Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth strategol a nodir yn Natganiad Polisi Caffael Cymru, mae'n hanfodol i ni gael y gallu a'r capasiti ar draws proffesiwn caffael y sector cyhoeddus Cymru yng Nghymru.
Gan gydnabod nad oes digon o staff caffael â chymwysterau proffesiynol yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar i gefnogi twf y proffesiwn.
Mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ddarparu rhaglen ar gyfer cynyddu gallu a chapasiti yng Nghymru gyda buddsoddiad cysylltiedig o tua £690 mil ers 2020.
Drwy fuddsoddiad o £587,000 mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu 118 o unigolion yn y sector cyhoeddus i ymgymryd â Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS). Mae'r cyrsiau pwrpasol yn cynnwys defnyddio iaith a therminoleg gyfarwydd, gan ddefnyddio enghreifftiau o Gymru, i helpu myfyrwyr i roi polisi caffael Cymru ar waith.
Wrth iddynt symud ymlaen ar eu cymhwyster, bydd y myfyrwyr yn dylanwadu'n fwy effeithiol ar ganlyniadau caffael gan ganolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddant yn cyfrannu at fynd i'r afael â chynaliadwyedd caffael yn y tymor hir, ac yn cryfhau'r proffesiwn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £96,000 hefyd i ariannu pum myfyriwr Prifysgol i ymgymryd â lleoliadau mewn adrannau caffael ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Y nod yw iddynt adeiladu gyrfaoedd yn y dyfodol o fewn timau caffael sector cyhoeddus Cymru.
Bydd amrywiaeth o gynnwys ar-lein a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r proffesiwn caffael ar gael. Mae modiwl hyfforddi ar gyfer Cyfrifon Banc Prosiect bellach yn fyw, ac mae gwaith ar ddatblygu modiwl Gwerth Cymdeithasol mewn Gofal Cymdeithasol gyda Canolfan Cydweithredol Cymru ar y gweill. Mae gwaith paratoi hefyd yn cael ei wneud i ddatblygu cynnwys i gefnogi'r gwaith o ddarparu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ymhellach.
Rydym hefyd yn datblygu rhaglen prentisiaeth caffael gyda'r Corff Dyfarnu CIPS a thîm prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn darparu porth ychwanegol i gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gan roi cyfle i newydd-ddyfodiaid ennill a dangos tystiolaeth o sgiliau a phrofiad masnachol, tra'n ennill cymhwyster cydnabyddedig.