Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i’r Aelodau am bum ailbenodiad rwyf wedi’u gwneud i Fwrdd Chwaraeon Cymru.

Ar 1 Medi eleni, bydd Rajma Begum, Hannah Murphy, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten a Dafydd Trystan Davies yn dechrau eu hail dymor a’u tymor olaf yn y swydd, a hynny am gyfnod arall o dair blynedd.

Rwy’n hyderus y bydd yr ailbenodiadau hyn i’r Bwrdd yn cynnal yr arbenigedd a’r profiad angenrheidiol i fy nghefnogi i a staff Chwaraeon Cymru wrth symud ymlaen ag ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn ystod adeg gyffrous iawn ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.