Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd
Ar 14 Mehefin, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u cymryd ar ôl i'r Bwrdd gael ei osod dan fesurau arbennig. Ymrwymais i gyflwyno datganiad arall i Aelodau'r Cynulliad ar ddechrau'r tymor newydd.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros yr haf ym mhob un o'r pum maes y tynnwyd sylw atynt fel rhan o'r mesurau arbennig - llywodraethu, arwain a goruchwylio; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau ac ailgysylltu â'r cyhoedd yn y Gogledd.
Mae cyfres o gynlluniau 100 niwrnod, a gomisiynwyd gan Simon Dean, prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael eu rhoi ar waith ar draws y bwrdd iechyd. Ymhlith y newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad, mae penodi 27 o fydwragedd ychwanegol yn dilyn ymgyrch recriwtio, ac mae'r holl gerrig milltir allweddol yng nghynllun gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu wedi'u cyflawni.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn y Gogledd i ymgysylltu â'r cyhoedd ac i wrando arnynt, a hynny mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol, gan gynnwys sgyrsiau byw ar y we; diwrnodau "dweud eich dweud" ar y stryd fawr ym Mangor, Llandudno, y Rhyl a Wrecsam; cwrdd â grwpiau cymunedol a chynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cyngor iechyd cymunedol. Mae hefyd wedi cynnal mwy na 40 o ddigwyddiadau gwrando ac 11 o fforymau drws agored gyda staff y GIG.
Mae'r tri unigolyn allweddol a benodwyd i gefnogi gwaith y mesurau arbennig wedi cwrdd â staff ac aelodau'r bwrdd; wedi ymweld â gwasanaethau ac wedi'u hadolygu; wedi asesu'r camau a gymerwyd fel rhan o'r cynlluniau 100 niwrnod ac wedi monitro sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i'r gofynion a bennir o dan y mesurau arbennig.
Mae gwaith ym maes llywodraethu ac atebolrwydd, gyda chyngor gan Ann Lloyd, cyn brif-weithredwr GIG Cymru, wedi cynnwys adolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd; cam cyntaf y broses o ail-ddatblygu fframwaith sicrwydd y bwrdd a rhoi prosesau cadarn ar waith i oruchwylio prosiectau cyfalaf yn y dyfodol.
Mae Peter Meredith-Smith, cyfarwyddwr cysylltiol y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, sy'n rhoi cyngor a chymorth ym maes gwasanaethau iechyd meddwl, wedi amlinellu ei ganfyddiadau cychwynnol ac argymhellion ar gyfer gweithredu. Mae ei waith cychwynnol wedi canolbwyntio ar dri prif ysbyty - Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam - ac mae wedi cynnwys unedau iechyd meddwl pobl hŷn; gwasanaethau seiciatryddol cysylltiol a gweithredu'r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae rhywfaint o welliannau wedi bod i gapasiti rheoli iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gan gynnwys sefydlu grŵp cydlynol strategol ar gyfer iechyd meddwl; recriwtio cyfarwyddwr profiadol dros dro a gwneud gwell defnydd o'r cymorth sydd ar gael i'r bwrdd iechyd gan y tîm 1,000 o Fywydau. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy, gan gynnwys datblygu strategaeth iechyd meddwl a llesiant; atgyfnerthu capasiti a gallu'r tîm rheoli rhanbarthol a swyddogaeth llywodraethu ac arwain ar gyfer y gwasanaethau.
Mae Dr Chris Jones, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, wedi amlinellu ei deimladau cychwynnol am wasanaethau gofal sylfaenol ac wedi dweud bod modd gwneud cynnydd sylweddol gydag anogaeth, arweiniad a chyfeiriad. Mae wedi ymweld â gwasanaethau - tu fewn a thu allan i oriau - a siarad â staff i'w helpu ef i ddeall yr heriau yn well.
Mae Dr Jones yn teimlo'n bositif am y cyfle sydd gan y bwrdd iechyd i ddatblygu strategaeth gofal sylfaenol gadarn sy'n diwallu anghenion y boblogaeth leol. Bydd yn amlinellu argymhellion ar gyfer camau pellach ddiwedd y mis.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymgysylltu ag 'Arloesedd Effaith' y sefydliad i gefnogi datblygu tîm a diwygio diwylliant gwaith yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae hefyd yn hysbysebu swydd bydwraig ymgynghorol.
Ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn ymgynghori â'i staff a'r cyhoedd yn y Gogledd ynghylch newidiadau dros dro i wasanaethau mamolaeth.
Mae'n rhaid i'r mesurau arbennig ddarparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y tymor hir a rhoi hyder i bobl y Gogledd yng ngallu'r bwrdd i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel.
Bydd statws y bwrdd iechyd o ran trosglwyddo i lefel uwch yn cael ei adolygu'n gyson o dan drefniadau'r fframwaith trosglwyddo. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd parhaus pellach, ac rwyf am ei gwneud yn glir y bydd y bwrdd iechyd yn parhau dan fesurau arbennig am y tro.
Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn dechrau adolygiad ffurfiol o gynnydd o dan fesurau arbennig y mis hwn a chynhelir cyfarfod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ganol mis Hydref i drafod eu canfyddiadau. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar ôl y cyfarfod.