Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol, parthed pryderon ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y gofynnais yr wythnos diwethaf i Brif Weithredwr GIG Cymru symud cyfarfod ymlaen rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chyrff rheoleiddio fel rhan o Fframwaith Uwchgyfeirio GIG Cymru a sefydlwyd ym mis Mawrth 2014. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol, ers cyflwyno’r fframwaith hwn ym mis Mawrth 2014, bod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn destun camau ymyrryd penodol, y mwyaf o blith holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru.

O ganlyniad i’r cyfarfod hwn rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru, rwyf wedi derbyn eu cyngor y dylid gosod mesurau arbennig ar y Bwrdd Iechyd.

Mae hwn yn benderfyniad arwyddocaol sy’n cael ei wneud yn unol â’r fframwaith uwchgyfeirio. Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol sydd heb eu datrys ynghylch arwain, llywodraethu a chynnydd yn y Bwrdd Iechyd dros gyfnod. Mae’r meysydd o bryder wedi cael eu hasesu mewn ffordd drylwyr a chytbwys, a bydd hyn yn sail i’r camau gweithredu i’w cymryd o ganlyniad i’r mesurau arbennig.

Mae fy mhenderfyniad wedi cael ei gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Iechyd yn unol â’r broses a amlinellir yn y fframwaith uwchgyfeirio.

Bydd camau ac ymyriadau pellach yn cael eu hystyried mewn perthynas â’r penderfyniad i uwchgyfeirio. Byddaf yn cyflwyno rhai manylion pellach mewn datganiad llafar yfory, dydd Mawrth 9 Mehefin.

Tra bydd y sefydliad o dan fesurau arbennig, hoffwn roi sicrwydd i’r cleifion a’r cymunedau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu gwasanaethu a’r staff sy’n gweithio iddo y bydd gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd yn parhau yn ôl yr arfer.