Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Heddiw, bûm i a Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i weld y morglawdd ym Mae Llansanffraid Gwynllŵg ger Casnewydd i weld fy hun enghraifft o un o’n hamddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol. Cwrddodd y ddau ohonom ag aelodau o staff Cyfoeth Naturiol Cymru, a esboniodd sut mae tywydd garw yn debygol o barhau i daro seilwaith hanfodol fel hyn.
Dyna pam fy mod i, fel y Gweinidog Cyllid, yn cyhoeddi heddiw bod y Llywodraeth hon yn bwriadu rhoi buddsoddiad newydd o £150 miliwn mewn cynlluniau allweddol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd y cynllun yn cychwyn yn 2018 a bydd y buddsoddiad hwn yn digwydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi tua £245 miliwn o adnoddau cyfalaf a refeniw ar gyfer seilwaith amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol, sy’n cynnwys adnoddau i alinio buddsoddiad â’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, yn ogystal â buddsoddiad ychwanegol o gronfeydd strwythurol Ewrop.
Mae’r buddsoddiad hwn wedi gwneud ein rhwydwaith cenedlaethol o amddiffynfeydd llifogydd yn fwy cadarn, gan amddiffyn ein cymunedau a’n seilwaith
cymdeithasol ac economaidd, hyd yn oed yn ystod llifogydd a stormydd mawr fel y rhai a welwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.