Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn gwneud y datganiad hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol, a'r camau a gymerwyd i gefnogi staff y rheng flaen yn ein system iechyd a gofal wrth wynebu heriau’r gaeaf.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod cynllunio ar gyfer y gaeaf yn flaenoriaeth fawr i’n system iechyd a gofal ac i’r asiantaethau cenedlaethol. Mae'r holl gymunedau iechyd a gofal lleol yng Nghymru wedi datblygu cynlluniau integredig i wrthsefyll pwysau'r gaeaf, gyda chefnogaeth nifer o fentrau cenedlaethol arloesol.

Rydym hefyd wedi buddsoddi'n sylweddol i annog gwasanaethau iechyd a gofal i integreiddio drwy'r Gronfa Gofal Integredig. Rydym wedi buddsoddi £60 miliwn er mwyn i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol gydweithio fel bod modd i bobl gynnal eu hannibyniaeth yn eu cymunedau lleol y gaeaf hwn. Mae adroddiadau gan gymunedau lleol yng Ngwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn benodol yn awgrymu bod hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr dros y gaeaf hyd yn hyn.

Yn ogystal â’r £42.6 miliwn a ddarparwyd gennym i gefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol drwy'r Gronfa Gofal Sylfaenol, rydym wedi darparu £50 miliwn i helpu byrddau iechyd i sicrhau cydbwysedd rhwng darparu gofal brys a gofal wedi'i gynllunio yn ystod y gaeaf.

Er gwaethaf paratoi'n drylwyr, mae'r system iechyd a gofal yng Nghymru wedi gorfod dygymod â phwysau sylweddol, yn yr un modd â gweddill y DU. Mae’r dyddiau diwethaf yn enwedig wedi bod yn gyfnod heriol iawn. Gwelwyd lefelau uwch nag erioed o bwysau ar rannau o’r system gofal brys ar adegau, ac ymhell dros yr hyn y byddai wedi bod modd ei ragweld yn realistig. Mae gwybodaeth reoli gynnar gan y GIG yn dangos y canlynol:

  • ym mis Rhagfyr roedd nifer y digwyddiadau y deliodd y gwasanaethau ambiwlans brys â nhw, lle’r oedd  bywyd yn y fantol,  yr uchaf ers cyflwyno'r model ymateb clinigol newydd, a 54% yn uwch ar ddydd Calan o gymharu â'r llynedd; 
  • mae meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru wedi gweld tua 100,000 o gleifion bob dydd yn dilyn cyfnod y Nadolig; 
  • cafodd y gwasanaeth 111 ddwywaith gymaint o alwadau na’r disgwyl ar 1 Ionawr; 
  • roedd nifer y cleifion a fynychodd bob cyfleuster gofal brys yn uwch dros gyfnod y Nadolig nag yn ystod yr un cyfnod fis Rhagfyr y llynedd. 
Mae’r wybodaeth hon hefyd yn dangos y gwelodd y GIG yng Nghymru y nifer uchaf o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn ystod cyfnod y gaeaf fel achosion brys ers pedair blynedd o leiaf. Yn hanfodol, er mwyn deall y galw, cafodd y nifer uchaf o gleifion hŷn 85 oed a throsodd eu derbyn i'r ysbyty drwy'r adran ddamweiniau ac achosion brys hefyd.  

Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod galw mwy acíwt am welyau dros y gaeaf hyd yn hyn, a bod llawer o'n poblogaeth hŷn, sy'n aml ag anghenion cymhleth, angen mwy o amser i gael eu hasesu yn yr adran achosion brys a'u bod yn treulio mwy o amser yn yr ysbyty cyn mynd adref.

Mae lefelau’r galw ar staff a gwasanaethau, sy’n aml yn eithriadol, wedi dwysáu oherwydd cynnydd yn nifer yr ymgynghoriadau ynghylch y ffliw a'r norofeirws dros y bythefnos ddiwethaf. Mae hyn ynghyd ag adroddiadau o gynnydd cyffredinol yn nifer y cleifion sy’n dioddef o salwch anadlol yn mynychu meddygfeydd ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae'r materion hyn wedi gwaethygu bron yn sicr oherwydd y tywydd oer yn y DU ddechrau mis Rhagfyr.

Hoffwn, unwaith yn rhagor, ddiolch i'r holl staff iechyd a gofal am eu gwytnwch, eu trugaredd a’u hymrwymiad wrth wynebu’r pwysau eithriadol hyn.  

Mae meddygon teulu, parafeddygon, therapyddion galwedigaethol, nyrsys, meddygon, ymgynghorwyr a staff eraill i gyd yn dangos ymrwymiad enfawr i ddarparu gofal o safon i gleifion, ac mae llawer o wasanaethau mewn rhannau o Gymru, megis gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, yn parhau i weithio'n dda iawn. Rwyf yn hynod ddiolchgar iddynt ac yn eu parchu. Rwyf yn cydnabod nad yw bob amser yn bosibl iddynt roi'r gofal y byddent yn ei ddymuno oherwydd y galwadau sydd arnynt, er gwaethaf eu hymateb proffesiynol. Maent yn parhau i ddarparu’r gofal gorau posibl i’n dinasyddion mwyaf agored i niwed a gwael.  

Mae’r pwysau ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn uwch na’r hyn a ragwelwyd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Felly, rwyf wedi darparu £10m yn ychwanegol i GIG Cymru eleni er mwyn helpu staff y rheng flaen i ofalu am gleifion yn ystod y gaeaf hwn. Bydd yr arian yn dod o gyllideb ganolog bresennol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd yn gymorth i fyrddau iechyd, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru allu trin a gofalu am y galwadau a’r anghenion cynyddol ar draws ein system, ac nid yn yr ysbytai'n unig.

Bydd y cyllid yn cefnogi'r gwaith o gyflawni pob agwedd ar y llwybr iechyd gofal heb ei drefnu gan gynnwys, er enghraifft, galluogi pobl hŷn i adael yr ysbyty yn gynt drwy becynnau cymorth lle y bo'n briodol. Bydd disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio â'u partneriaid i bennu'r ffordd orau o ddefnyddio'r buddsoddiad dros yr wythnosau nesaf yn unol â'r pwysau, y blaenoriaethau a’r capasiti lleol.

Yn ogystal â hynny, er mwyn cydnabod y pwysau a wynebir gan y practisau cyffredinol, rwyf wedi penderfynu llacio elfen y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau o gontract y practisau cyffredinol hyd at 31 Mawrth 2018. Yn ymarferol, bydd hyn yn galluogi meddygon teulu a nyrsys practis i flaenoriaethu cleifion sydd angen apwyntiad ar frys drwy osgoi'r angen i alw cleifion yn awtomatig am apwyntiadau arferol ar adegau prysura'r flwyddyn.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau dros yr wythnosau nesaf.