Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 8 Hydref 2012 cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) adroddiad er budd y cyhoedd mewn perthynas â’i harchwiliad o Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg (CWLIDB), corff cyhoeddus annibynnol sy’n gyfrifol am faterion draenio Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg. Roedd adroddiad SAC yn cynnwys nifer o faterion sydd ynghlwm â rheoli a llywodraethu CWLIDB, ac yn ystod yr archwiliad nododd SAC nifer o fethiannau gweithredol.

Rôl Swyddfa Archwilio Cymru

Ddiwedd mis Chwefror 2011, hysbyswyd swyddogion am bryderon ynghylch gweinyddu CWLIDB. O ystyried difrifoldeb y materion, cytunodd swyddogion gwrdd i drafod y materion. Cynhaliwyd y cyfarfod yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

Ar ôl ystyried y materion a ddatgelwyd, sefyllfa CWLIDB fel corff cyhoeddus annibynnol a’r opsiynau ar gyfer datrys y sefyllfa, cysylltodd Llywodraeth Cymru â SAC fel archwilydd penodedig CWLIDB. Trosglwyddwyd yr holl wybodaeth a oedd ym meddiant Llywodraeth Cymru i SAC, a ddechreuodd archwiliad manwl.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

Mae’r adroddiad yn feirniadol iawn o CWLIDB. Mae’r Archwilydd yn datgan yn glir nad yw CWLIDB wedi cael ei lywodraethu a’i reoli’n effeithiol ers nifer o flynyddoedd, ac mae’n mynegi’r farn bod y Bwrdd wedi colli golwg ar ei rôl fel corff cyhoeddus.  

Dyma yw prif ganfyddiadau’r archwilydd penodedig:

  • roedd trefniadau llywodraethu’r Bwrdd Draenio yn annigonol ac aneffeithiol; 
  • roedd rhai aelodau a swyddogion yn ymddwyn mewn ffordd sy’n debygol o danseilio hyder y cyhoedd yn y Bwrdd Draenio; 
  • nid oedd y Bwrdd Draenio’n arfer trefniadau rheoli ariannol da ar lefel gorfforaethol;
  • nid yw’r Bwrdd Draenio wedi llwyddo i ddangos gwerth am arian ac mae wedi gweithredu’n anghyfreithiol mewn rhai meysydd allweddol.

Mae methiannau llywodraethu a rheoli wedi cael eu nodi ym mhob swyddogaeth bron sy’n cael eu harfer gan CWLIDB. Mae’r materion sy’n codi’r pryder mwyaf yn ymwneud â llywodraethu ariannol, sydd wedi arwain at ordaliadau sylweddol i’r cyn-Glerc a’r Prif Beiriannydd, gydag arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i dalu am ymweliadau ‘archwilio’ a threfniadau caffael a phrynu anfoddhaol.  

Yn sail i hyn i gyd mae diffyg fframwaith cymeradwy ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Mae’r rhain yn faterion difrifol. Mae arian cyhoeddus wedi cael ei wario’n amhriodol ac mae trefniadau gwael o ran cadw cofnodion wedi tanseilio atebolrwydd. Mae hyn yn ymddygiad annerbyniol ar ran unrhyw gorff gyhoeddus, ac er nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi unrhyw gyllid craidd neu barhaus i CWLIDB nac unrhyw fwrdd draenio mewnol yng Nghymru, mae defnyddio arian cyhoeddus yn briodol a bod yn atebol amdano yn rhywbeth sy’n bwysig dros ben i Lywodraeth Cymru.

Mae SAC yn datgan yn briodol bod y safonau a ddisgwylir gan y rheini sydd mewn swyddfeydd cyhoeddus yn uchel, ac ymddengys yn hyn o beth bod methiannau CWLIDB yn rhai difrifol. Mae’n amlwg, yn hanesyddol, nad yw holl Aelodau’r Bwrdd ac aelodau o staff wedi ymddwyn yn unol ag Egwyddorion Nolan; mae peidio â gwneud hyn yn arwain at sgil-effeithiau i CWLIDB, ac i bob corff cyhoeddus arall.

Yng Nghymru a’r DU rydym am i gyrff cyhoeddus weithio er budd y cyhoedd yn ehangach, gan wneud penderfyniadau a chymryd camau sy’n gwella bywydau pobl. Er nad oes unrhyw awgrym nad yw CWLIDB wedi cyflawni’i swyddogaethau draenio statudol, mae’n amlwg nad yw wedi gwneud hynny mewn ffordd mor agored, tryloyw ac effeithlon ag y dylai fod wedi digwydd. Mae’n amlwg hefyd bod camreoli a phenderfyniadau gwael wedi digwydd ar bob lefel.

Y Rhaglen Wella

Mae CWLIDB wedi derbyn adroddiad ac argymhellion SAC. Mae wedi gweithio gyda SAC drwy gydol yr archwiliad ac eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd. Mae uwch reolwyr wedi cael eu newid, gyda Chadeirydd a Rheolwr Cyffredinol newydd sy’n ymrwymo i sicrhau gwelliant.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CWLIDB i sicrhau’r newidiadau gofynnol, ynghyd â’r tri awdurdod cyllido: Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy.

Rhan graidd o’r Rhaglen Wella yw paratoi fframwaith penderfyniadau newydd, sy’n cyd-fynd â gofynion y deddfwriaeth ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru. Mae CWLIDB yn gweithio ar y ddogfennaeth honno o hyd, a disgwylir ei chyflwyno yn fuan i Lywodraeth Cymru ei chymeradwyo.  

Byrddau Draenio Mewnol sydd yn Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru

Nid CWLIDB yw’r unig Fwrdd Draenio Mewnol (BDM) sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae tri ohonynt ar hyn o bryd:

  • BDM Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg (yn gyfan gwbl yng Nghymru);
  • BDM Rhannau Isaf Afon Gwy (yn bennaf yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr);
  • BDM Powysland (yn bennaf yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr).

Yn ogystal â’r tair Ardal Draenio Mewnol sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru a weinyddir gan y Byrddau Draenio Mewnol, mae un ar ddeg o Ardaloedd Draenio Mewnol pellach yn y Gogledd a weinyddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd.  

O ystyried y pwyntiau a godwyd yn adroddiad SAC, mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â’r tri Bwrdd Draenio Mewnol ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ofyn am sicrwydd bod ganddynt fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n gadarn ac yn cydymffurfio’n statudol, a’u bod yn glynu wrth Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan.  

Os na fyddwn yn cael y sicrwydd gofynnol, byddwn yn ystyried adolygiad ehangach o’r trefniadau llywodraethu ar gyfer yr holl Fyrddau Draenio Mewnol sy’n gweithredu’n gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru. Mae SAC eisoes wedi ymrwymo i ystyried ei threfniadau archwilio ar gyfer cyrff cyhoeddus bach yng ngoleuni casgliadau’r archwiliad hwn, a byddwn yn gweithio gyda SAC fel sy’n briodol i wireddu’r ymrwymiad hwnnw.

Cyflawni Swyddogaethau’r Byrddau Draenio Mewnol yn y Dyfodol yng Nghymru

Dros yr haf, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i newid y ffordd y cyflawnir swyddogaethau’r Byrddau Draenio Mewnol yng Nghymru. Amlinellir y rhain yn ein papur Ardaloedd Draenio Mewnol a Byrddau Draenio Mewnol sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru: Ymgynghoriad.

Datblygwyd yr ymgynghoriad i gefnogi gwaith ar sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru a rhaglen ehangach Cymru Fyw. Mae’n adeiladu ar adolygiadau blaenorol ar y Byrddau Draenio Mewnol yn 2005 a 2009 ac roedd yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid oedd yr ymgynghoriad â chysylltiad archwiliad SAC o CWLIDB, a oedd eisoes wedi’i ddechrau ar y pryd, ond roedd yn cynnwys ymrwymiad i ystyried canlyniad yr archwiliad.

Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion yn ddiweddarach yn yr hydref a byddwn yn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad yn y Flwyddyn Newydd.