Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cytunwyd mewn cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion am newidiadau dros dro i wasanaethau menywod a mamolaeth. Trafodwyd yn y cyfarfod hefyd yr achos busnes bras ar gyfer sefydlu Canolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys (SuRNICC). 

Daeth y ddau fater hwn – datrys y cwestiynau sy’n parhau am ddyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd a symud yn eu blaenau y cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys – i’r amlwg fel meysydd ar gyfer gweithredu pan gafodd y bwrdd iechyd ei roi o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin.   

Cafodd camau clir a phendant eu cymryd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag argymhellion Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac uwch-swyddogion yn Llywodraeth Cymru, i osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin.  
Yn dilyn yr ymyrraeth hon, rwy’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n gweld cynnydd go iawn yn y ddau faes hwn. Mae’r penderfyniad a wnaed yng nghyfarfod y bwrdd heddiw wedi’u seilio ar ymrwymiad a gwaith caled staff y bwrdd iechyd, er budd a diogelwch mamau a babanod yn  y Gogledd.

Mae’r staff wedi gweithio’n galed i reoli risg clinigol. Yn ogystal â hynny, mae rhagor o fydwragedd a saith ymgynghorydd arall wedi cael eu recriwtio i gynnig sefydlogrwydd i’r gweithlu a sicrhau bod yr unedau yn ddiogel – yn ystod ymgyngoriadau ac wedi hynny. Ar yr un pryd, maen nhw wedi datblygu’r achos busnes bras ar gyfer y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys a fydd yn cael ei gyflwyno yn awr i Lywodraeth Cymru i graffu arno a’i gymeradwyo.  
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir am ei chefnogaeth a’i hymrwymiad i’r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys er mwyn diwallu anghenion babanod sydd wedi’u geni cyn amser, ac sy’n sâl iawn, yn y Gogledd. Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod £1.4m yn cael ei neilltuo i helpu i ddatblygu’r cynlluniau, ac mae proses recriwtio ar y gweill eisoes. 

Bu’r adborth a gafwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned ynglŷn â’r ymgynghoriad ar y cynigion am newidiadau dros dro i wasanaethau menywod a mamolaeth yn gadarnhaol. Yn ôl y sylwadau a gafwyd gan gynrychiolwyr y Cyngor, roeddent yn fodlon eu bod wedi cael cyfrannu’n ystyrlon at yr ymgynghoriad a’i fod wedi’i seilio ar yr arferion gorau a’r canllawiau diweddaraf. 

Mae hi wedi bod yn bwysig rhoi sicrwydd i bobl am yr opsiynau dros dro ar gyfer gwasanaethau menywod a mamolaeth yn y Gogledd. Yn dilyn cymeradwyo’r argymhellion gan y bwrdd, mae gan y cyhoedd, menywod beichiog a chleifion sicrwydd ynghylch y dyfodol agos. 

Fodd bynnag, rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd barhau i ymgynghori â’i staff a’r cyhoedd ynghylch ei gynlluniau wrth iddynt ddatblygu.
Elfen bwysig arall o’r mesurau arbennig yw bod angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddechrau ar y broses o ailgysylltu gyda’r cyhoedd yn y Gogledd ac adennill eu hyder. Rhoddwyd cyfarwyddyd i’r bwrdd iechyd gynnal ymgyrch i ymgysylltu â’r cyhoedd a gwrando ar eu barn – dechreuodd hyn yn ystod yr haf ac mae wedi cyd-daro gyda’r ymgynghoriad ynghylch cynigion am newidiadau dros dro i wasanaethau i fenywod a mamolaeth. 

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn sylfaen i’r gwaith tymor hirach y mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd ei gyflawni er mwyn ail-gysylltu gyda’i staff a’r cyhoedd. Rwyf wedi cytuno i roi adnoddau ychwanegol i helpu gyda hyn, fel rhan o’r tîm gwella mesurau arbennig, er mwyn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i adeiladu ar yr ymgynghoriad ac ar yr ymgyrch ymgysylltu gyda staff, grwpiau rhanddeiliaid a’r cyhoedd. 

Mae’r gwaith hwn yn hanfodol wrth gynllunio iechyd a gwasanaethau iechyd yn y rhanbarth ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer gwasanaethau effeithiol o ansawdd da ar draws pob safle a sefydliad. 

Rwyf hefyd wedi cytuno ar gymorth ychwanegol i’r gwaith angenrheidiol o ddatblygu strategaeth a chynlluniau gwasanaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn y Gogledd, fel rhan o ddatblygiad cynllun tymor canolig integredig tair blynedd. Yn y lle cyntaf, bydd hyn yn golygu ymarfer cwmpasu cyflym er mwyn sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei roi dan fesurau arbennig yn cael ei dargedu yn y mannau cywir i wneud yn siŵr bod disgwyliadau cynllunio yn cael eu bodloni.

Mae’r broses recriwtio ar gyfer prif weithredwr parhaol newydd yn mynd rhagddo, ac fe fydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i wynebu heriau ac fe fydd angen cymorth pellach dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y Gweinidogion a Llywodraeth Cymru’n parhau i helpu’r staff a’r bwrdd i wneud y gwelliannau angenrheidiol a pharhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel.