Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nawr fy mod wedi ystyried adroddiad terfynol fy Nhasglu Gweinidogol ar Drafnidiaeth Gogledd Cymru, a'r atebion a ddaeth i law o'r ymgynghoriad ar y Cynlllun Trafnidiaeth Drafft, rwyf bellach yn gallu rhoi amlinelliad o'm blaenoriaethau yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru.  

Bydd rhagor o fanylion am y blaenoriaethau hyn yn cael eu darparu ochr yn ochr â'm blaenoriaethau ar gyfer rhannau eraill o'r wlad, pan fyddaf yn cyhoeddi fy mlaenoriaethau yn fuan ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru.  

Rwyf yn canolbwyntio ar gyflawni'r amcanion a nodwyd yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru wrth benderfynu ar y blaenoriaethau ym maes trafnidiaeth, gwella mynediad a chysylltedd i gefnogi twf economaidd a chysylltu cymunedau â gwasanaethau allweddol a gwaith.  Bydd y buddsoddiadau yn annog pobl i fabwysiadu ffyrdd iachach a mwy cynaliadwy o deithio, gan helpu i leihau anweithgarwch economaidd a gwella diogelwch ar y ffyrdd.  

Mae gogledd Cymru yn mynd trwy gyfnod cyffrous gyda phrosiectau trawsnewidiol naill ai ar y gweill neu yn yr arfaeth.  Mae'n hanfodol bwysig fod ein system drafnidiaeth yn y rhanbarth yn cefnogi'r datblygiad hwnnw ac yn ceisio annog rhagor o fuddsoddi i ddatblygu'r economi ranbarthol.  Rwyf hefyd yn hynod ymwybodol o bwysigrwydd cysylltedd trawsffiniol a bydd yr ymyraethau y byddaf yn eu hamlinellu yn ceisio gwneud y gorau o'r posibiliadau hynny.  

Bydd trosglwyddo pwerau ar gyfer y fasnachfraint reilffordd i Lywodraeth Cymru yn dod â chyfleoedd newydd i wella gwasanaethau rheilffordd, fydd yn darparu ar gyfer y galw yn y dyfodol, ac sy'n cefnogi ein huchelgeisiau economaidd a chymdeithasol ehangach.  Rwyf hefyd wedi sefydlu fframwaith clir sy'n pennu'r gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau bod trosglwyddo cyfrifoldeb am y fasnachfraint reilffordd yn digwydd yn ddi-drafferth erbyn dechrau 2017.  Er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd hyn, byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn.

Mae'n hanfodol sicrhau cefnogaeth busnesau a'r awdurdodau lleol i'r agenda hon, ac rwy'n falch o ddweud bod hyn yn digwydd eisoes drwy gydweithio agos rhyngof â'r Cynghorydd Dilwyn Roberts, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  

Rwyf wedi ymrwymo'n llawn i foderneiddio'r rheilffyrdd a thrydaneiddio Prif Reilffordd Arfordir y Gogledd.  Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd a'i swyddogion am eu cefnogaeth i gryfhau'r achos busnes ar gyfer trydaneiddio, gan gynnwys penderfynu ar y manteision economaidd ehangach.  Rwyf wedi comisiynu Dr Elizabeth Haywood i weithio gyda'r Bwrdd Uchelgais Economaidd, awdurdodau lleol, busnesau ac eraill i gael cefnogaeth i drydaneiddio y prif reilffordd.  Byddwn yn parhau i bwyso am hyn gyda'r Adran Drafnidiaeth, er mwyn ei gynnwys  yn y cyfnod buddsoddi nesaf.  

Dim ond rhan o'm gweledigaeth ar gyfer y rhaglen ehangach i foderneiddio'r rheilffyrdd yw trydaneiddio.  Mae gan gysylltedd trawsffiniol ran bwysig i'w chwarae yn economaidd, a dyna pam yr ydym wedi cysylltu â Thasglu Trydaneiddio Trawsffiniol Gogledd Lloegr i wneud y gorau o gyfleoedd i fuddsoddi yn y rheilffyrdd yn ardal y Northern Hub (gogledd Lloegr) a Gogledd Cymru.  Mae fy swyddogion wedi edrych ar ymarferoldeb ehangu'r gwasanaethau ar draws y Pennines i Ogledd Cymru, ac maent yn datblygu trafodaethau i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw.   Rydym hefyd yn gweithio gyda Merseytravel i ddatblygu'r achos dros uwchraddio Halton Curve i wella cysylltedd rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru.  

Mae'r cyfyngiadau i'r rhwydwaith rhwng Wrecsam a Chaer yn rhwystrau sylweddol i sicrhau'r cysylltedd a ddymunir ar gyfer Wrecsam.  Rwyf wedi gofyn am gymorth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth er mwyn cael Network Rail i gynnal gwaith datblygu gyda'r bwriad o ddarparu rhagor o gapasiti yn y rhwydwaith rhwng Wrecsam a Chaer.  Rwyf wedi sicrhau bod achos yn cael ei greu dros y flaenoriaeth hon, yn ogystal â gwelliannau eraill yng Ngogledd Cymru, ac rwyf wedi pwyso arnynt i gynnwys hyn yn Astudiaeth Llwybr Cymru terfynol Network Rail.

Mae cysylltu canolfannau poblogaeth ar hyd goridor Gogledd Cymru gyda ein 3 Ardal Fenter yn Ynys Môn, Glannau Dyfrdwy ac Eryri, a gyda Iwerddon, a gweddill y DU ac i Ewrop, yr un mor bwysig.  Rydym wedi cyflwyno cais o dan y cylch cyntaf o gyllid y Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd (TEN-T)ar gyfer gwelliannau i'r A55. Bydd hyn yn cefnogi ein huchelgais i sicrhau bod gan Gaergybi swyddogaeth allweddol wrth hwyluso symudedd nwyddau a theithwyr o fewn yr Undeb Ewropeaidd.  Rydym hefyd yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer prosiectau 'Traffyrdd y Môr' yng Nghaergybi fel y gallwn wneud cais ar eu cyfer o dan gylchoedd TEN-T yn y dyfodol.
 
Gan gydnabod pwysigrwydd strategol y rhwydwaith cefnffyrdd yn y rhanbarth, byddwn yn datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â thagfeydd, materion yn ymwneud â gwrthsefyll argyfyngau, a gwella amseroedd teithio.  Mae ffordd osgoi yr A487 rhwng Caernarfon a Bontnewydd yn datblygu'n dda, ac rydym yn anelu at ddechrau adeiladu ar ddiwedd 2016.  Mae gwaith fy swyddogion yn datblygu'n dda i benderfynu ar y llwybr a ffefrir i oresgyn problemau traffig ar yr A494/ A55 yn Queensferry.  Rwy'n asesu y ddau goridor a byddaf yn cynnal arddangosfa gyhoeddus yn ddiweddarach yn y flwyddyn cyn cadarnhau y llwybr a ffefrir yn 2016.  Yn ogystal â chlustnodi  tros £200 miliwn ar wella'r rhwydwaith ffyrdd yn ardal Glannau Dyfrdwy, rwyf yn ymrwymo i ddatblygu achos busnes ar gyfer trydydd pont dros yr Afon Menai.    

Yn ogystal â gwelliannau mawr i'r ffyrdd, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau a fydd yn gwella'r rhwydwaith cefnffyrdd.  Er mwyn ceisio lleihau effaith problemau traffig ar yr A55, rwyf wedi cwblhau buddsoddiad o bron i £5 miliwn i gyflwyno pwyntiau croesi mewn argyfwng a lleiniau caled ac adnewyddu'r systemau draenio sy'n dueddol o orlifo.  Mae  buddsoddiad pellach o £42 miliwn yn nhwneli yr A55 yn cwblhau yn y flwyddyn ariannol hon, a'm bwriad yw nodi pa welliannau pellach sydd angen eu gwneud i sicrhau bod y rhwydwaith yn gallu gwrthsefyll argyfyngau yn well.  

Fis diwethaf, cymeradwyais Gynllun Trafnidiaeth Lleol Gogledd Cymru, a baratowyd gan y chwe awdurdod lleol sy'n cydweithio.  Er mwyn cefnogi'r awdurdodau i gyflawni eu blaenoriaethau, rwyf wedi dyrannu cyfanswm o £6 miliwn o grant trafnidiaeth y flwyddyn hon i ariannu cynlluniau lleol ar y ffyrdd, cyflwyno cyfleusterau cerdded a beicio newydd, a gwella diogelwch ar y ffyrdd.  Bydd nifer o'r cynlluniau hyn yn cefnogi datblygiadau economaidd ac yn gwell mynediad i'r Ardal Fenter a safleoedd cyflogaeth eraill.  Bydd y cynlluniau yr ydym wedi'u cefnogi  yn cynnwys £1.867 miliwn ar gyfer Ffordd Gyswllt Llangefni, £720,000 ar gyfer y gwaith i wella mynediad i leoliadau allweddol yng Nglannau Dyfrdwy a £206,000 i sicrhau bod modd parhau i ddatblygu y ffordd gyswllt newydd arfaethedig i Faes Awyr Llanbedr yn Ardal Fenter Eryri.  Rwyf hefyd yn darparu cyllid o £772,000 ar gyfer llwybrau teithio llesol i safleoedd cyflogaeth yn Sir Ddinbych a Wrecsam.  

Mae bysiau a thrafnidiaeth gymunedol hefyd yn bwysig yn y rhanbarth, byddaf yn parhau i ddarparu £6.71 miliwn o Grant Cefnogi'r Gwasanaethau Bysiau i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol â chymhorthdal sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol.  Rwyf hefyd wedi neilltuo cyllid i barhau gwasanaethau bws TrawsCymru yn y rhanbarth rhwng Bangor ac Aberystwyth a Wrecsam a Bermo.  Mae fy muddsoddiad hyd yma wedi bod ar fysiau newydd, gwasanaethau amlach a gwell gwybodaeth i deithwyr. Mae hyn wedi arwain at dwf mewn nawdd gyda 300,000 o deithwyr yn defnyddio'r ddau wasanaeth yn y flwydyn ariannol ddiwethaf.  

Mae cynlluniau wedi datblygu hefyd i gyflwyno tocynnau teithio newydd rhatach ym mis Gorffennaf - y Bwmerang - i annog mwy o fyfyrwyr a phobl ifanc i ddefnyddio'r ddau wasanaeth TrawsCymru yng Ngogledd Cymru.  Yn ogystal â helpu pobl ifanc, rwy'n bwriadu cadw'r trefniant presennol sy'n caniatáu i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach yng Nghymru i deithio'n ddi-dâl ar wasanaethau rheilffordd ar Lein Arfordir y Cambrian, Rheilffordd Dyffryn Conwy a rhwng Wrecsam a Phont Penarlâg ar Lein y Gororau.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau system drafnidiaeth integredig fodern ar gyfer Cymru gyfan,  ac rwy'n hyderus y bydd y buddsoddiadau hyn yn sicrhau gwelliannau pellach i'r system drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru.