Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Rwyf wedi sefydlu Bwrdd Strategol ar gyfer Busnes Cymru, dan Gadeiryddiaeth Robert Lloyd-Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Roedd yr Adroddiad ar Ficrofusnesau, a lansiwyd ym mis Ionawr 2012, yn argymell y dylid sefydlu gwasanaeth Siop Un Stop i gefnogi busnesau yng Nghymru. O ganlyniad, daeth gwasanaeth Siop Un Stop Busnes Cymru yn weithredol ar 2 Ionawr 2013. Mae’r gwasanaeth yn ategu’r wefan a’r llinell gymorth sydd eisoes yn bodoli.
Pwrpas y Bwrdd yw monitro, gwerthuso ac awgrymu ffyrdd o wella gwasanaeth Siop Un Stop Busnes Cymru.
Swyddogaeth y Bwrdd Strategol yw:
- Darparu cyngor i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, ac i swyddogion a darparwyr ynghylch darpariaeth a chyfeiriad y gwasanaeth, gan sicrhau bod anghenion y busnesau micro, bach a chanolig yn cael eu hystyried;
- Adolygu a monitro darpariaeth ac effaith y gwasanaeth yn rheolaidd er mwyn sicrhau gwelliant parhaus a chanolbwyntio ar ansawdd;
- Hyrwyddo’r gwasanaeth i’r sector busnes;
- Cadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod pryderon yn cael eu hateb a chyfleoedd yn cael eu cymryd;
- Creu a chynnal perthynas â rhanddeiliaid allweddol sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr, er mwyn medru darparu cefnogaeth mewn ffordd syml i fusnesau;
- Monitro a chynghori ynghylch meysydd addas i’w datblygu fel bo’n briodol.
Rwy’n falch iawn i Robert Lloyd Griffiths gytuno i gadeirio’r Bwrdd Strategol hwn. Mae ganddo gyfoeth o brofiad yn sgil gyrfa hir ym myd marchnata a chyfathrebu ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Cymru gyda Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Robert hefyd oedd yn cadeirio’r grŵp gorchwyl a gorffen ar Ficrofusnesau a argymhellodd y dylid sefydlu gwasanaeth Siop Un Stop Busnes Cymru, felly mae ganddo gefndir a dealltwriaeth ynghylch anghenion busnesau yma yng Nghymru.
Aelodau’r Bwrdd Strategol yw:
- Andrea Callanan – Cyfarwyddwr, Sing and Inspire
- Ben Cottam - Pennaeth ACCA Cymru/Wales
- Dan Langford – Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Acorn
- Peter Davies – Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy
- Robert Chapman - Rheolwr Gyfarwyddwr, Robert Chapman and Company