anghenion am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwyr) yn ardal yr awdurdod lleol, ac i ba raddau nad yw anghenion am ofal a chymorth yn cael eu diwallu, pa wasanaethau sy’n ofynnol er mwyn diwallu’r anghenion hynny ac ystod y gwasanaethau sydd eu hangen er mwyn atal, oedi neu leihau’r angen am ofal a chymorth. Bydd y gofyniad newydd hwn sy’n ymwneud ag asesu’r boblogaeth hefyd yn golygu ei bod yn ofynnol asesu’r angen am wasanaethau yn yr iaith Gymraeg. Bydd awdurdodau lleol wedyn yn gallu cynllunio er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu cyflenwi’n adlewyrchu’r strategaeth fel y mae wedi’i nodi yn ‘Mwy na Geiriau’, ein Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae’r broses asesu cynllunio hon yn elfen ganolog o’r gallu i ddiwallu anghenion unigolion a’r boblogaeth gyfan. Mae dyletswyddau Adran 11 yn hollbwysig hefyd er mwyn newid y canolbwynt a’r trefniadau cynllunio i gynnwys gwasanaethau ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar. Bwriadaf sicrhau bod y rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud dan yr adran hon yn nodi’r trefniadau y bydd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol eu rhoi ar waith yn eu hasesiad angen lleol ar gyfer pobl ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys nodi’r angen, â phwy y dylid ymgynghori, amlder asesiadau, a chyhoeddi gwybodaeth am asesiadau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol. Cefnogir y dyletswyddau asesu hyn gan y dyletswyddau i hybu cydweithredu ac integreiddio gwaith cynllunio a darparu sy’n cael eu nodi yn adrannau 152-159, rhan 9. Adran y gwasanaethau cymdeithasol fydd â’r cyfrifoldeb rheng flaen ar gyfer hyn oll, felly bydd rôl arwain a galluogi cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yn un ganolog.

Rôl cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol

Mae Adran 134(1) o’r Bil yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog, a elwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (fel y nodir yn rhan 8). O dan adran 134(2), mae angen rheoliadau (neu God Ymarfer wedi’i gyhoeddi dan adran 135) i nodi’r cymwyseddau allweddol ar gyfer y rôl honno sydd, yn eu tro, yn ofynnol er mwyn sicrhau bod y swyddogaethau a restrir yn Atodlen 2 yn cael eu cyflawni.  Bydd y cymwyseddau hyn yn gysylltiedig â gofynion ehangach y Bil, yn enwedig yng nghyswllt llais a rheolaeth a lles. O ystyried y dirwedd newydd a gyflwynir gan y Bil, mae angen canolbwyntio ar rôl y cyfarwyddwr i gyflawni’r swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol sy’n cael eu nodi yn y Bil. Mae’r rhain yn cynnwys lles, cynllunio gwasanaethau ar gyfer anghenion y boblogaeth, gwasanaethau ataliol, cyngor a chymorth gyda gwybodaeth, cymhwystra ac asesu, diogelu, cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth, hyrwyddo mentrau cymdeithasol, ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Rôl y cyfarwyddwr yw rhoi arweiniad yn y sector, gan sicrhau bod y dyletswyddau sy’n cael eu nodi yn y Bil yn cael eu cyflawni drwy’r awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd. Bwriadaf i’r rheoliadau ddarparu eglurder a thryloywder ynglŷn â’r cymwyseddau ond credaf hefyd fod angen Cod Ymarfer dan adran 135. Gwelaf y Cod hwn fel diweddariad o’r Canllawiau Statudol ar Swyddogaeth ac Atebolrwydd Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n mynd yn llawer ehangach na chymwyseddau.


Asesiad unigol

Mae rhan 3 o’r Bil yn ymestyn yr hawl i asesiad i blant, oedolion a gofalwyr sydd angen gofal a chymorth neu sy’n ymddangos bod arnynt angen gofal a chymorth.  Mae adran 24 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rhagor o ddarpariaethau yn ymwneud â chyflawni asesiadau anghenion.  Er mwyn sicrhau tegwch ac eglurder drwy Gymru gyfan o ran y ffordd y mae pobl yn ymarfer eu hawliau newydd, a’r ffordd y mae awdurdod lleol yn defnyddio asesiadau, bwriadaf i’r rheoliadau ddarparu fframwaith cydlynol a fydd yn; sicrhau cydymffurfiad drwy gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o ddydd i ddydd; a chefnogi unigolion a’r llysoedd drwy sicrhau bod hawliau pobl a threfniadau gweinyddol awdurdodau lleol wedi cael eu sefydlu yn unol â’r gyfraith ac mewn modd teg a chyson.

Rhagwelaf y bydd rheoliadau’n rhagnodi cyfres o ofynion craidd ar gyfer pob grŵp; plant, oedolion a gofalwyr, gan adlewyrchu’r gwahanol nodweddion, amgylchiadau ac amcanion polisi sy’n ffactorau canolog a allai effeithio ar anghenion gofal a chymorth yr unigolyn hwnnw.

Cymhwystra

Ar ôl cynnal asesiad ar gyfer plentyn, oedolyn neu ofalwr (boed y gofalwr hwnnw’n blentyn ynteu’n oedolyn) dan adrannau 16, 18 a 21, os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod ar y person hwnnw angen gofal a chymorth, mae adran 26 o’r Bil yn nodi ei bod yn ofynnol i’r awdurdod lleol benderfynu a yw anghenion y person hwnnw’n bodloni’r meini prawf cymhwystra. Mae’r pwerau rheoleiddio yn galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i newidiadau mewn polisi, ymarfer gofal cymdeithasol ac amgylchiadau eraill dros gyfnod a’u hadlewyrchu.  Bwriadaf i’r rheoliadau dan adran 26 ragnodi’r fframwaith/meini prawf cymhwystra cenedlaethol a fydd yn berthnasol i blentyn, oedolyn a gofalwr dan Ran 4, ac y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru eu defnyddio. Ar gyfer pob categori, gall rheoliadau ragnodi’r gwahanol anghenion ac amgylchiadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried, a thrwy hynny alluogi gwahanol amgylchiadau i fod yn berthnasol i wahanol gategorïau o bobl, gan adlewyrchu’r effaith y mae eu hanghenion yn ei chael ar yr unigolyn.  Er enghraifft yn y fframwaith cymhwystra ar gyfer oedolion, gellir disgrifio angen cymwys yn wahanol gan ddibynnu ar anghenion ac amgylchiadau’r person, gan arwain at nifer o is feini prawf. Bydd hyn yn berthnasol hefyd yng nghyswllt cymhwystra plant. Ni waeth pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ynglŷn â meini prawf cymhwystra, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddiwallu anghenion person er mwyn ei amddiffyn (“pasbortio”), a bwriadaf nodi mewn rheoliadau feini prawf y gall awdurdodau lleol eu cymhwyso wrth ymdrin â phobl mewn sefyllfaoedd o’r fath. Bydd Aelodau’n dymuno nodi fy mod wedi ymrwymo i wneud y rheoliadau hyn drwy'r weithdrefn uwchgadarnhaol.

Bydd gwaith manwl gyda rhanddeiliaid yn dechrau ym mis Ionawr 2014 er mwyn ffurfio a mireinio gwahanol gategorïau ac amgylchiadau personau sydd ag anghenion cymwys.  Bydd ymgysylltu ehangach ynglŷn â’r rhain yng ngwanwyn 2014 cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus terfynol ar y rheoliadau a’r Cod Ymarfer yn 2014/15.

Cynlluniau Gofal a Chymorth a Chynlluniau Gofal

Mae’r Bil yn nodi, pan fo gan awdurdod lleol ddyletswydd tuag at blentyn, oedolyn neu ofalwr dan adrannau 28, 30, 33 neu 34 o ran 4, bod yn rhaid iddo baratoi cynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth yn achos gofalwr sy’n blentyn/oedolyn. Mae’r rhain yn bobl fydd ag angen cymwys – yn bodloni’r meini prawf cymhwystra perthnasol a nodir mewn rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud dan adran 26 (3). Bydd cymhlethdod a difrifoldeb anghenion unigolyn yn pennu cwmpas a manylion y cynllun gofal a chymorth, ac ystod yr ymyriadau a’r gweithwyr proffesiynol a fydd yn cyfrannu tuag at y math o gymorth ac amlder adolygiadau. Mae cynlluniau gofal a chymorth yn seiliedig ar yr asesiad o anghenion yr unigolyn, ei amgylchiadau, a’r canlyniadau sydd i’w cyflawni, a bydd lefel y rhagnodi’n wahanol ym mhob grŵp o gynlluniau gofal a chymorth. Bydd y cynllun hefyd yn nodi cyfraniadau unigolyn tuag at ei ofal a’i gymorth ac unrhyw drefniadau taliadau uniongyrchol. Bydd pwyslais gwahanol ym mhob achos. Mae adrannau 45 a 46 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rhagor o ddarpariaethau yn ymwneud â pharatoi ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth, gan y bydd angen diwygio’r manylion yn y maes hwn dros gyfnod. Bydd rheoliadau’n sicrhau, os yw’n ymarferol, bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio ar y cyd i ddarparu gofal a chymorth integredig wrth gyflawni’r canlyniadau sydd yn y cynllun, ac yn gofalu bod y cynlluniau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod anghenion/amgylchiadau sy’n newid a chanlyniadau’n cael eu hadlewyrchu a’u rhoi ar waith yn y cynlluniau. Bwriadaf sicrhau y bydd rheoliadau, sy’n cael eu cefnogi gan God Ymarfer y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio ag ef, yn rhagnodi cyfres o ofynion craidd ar gyfer pob grŵp - plant, oedolion neu ofalwyr - gyda’r rhagnodiad ar gyfer pob grŵp yn amrywio gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Bydd y gofyniad am gynlluniau gofal a chymorth, ac am adolygiad o’r cynlluniau gofal a chymorth/cynlluniau cymorth (yn achos gofalwyr), yn cael ei bennu gan gyfuniad o’r rheoliadau a’r Cod Ymarfer. Bwriadaf sicrhau y bydd y rheoliadau a’r Cod Ymarfer, gyda’i gilydd, yn helpu i gyflawni nod y polisi o sicrhau bod gan bob unigolyn gynllun integredig, cydlynol.

Hygludedd

Mae Adran 47 o’r Bil yn darparu ar gyfer hygludedd gofal a chymorth ac ailasesu plant ac oedolion y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd mewn cysylltiad â hwy dan adrannau 28 neu 30 o’r Bil. Mae’r adran hon yn ymwneud â phlant ac oedolion sydd ag anghenion cymwys neu sy’n cael eu pasbortio er mwyn eu hamddiffyn, ac mae’r ddarpariaeth yn ceisio sicrhau dilyniant yn y gofal i bobl ag angen cymwys sy’n symud i ardaloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Gall rheoliadau wneud darpariaeth bellach yn ymwneud â’r camau y dylid eu cymryd, y materion y mae’n rhaid i’r ‘awdurdod derbyn’ eu hystyried ac ym mha achosion y dylai’r dyletswyddau sy’n ymwneud â hygludedd gael eu datgymhwyso. Bwriadaf i’r rheoliadau a’r Cod Ymarfer nodi;  

  • cyfrifoldebau’r awdurdod anfon, gan gynnwys isafswm yr wybodaeth sydd i’w rhannu rhwng yr awdurdodau anfon a derbyn;
  • y disgwyl i’r awdurdod derbyn sicrhau dilyniant yn y gofal, yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn y cynllun gofal, nes bydd yr awdurdod derbyn yn cynnal adolygiad ac ailasesiad o anghenion gofal a chymorth y person; 
  • amserlenni yn nodi cyn pa bryd y mae’n rhaid rhannu’r wybodaeth; ac
  • amserlenni yn nodi pa bryd y mae’n rhaid i’r awdurdod derbyn adolygu / ailasesu’r pecyn gofal fel y nodwyd yn y cynllun.

Gallaf sicrhau’r aelodau y bydd y Cod Ymarfer yn nodi’n glir iawn y disgwylir i awdurdodau lleol, wrth gyflawni eu dyletswyddau, sicrhau hygludedd gofal a chymorth i bobl ag anghenion, a chymorth i’r rhai sy’n gofalu amdanynt, pan fo’r naill a’r llall yn symud i awdurdod lleol arall yng Nghymru. Ategir y Cod Ymarfer hwn gan hawl gofalwyr i ofyn am asesiad o’u hanghenion cymorth eu hunain.  

Codi ffioedd ac asesiadau ariannol

O ran codi ffioedd ac asesiadau ariannol dan ran 5, mae’r polisi’n dal i esblygu er mwyn cyflawni fy ymrwymiad i gyflwyno diwygiadau i’r trefniadau talu am ofal o fis Ebrill 2016 ymlaen. Felly, bydd y gwaith o ddatblygu’r dewisiadau ar gyfer y diwygiadau hyn yn digwydd yn ystod 2014 gyda chynrychiolwyr o lywodraeth leol, y rhai sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n eu cynrychioli, a bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud penderfyniadau terfynol ynglŷn â'r ffordd ymlaen yn hydref 2014. Byddaf yn gwneud Datganiad Ysgrifenedig ar wahân i’r Aelodau ynglŷn â’r cynlluniau hyn cyn bo hir. Er hyn, mae rhai egwyddorion allweddol y gellir eu hamlinellu nawr.

Mae adran 50 o’r Bil yn rhoi pŵer i awdurdod lleol godi tâl am ddarparu neu am drefnu i ddarparu gofal a chymorth dan adrannau 28 i 36 er mwyn diwallu anghenion person, neu am sefydlu trefniadau i ddiwallu’r anghenion hynny. Polisi Llywodraeth Cymru ers tro bellach, os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson dalu tâl am ofal a chymorth, neu os codir tâl arno gan awdurdod lleol am wneud trefniadau i ddiwallu anghenion, yw na ddylid disgwyl i unigolyn dalu tâl o’r fath oni bai fod ganddo ddigon o fodd ariannol. Y polisi ers tro hefyd, lle bo hyn yn digwydd, yw sicrhau cysondeb wrth asesu modd ariannol yr unigolion hyn fel bod pawb yn cael ei drin yn gyfartal. Fy mwriad felly drwy’r rheoliadau sydd i’w gwneud o dan y Bil yw ailddatgan y polisïau hyn fel rhan o’n polisi yn y dyfodol ar dalu am ofal cymdeithasol preswyl a dibreswyl.

O ganlyniad, rhaid i reoliadau dan adran 55 o’r Bil wneud darpariaeth yn ymwneud â dyletswydd awdurdod lleol i gynnal asesiad ariannol os yw’n credu y byddai’n codi tâl er mwyn diwallu anghenion person am ofal a chymorth. Mae’r rheoliadau sy’n bodoli’n barod a chanllawiau statudol a wnaethpwyd dan y ddeddfwriaeth bresennol yn nodi mathau penodol o adnoddau ariannol a allai fod ym meddiant person sy’n derbyn gofal a chymorth, ac yn nodi a ddylai’r rhain gael eu hystyried fel incwm ynteu gyfalaf, a sut y dylid ymdrin â phob un mewn asesiad ariannol.  Fy mwriad drwy’r rheoliadau sydd i’w gwneud dan adran 55 o’r Bil yw cadw darpariaethau o’r fath fel rhan o’m diwygiadau i’r trefniadau ar gyfer talu am ofal. O ganlyniad, wrth lunio’r diwygiadau hynny, ystyrir pa fathau penodol o incwm a chyfalaf ddylai gael eu hystyried neu eu diystyru mewn asesiad ariannol er mwyn sicrhau cydraddoldeb a chysondeb wrth ymdrin â’r rhai sy’n cael asesiad o’r fath.  Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, bwriadaf wneud darpariaeth mewn rheoliadau hefyd i ganiatáu i awdurdod lleol, mewn rhai sefyllfaoedd, i beidio ag ymarfer ei ddyletswyddau i gynnal asesiad ariannol o berson os yw’n credu y byddai’n codi tâl er mwyn diwallu ei anghenion am ofal a chymorth (er enghraifft lle mae lefel isel o ofal a chymorth yn cael ei darparu a thâl sefydlog bychan yn cael ei godi amdano a lle na fyddai’n briodol gwneud asesiad ariannol llawn, neu lle bo angen brys neu annisgwyl am ofal a chymorth yn codi ar fyr rybudd).  

Yn dilyn asesiad ariannol, rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniad dan adran 57(1) o’r Bil ynglŷn â gallu person i dalu tâl. Dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae rheoliadau a chanllawiau statudol yn nodi lefelau penodol o incwm a chyfalaf y gall person sy’n derbyn gofal a chymorth eu cael a sut y dylid ymdrin â’r rhain wrth benderfynu ynglŷn â gallu person i dalu tâl am ei ofal a’i gymorth.  Bwriadaf gadw’r ddarpariaeth hon mewn rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud dan y Bil.

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’n trefniadau ar gyfer talu am ofal yn y dyfodol rwyf eisoes wedi cadarnhau y byddwn yn cadw’r egwyddor o uchafswm tâl wythnosol am wasanaethau dibreswyl ym mhob rhan o Gymru. Ystyrir cymhwyso agweddau eraill ar y pwerau gwneud rheoliadau dan adran 52(1) hefyd. Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, a ddylid pennu uchafswm ar gyfer gofal a chymorth penodol, neu ar gyfer gofal a chymorth am gyfnod penodol, neu ar gyfer rhoi trefniadau ar waith i ddiwallu anghenion.

Gall rheoliadau dan adran 53 hefyd wneud darpariaeth sy’n datgymhwyso’r pŵer i godi tâl. Mae hyn yn adlewyrchu’r ddeddfwriaeth godi tâl bresennol, y gellir datgymhwyso codi tâl oddi tani mewn nifer o achosion.  Bwriadaf barhau i ddatgymhwyso codi tâl os yw hynny’n briodol, ac ystyrir y sefyllfaoedd, y personau a’r mathau penodol o ofal a chymorth na ddylid codi taliadau mewn cysylltiad â hwy.

Adolygu taliadau

Mewn achosion lle gellir codi tâl, mae’n bwysig bod trefniadau clir a chyson wedi cael eu gwneud er mwyn caniatáu i berson gwestiynu neu herio taliadau gofal a chymorth a godir arno. Bydd rheoliadau dan adran 53 yn ein galluogi i sefydlu system adolygu ar gyfer pob achos lle codir tâl.  Bydd hyn yn sicrhau bod person sydd wedi cael ei asesu fel un y mae’n ofynnol iddo dalu am ofal a chymorth gael adolygiad o’r tâl pe bai’n credu bod y tâl yn anghywir neu’n amhriodol.  

Dan y rheoliadau presennol a gafodd eu gwneud dan Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010, mae proses adolygu wedi’i sefydlu ar gyfer penderfyniadau codi tâl sy’n cael eu gwneud mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl.  Bwriadaf gadw’r ddarpariaeth hon dan reoliadau sydd i’w gwneud dan y Bil a’i hymestyn i bob achos arall lle codir tâl. Pwrpas hyn yw sicrhau bod modd i berson ofyn i awdurdod lleol adolygu tâl neu benderfyniad i godi tâl os yw’n ymwneud â darparu neu drefnu gofal a chymorth dan y Bil, neu sefydlu trefniadau ar gyfer gofal a chymorth.    

Taliadau gohiriedig

Mewn achosion lle gofynnir i berson dalu tâl am y gofal a’r cymorth y mae’n ei dderbyn, neu am drefniadau i ddiwallu ei anghenion, a bod ei eiddo’n cael ei ystyried, mae ein polisi’n nodi na ddylai’r person orfod gwerthu’r eiddo hwnnw ar unwaith i dalu’r tâl hwn. Yn hytrach, dylai gael yr hawl i ohirio hyn tan adeg fwy priodol.  

Dan y rheoliadau presennol, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol weithredu cynllun taliadau gohiriedig ar gyfer y rhai hynny â buddiant mewn eiddo y mae’n ofynnol iddynt dalu costau llety a gofal preswyl.  Bwriadaf gadw a chryfhau’r ddarpariaeth hon dan reoliadau a fydd yn cael eu gwneud dan adran 60 o’r Bil, gan wella’r modd y mae cytundebau o’r fath yn cael eu gweithredu, a chaniatáu iddynt gael eu teilwra i fodloni amgylchiadau unigolyn. Bwriadaf ymestyn y ddarpariaeth hon hefyd i achosion eraill lle codir tâl. 
Taliadau uniongyrchol

Polisi Llywodraeth Cymru yw rhoi mwy o ddewis a mwy o reolaeth i’r rhai hynny sy’n datblygu anghenion am ofal a chymorth, a thrwy hynny roi mwy o lais iddynt ynglŷn â’r ffordd y mae’r anghenion hyn yn cael eu diwallu. Un o’r prif ffyrdd o gyflawni hyn yw drwy roi taliad uniongyrchol iddynt er mwyn iddynt allu gwneud y trefniadau gofal a chymorth hynny eu hunain.  Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda’r Grŵp Trosolwg Taliadau Uniongyrchol (sy’n cynrychioli awdurdodau lleol a sefydliadau sy’n ymwneud ag anabledd a gofalwyr) ar set o egwyddorion ar gyfer darparu taliadau uniongyrchol yn y dyfodol dan ddarpariaethau’r Bil.  Mae’r egwyddorion hyn yn ymdrin â meysydd ymarfer da yng nghyswllt taliadau uniongyrchol megis cymhwystra a dewis, darparu gwybodaeth, cymorth, adolygiadau a chanlyniadau, gwerth taliadau uniongyrchol a sut y maent yn cael eu cyfrifo.  Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar yr egwyddorion a byddant yn cael eu defnyddio fel sail i ddatblygu’r rheoliadau a’r Cod Ymarfer ar daliadau uniongyrchol o dan y Bil.

Yn ogystal â chadw a gwella’r modd y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd yng Nghymru, byddai rheoliadau a wneir dan adrannau 41, 42 a 43, yn rhan 4 o’r Bil yn ceisio cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar daliadau uniongyrchol drwy sicrhau bod rhagor o unigolion ag anghenion gofal a chymorth yn ymwybodol o’r dewis hwn a beth y byddai’n ei olygu iddynt hwy, a’u bod yn cael eu cynorthwyo i wneud dewis deallus. Yn fwyaf arbennig, bydd y pŵer gwneud rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, drwy’r rheoliadau a’r cod ymarfer, nodi sut y dylai trefniadau o’r fath weithredu yn y dyfodol drwy nodi:

  • y camau y dylai awdurdodau lleol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth yn ymwybodol o’r dewis i dderbyn tâl uniongyrchol, beth mae hyn yn ei olygu a sut y gallai fod o fudd iddynt hwy;
  • y cymorth y dylid ei roi i berson ag anghenion gofal a chymorth, wrth iddo benderfynu a yw am gael tâl uniongyrchol ac wrth iddo reoli tâl os yw wedi dewis cael un.

Plant sy’n derbyn gofal

Mae Rhan 6 o’r Bil yn cynnwys pwerau gwneud rheoliadau sy’n ymwneud ag asesu; cynlluniau gofal a chymorth; adolygu cynlluniau ac achosion; a lleoliadau ac ymweliadau i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.  Mae cyswllt anorfod rhwng pob un o’r setiau hyn o bwerau gwneud rheoliadau.  Gyda’i gilydd, byddant yn darparu ar gyfer dull cyson a chydlynol o gefnogi plant sy’n derbyn gofal.  Byddant yn sicrhau hawliau a hawlogaethau plant fel rhan o brif fframwaith corfforaethol effeithiol; un sy’n rhoi’r grym i blant sy’n derbyn gofal sicrhau gwell canlyniadau lles a gwella’u cyfleoedd bywyd.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae adrannau 74 a 75 o’r Bil yn gosod dyletswyddau penodol ar Weinidogion Cymru i gyflwyno rheoliadau yn ymwneud â’r trefniadau manwl y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth baratoi cynlluniau gofal a chymorth, ac mae’r fframwaith ar gyfer eu hadolygu wedi’i nodi dan adrannau 90 i 93. Mae’r pŵer gwneud rheoliadau’n ofynnol er mwyn nodi disgwyliadau Gweinidogion Cymru yng nghyswllt y materion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth iddynt gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal i gael gwell canlyniadau lles. Bwriadaf sicrhau bod y rheoliadau a’r Cod Ymarfer yn rhagnodi set o ofynion craidd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a fydd yn sicrhau cysondeb â’r prosesau craidd dan Ran 4 ac yn cydnabod amgylchiadau ac anghenion penodol plant sy’n derbyn gofal, ac yn ategu’r cyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol sy’n ddyledus i’r plant hyn.  

I gefnogi hyn, bwriadaf y bydd rheoliadau dan adran 78 yn gwneud darpariaeth ar gyfer lleoliadau a sefyllfaoedd lle nad yw plant yn byw gyda’u rhieni, ac ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant neu’r rhai sydd â Gorchymyn Preswylio.  Bydd y rheoliadau hyn yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i letya, diogelu a hybu lles plentyn a byddant yn nodi’r trefniadau sydd i’w gwneud gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag iechyd ac addysg plant sy’n cael eu lleoli fel hyn.

Gan gydnabod ei bod yn bosibl y bydd angen lleoli rhai plant y tu allan i’r ardal, bwriadaf y bydd y rheoliadau a wneir o dan adran 78 hefyd yn ei nodi gofynion y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn pan fyddant yn lleoli plant y tu allan i’w hardal, a sicrhau lles y plentyn wrth wneud hynny. Bydd y rheoliadau hyn yn nodi na ddylai’r awdurdod lleol leoli plentyn y tu allan i’r ardal lle mae’n byw fel arfer oni bai ei fod yn fodlon nad oes lleoliad ar gael yn yr ardal sy’n diwallu anghenion y plentyn, neu bod lleoliad y tu allan i’r ardal yn fwy cydnaws â lles y plentyn.

Mae Adran 83 yn galluogi rheoliadau a wnaed dan adran 78 i wneud darpariaeth bellach yn ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal, mewn cysylltiad â lleoliadau gyda rhieni maeth awdurdodau lleol.  Bwriadaf ddefnyddio’r pŵer disgresiwn hwn i’r un perwyl â’r pwerau gwneud rheoliadau presennol, gan adlewyrchu yn eu hanfod ofynion Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru). Byddaf hefyd yn ceisio gwneud rheoliadau yn ymwneud â chymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau ymweliadau a chysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal ac eraill dan adran 88. Gwyddom fod plant sy’n cael eu cadw’n gaeth neu’n cael eu cadw ar remand mewn sefydliad diogel yn debygol o brofi dirywiad yn eu canlyniadau lles o ganlyniad i gael eu cadw’n gaeth a’i bod yn bosibl y bydd arnynt angen cymorth i ailintegreiddio yn y gymuned ac atal rhagor o achosion o droseddu.  Bwriadaf sicrhau felly bod rheoliadau a Chod Ymarfer yn rhagnodi set o ofynion craidd ar gyfer y cynrychiolydd a fydd yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gefnogi grwpiau penodol o blant tra maent yn y ddalfa a chynllunio ar gyfer eu rhyddhau.  Bydd y gwaith hwn yn adlewyrchu Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru “Cynigion i wella gwasanaethau yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn rhan o’r System Cyfiawnder Ieuenctid neu sydd eisoes yn rhan ohoni”.

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd dan adran 90 o’r Bil i benodi swyddog adolygu annibynnol ar gyfer achos pob plentyn. Nodir dyletswyddau’r unigolyn hwnnw dan adrannau 91, 92 a 93. Yma, bwriadaf sicrhau bod rheoliadau a Chod Ymarfer yn rhagnodi set o ofynion craidd ar gyfer y swyddog adolygu annibynnol er mwyn hyrwyddo canlyniadau lles ar gyfer plant sy’n derbyn gofal drwy gynnal adolygiadau a herio’r awdurdod lleol, fel y Rhiant Corfforaethol, er mwyn sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu cefnogi drwy’r canlyniadau a nodwyd yn eu cynllun gofal a chymorth. Prif ganlyniad y swyddogaeth hon fydd sicrhau bod gwaith i weithredu’r camau gweithredu cytunedig a nodwyd yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn yn cael ei wneud mewn modd amserol a phriodol.

Mae’r Bil hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol dan adran 97 a 98 i benodi Cynghorydd Personol, i asesu’r angen am gyngor, cymorth a chefnogaeth ac i baratoi Cynllun Llwybr ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â hawl i gymorth oherwydd eu bod yn blant sy’n derbyn gofal, neu wedi bod yn blant sy’n derbyn gofal.

Pwrpas Cynghorydd Personol yw cefnogi pobl ifanc sy’n derbyn gofal, neu sydd wedi bod yn derbyn gofal. Mae adran 98 yn nodi bod yn rhaid i Gynghorydd Personol wneud asesiad er mwyn canfod pa gyngor, cefnogaeth a chymorth y mae ar y person ifanc ei angen tra mae’n derbyn gofal ac ar ôl i’r cyfnod o dderbyn gofal ddod i ben.  Rhaid i asesiadau o’r fath gael eu cofnodi mewn Cynllun Llwybr. Unwaith eto, rhaid sicrhau cysondeb â’r prosesau craidd dan Ran 4, a’r trefniadau cynllunio ac adolygu gofal dan Ran 6. Bwriadaf felly wneud rheoliadau yn nodi fy nisgwyliadau o ran swyddogaethau Cynghorydd Personol, a’r materion i’w cynnwys yn asesiad a Chynllun Llwybr plant a phobl ifanc sydd â hawl i gymorth dan yr adran hon.

Diogelu

Mae’r rheoliadau diogelu o dan adran 7 o'r Bil yn grŵp unffurf. Fel y gŵyr yr aelodau, sefydlais y Panel Cynghori ar Ddiogelu ym mis Gorffennaf 2013 i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ar gryfhau trefniadau diogelu ar gyfer oedolion a phlant yng Nghymru.  Mae’r panel eisoes wedi ymgymryd â phroses fanwl o ymgysylltu â sefydliadau a staff proffesiynol yn y sectorau cyhoeddus, annibynnol a phreifat ac yn y trydydd sector, a bydd y gwaith hwn yn parhau. Ynghyd â chyfarfodydd strategol allweddol, cynhaliwyd cyfres o weithdai a digwyddiad diogelu cenedlaethol, ac rwy’n falch fy mod wedi gallu mynd i’r digwyddiad hwn.  Cyflwynwyd adroddiad cyntaf y Panel i mi ym mis Tachwedd ac roedd yn canolbwyntio ar y rheoliadau y bydd angen eu llunio o ganlyniad i’r Bil. Bydd yr aelodau’n gweld o’r cyfeiriadau at y datganiadau bwriad polisi ar gyfer y grŵp hwn bod y gwaith yn y maes hwn yn dibynnu llawer iawn ar argymhellion y Panel, ac rwy’n ddiolchgar i’r Panel, a’r rhanddeiliaid sydd wedi ei gefnogi, am eu mewnbwn gwerthfawr hyd yn hyn.

Swyddogion awdurdodedig ar gyfer gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

Mae Adran 117 o’r Bil yn darparu ar gyfer Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion newydd, a fydd yn galluogi gwasanaethau cymdeithasol i wneud cais i’r llysoedd am orchymyn i fynd i mewn i eiddo i siarad gyda rhywun y maent yn credu y gallai fod mewn perygl, heb ymyriad gan bobl eraill yn y tŷ a allai atal mynediad, er mwyn canfod a yw person yn gwneud penderfyniadau o’i wirfodd. Mae ‘swyddog awdurdodedig' yn berson sydd wedi cael ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol at ddibenion gwneud cais am orchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion a gweithredu’r gorchmynion hynny.  Mae materion hawliau dynol cymhleth i’w trafod yng nghyswllt y gorchmynion hyn, felly rhaid i unrhyw ymyriad fod yn briodol: bydd canllawiau statudol yn darparu’r manylion ar gyfer gweithredu gorchmynion yn gyson ac yn briodol.  Er mwyn sicrhau mai dim ond ymarferwyr â sgiliau a hyfforddiant digonol sy’n cyflawni’r rôl hon, er enghraifft y rhai hynny sydd â phrofiad o ymdrin ag esgeuluso neu drais domestig, mae rheoliadau’n rhoi’r hawl i Weinidogion Cymru osod cyfyngiadau yn nodi pwy all fod yn ‘swyddog awdurdodedig’. Bydd yn ofynnol i ‘swyddog awdurdodedig’ fod yn cael ei gyflogi gan bartner perthnasol, yn unol â’r diffiniad yn adran 152. Yn unol ag argymhellion y Panel Cynghori ar Ddiogelu, bwriadwn gynnal rhaglen hyfforddi ar gyfer ‘swyddogion awdurdodedig’ fel bod gan ymarferwyr sgiliau penodol a digonol i gyflawni eu rôl.  Bydd rheoliadau’n ceisio adlewyrchu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ‘swyddog awdurdodedig’ effeithiol.
Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Mae Adran 122 o’r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol er mwyn sicrhau arweiniad strategol ar lefel genedlaethol yng Nghymru.  Dyletswyddau’r bwrdd yw cefnogi effeithiolrwydd trefniadau diogelu, adrodd am ddigonolrwydd trefniadau diogelu, a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â sut y gellid gwella’r rhain.  

Yn unol ag egwyddor allweddol y model pobl sy’n rhedeg drwy’r Bil, bydd y bwrdd cenedlaethol yn ystyried trefniadau diogelu mewn cysylltiad â phlant ac oedolion.  Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion adroddiad craffu Cam 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’m Panel Cynghori ar Ddiogelu, bydd rheoliadau’n darparu y gall y bwrdd weithredu ffrydiau gwaith penodol mewn cysylltiad â phlant ac oedolion ar wahân lle bo’n briodol er mwyn adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau sy’n aml yn wahanol ar sail oedran.

Bydd y rheoliadau hefyd yn nodi’n glir beth yw rôl y bwrdd cenedlaethol yng nghyswllt y canlynol:

  • Derbyn, coladu a rhannu gwybodaeth ac arferion gorau;
  • Canolbwyntio ar adnabod yn gynnar; ac
  • Annog trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng y bwrdd cenedlaethol, y bwrdd diogelu a sefydliadau allweddol yng Nghymru sydd â chyfrifoldebau diogelu.

Ynghyd â’r canllawiau cysylltiedig, bydd y rheoliadau hefyd yn nodi’n glir beth yw’r cysylltiad rhwng y bwrdd cenedlaethol, Gweinidogion Cymru a byrddau diogelu ynghyd â’r cysylltiad rhwng y bwrdd cenedlaethol ac asiantaethau unigol.

Bydd rheoliadau hefyd yn gofyn i’r bwrdd cenedlaethol sicrhau bod barn defnyddwyr gwasanaethau ac ymarferwyr yn cael ei hymgorffori’n effeithiol yn ei waith.  Gellir gwneud hyn drwy gynnal digwyddiad blynyddol i ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfarfodydd â chadeiryddion byrddau diogelu a byddwn yn ystyried ymhellach, gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau, sut y gallem weithredu’r gofyniad hwn. Nodir gofynion manwl yn ymwneud ag adroddiad blynyddol y bwrdd cenedlaethol i Weinidogion Cymru, gan ganolbwyntio ar dystiolaeth o weithgaredd, ymgysylltu a gwella.

Byrddau Diogelu

Mae Adran 124 yn darparu ar gyfer sefydlu Byrddau Diogelu Plant ac Oedolion mewn ardaloedd penodol.  Pwrpas hyn yw galluogi partneriaethau diogelu amlasiantaethol i ffurfio Byrddau Diogelu Plant a Diogelu Oedolion newydd a mwy o faint at ddiben cydweithredu, a thrwy hynny sicrhau’r fframwaith mwyaf effeithiol sy’n bosibl er mwyn cefnogi’r lefelau uchel o gydweithredu sy’n ofynnol er mwyn sicrhau trefniadau diogelu ac amddiffyn effeithiol. Mae’r adran hon yn nodi’r cyrff y mae’n ofynnol iddynt fod yn bartneriaid i’r Bwrdd Diogelu ac yn nodi y dylai Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r partneriaid hynny, enwi partner arweiniol ar gyfer byrddau diogelu o blith y cyrff a enwir yn y Bil. Bydd rheoliadau dan yr adran hon yn rhoi sylw i ddeiliadaeth, cyfrifoldebau a threfniadau trosglwyddo ar gyfer y partner arweiniol. Bydd darpariaeth hefyd ar gyfer nodi personau neu gyrff eraill fel partneriaid diogelu, ac i fyrddau gynnwys cynrychiolaeth leol arall.

Bwriadaf reoleiddio hefyd, dan adran 125, er mwyn nodi’r gweithdrefnau y bydd yn rhaid i fyrddau diogelu eu dilyn mewn cysylltiad â’u busnes, sut y dylai Byrddau weithio gyda’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a phartneriaethau lleol eraill sy’n bodoli er mwyn gwella trefniadau diogelu, safonau y bydd yn rhaid i fyrddau diogelu eu bodloni er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol a manylion ynglŷn â sut y gall defnyddwyr gwasanaethau gymryd rhan yn eu gwaith.

Gall rheoliadau a wnaed dan adran 126 sicrhau bod cynlluniau blynyddol ac adroddiadau blynyddol byrddau diogelu’n cynnwys y deunydd gofynnol ac yn dangos effeithiolrwydd y bwrdd wrth ddiogelu plant ac oedolion yn ei ardal. Fy mwriad wrth reoleiddio, gan adlewyrchu cyngor y Panel Cynghori ar Ddiogelu, yw sicrhau bod cynlluniau blynyddol yn offeryn defnyddiol ac ymarferol at ddibenion gwerthuso ac atebolrwydd ac yn dangos sut y mae byrddau diogelu’n llwyddo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl yn effeithiol.

Ar hyn o bryd, gall unrhyw gorff wneud taliadau tuag at gynnal ei Fwrdd Diogelu Plant Lleol, ond yn ymarferol yr awdurdod lleol sydd wedi bod yn darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid, os nad y cyfan.  Mae tystiolaeth yn awgrymu bod diffyg cyllid digonol a “chefnogaeth” addas gan bartneriaid yn cyfyngu ar eu gallu i gyflawni eu cyfrifoldebau. Bydd y Panel Cynghori ar Ddiogelu’n ystyried sut y gellir sicrhau bod Byrddau’n cael eu cyllido’n deg ac yn gyson ledled Cymru, a sut y gallai rheoliadau dan adran 128 hybu hynny.

Mae adran 129(2) yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ynglŷn â swyddogaethau partneriaid byrddau diogelu mewn cysylltiad â'r byrddau diogelu maent yn cael eu cynrychioli arnynt. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y rhan fwyaf o’r Byrddau Diogelu Plant Lleol presennol yn gweithio’n foddhaol, ond bod angen gwella’r berthynas rhwng aelodau statudol y byrddau, yn enwedig ym maes cyfathrebu a rhannu gwybodaeth. Fy mwriad yma yw sicrhau bod partneriaid statudol byrddau diogelu yn deall yn iawn beth yw eu rôl hwy ar y byrddau a pha swyddogaethau y mae angen iddynt eu cyflawni.   Bwriadaf i hyn sicrhau cydymffurfiad a dealltwriaeth lwyr rhwng partneriaid byrddau a chryfhau trefniadau diogelu ar gyfer oedolion a phlant.

Uno Byrddau Diogelu

Fel y gŵyr yr aelodau, mae’r Bil yn darparu fframwaith statudol ar gyfer cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi pobl o bob oed, gan hyrwyddo dull teg o ddarparu gwasanaethau.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i chwalu’r syniad bod gan oedolion a phlant anghenion a blaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd ar sail oedran.  Mae’r pŵer i uno byrddau sydd yn adran 130 yn adlewyrchu’r model pobl sy’n rhan o’r Bil, a hefyd y trefniadau a fydd yn bodoli ar lefel genedlaethol. Dylwn bwysleisio, fodd bynnag, na fydd byrddau’n cael eu huno oni bai fod modd dangos y byddai gwneud hynny’n gwella trefniadau diogelu i bawb. Nid oes bwriad polisi i ddilyn y trywydd hwn ar hyn o bryd, a bydd proses ymgynghori lawn a thrwyadl yn cael ei rhoi ar waith os bydd angen cymryd unrhyw gamau i uno byrddau. Er mwyn rhoi rhagor o sicrwydd i’r aelodau, ac mewn ymateb i bryder a fynegwyd ynglŷn â’r ddarpariaeth hon, rwyf hefyd wedi cytuno mai dim ond drwy’r weithdrefn uwchgadarnhaol y byddai modd ymarfer y pŵer hwn, ac mae’r Bil, yn adran 131, bellach yn darparu ar gyfer hyn.

Gweithio mewn partneriaeth a chydweithio

Gall trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau a mynediad at wasanaethau, osgoi darnio gwasanaethau, gwella’r defnydd o adnoddau drwy waith tîm amlddisgyblaethol a helpu i reoli’r galw am wasanaethau yn well. Fodd bynnag, fel y bydd yr aelodau’n sylweddoli mae’n bosibl, er bod deddfwriaeth berthnasol yn bodoli ers Deddf Iechyd 1999, mae’r gwaith o ffurfio partneriaethau a natur y partneriaethau hyn wedi bod yn araf ac yn amrywiol ledled Cymru. Fy mwriad polisi mewn cysylltiad â rhan 9, yw sicrhau bod trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol yn cael eu sefydlu fel bod modd darparu gwell gwasanaethau a fydd yn bodloni galw ac anghenion pobl ym mhob rhan o Gymru’n well. Felly, yn adran 156, mae’r Bil yn cynnwys pŵer rheoleiddio y bwriadaf iddo helpu i sefydlu trefniadau partneriaeth effeithiol er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau, gofal a chymorth.  Mae’r pŵer hwn yn mynd ymhellach na’r pwerau presennol yn adran 36 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Mesur Llywodraeth Leol 2009 gan na fyddai angen rhoi tystiolaeth o ymarfer swyddogaethau’n annigonol neu ddiffyg cydweithio cyn rheoleiddio. Bydd y rheoliadau’n sicrhau bod modd gwneud trefniadau partneriaeth penodol rhwng awdurdodau lleol neu gyda byrddau iechyd lleol, a gallant nodi pa awdurdod lleol neu fyrddau iechyd lleol fydd yn cymryd rhan yn y trefniadau partneriaeth, nodi ffurf a chyfrifoldeb, gweithrediad a rheolaeth trefniadau partneriaeth gan gynnwys penodi a sefydlu unigolion neu dimau, a gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth. Bwriadaf sicrhau y bydd hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd.

Cyllidebau cyfun

Yn yr un modd, mae’r cynnydd tuag at gyllid a chyllidebau cyfun i gefnogi gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn araf ac yn amrywiol ledled Cymru. Gall cyfuno adnoddau gefnogi tryloywder ac arwain at well gwybodaeth am wir gostau darparu gwasanaeth. Gall hefyd alluogi partneriaethau i ddyrannu a defnyddio adnoddau i ymateb yn fwy effeithiol i angen a galw am wasanaeth. Mae adran 157 yn ymwneud â chyllid ar gyfer trefniadau partneriaeth ac yn darparu pŵer rheoleiddio a all ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sefydlu cronfa gyfun fel rhan o’u trefniadau partneriaeth. Mae hyn yn cefnogi gwell perchnogaeth a gall arwain at ymateb gwell i ateb y galw cynyddol ar wasanaethau drwy fanteisio i'r eithaf ar sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd gwaith timau amlddisgyblaethol ac osgoi dyblygu. Bwriad y rheoliadau hyn yw sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau, drwy eu hannog i gyfuno'u cyllidebau er mwyn darparu gwasanaethau penodol yn eu hardal leol. {}

Byrddau Partneriaeth

Mae byrddau partneriaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio a llywodraethu trefniadau partneriaeth. Maent yn cynnig cyfle i gynnwys rhanddeiliaid lleol a gwella atebolrwydd cymunedol a democrataidd lleol. Wrth symud tuag at gyllidebau ac adnoddau cyfunol mae’n bwysicach fyth sicrhau bod gennym drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd effeithiol. Byrddau o’r fath yw’r cyfrwng sy’n galluogi partneriaid i reoli a goruchwylio cynnydd a pherfformiad y bartneriaeth. Nod y rheoliadau y bwriadaf eu gwneud dan adran 158 yw caniatáu i fyrddau partneriaeth gael eu sefydlu a sicrhau aelodaeth briodol a threfniadau llywodraethu priodol ar gyfer byrddau o’r fath.

Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Bydd yr aelodau’n ymwybodol bod y Bil yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar y cyd ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu, yn adran 160. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ein dyheadau polisi mewn cysylltiad â Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol pe bai’r camau a gymerir gan lywodraeth leoli ddarparu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yn aneffeithiol. Byddai’r pŵer i wneud cyfarwyddyd yn rhoi ystod o ddewisiadau i Weinidogion Cymru o ran sut y maent yn dewis sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, pe bai angen camau ychwanegol er mwyn cyflawni’n bwriad.

Rydym i gyd yn cytuno ynglŷn â'r achos dros newid ac yn cytuno mai nawr yw'r adeg i newid; rwy'n cael fy nghalonogi gan y cydweithredu a'r trefniadau gweithio mewn partneriaeth rwyf wedi eu gweld ac rwyf yn disgwyl y bydd hyn yn troi’n gamau a chynnydd gwirioneddol. Rhaid i ni gofio bod plant wedi bod yn drifftio mewn gofal ers llawer gormod. Felly, os na fyddaf yn fodlon â’r cynlluniau gweithredu a ddarperir i mi gan lywodraeth leol, ni fyddaf yn petruso cyn defnyddio’r pwerau a ddarperir yn y Bil hwn.


Menter gymdeithasol

Gan droi’n ôl at ran 2, mae Adran 13 o’r Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector. Mae’r rheoliad yn golygu bod modd gwneud darpariaeth i egluro’r manylion yn yr adran hon, a fwriadwyd yn bennaf er mwyn annog awdurdodau lleol i weithio gydag ystod ehangach o ddarparwyr ar fodelau gwasanaeth newydd; yn enwedig mewn meysydd gofal cymdeithasol llai datblygedig.

Mae’r adran hon yn cysylltu â’r Bil ehangach drwy gefnogi datblygu modelau gwasanaeth newydd, trefniadau ymyrryd yn gynnar ac atal, a hyrwyddo dull gweithredu a fydd yn golygu bod modd newid y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu datblygu, eu dylunio a’u darparu. Bwriedir iddo hyrwyddo “sut” y bydd hyn yn cael ei wneud, ac un o’r prif agweddau fydd cryfhau llais a rheolaeth dinasyddion mewn cysylltiad â’r trefniadau newydd dan y Bil.

I gloi, rwy’n ffyddiog bod y datganiad hwn yn rhoi trosolwg defnyddiol o fwriadau polisi Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â gweithredu’r Bil i’r Aelodau ac rwy’n gobeithio y bydd o fudd i’r Aelodau wrth iddynt ystyried y Bil. Byddaf yn barod i ateb unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn o ganlyniad i’r datganiad hwn heddiw.