Huw Irranca-Davies AC – Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol gwerth £15miliwn mewn gwasanaethau ataliol sy'n cefnogi oedolion sydd ag anghenion gofal a gofalwyr y mae angen cefnogaeth arnynt.
Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddarparu i fyrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn hyrwyddo rhagor o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y trydydd sector a phartneriaid eraill. Bydd y cyllid yn helpu i ddatblygu gwasanaethau i leihau'r oedi wrth drosglwyddo gofal a chadw pobl allan o'r ysbyty, ynghyd â rhoi cymorth i ofalwyr.
I nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, rwyf am ddiolch o galon i'r nifer enfawr o ofalwyr di-dâl sydd gennym ar draws Cymru. Mae eu cyfraniad hael yn gwneud gwahaniaeth amhrisiadwy i'r rhai sy'n derbyn gofal, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
Er mwyn eu cefnogi, byddwn yn buddsoddi rhan o'r £15miliwn i wella gwasanaethau cymorth uniongyrchol i ofalwyr - yn arbennig gwasanaethau seibiant fel bod modd i ofalwyr gael toriad, i’w helpu fel gofalwyr ac yn eu bywydau y tu hwnt i ofalu. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i gyflawni'r tair Blaenoriaeth Genedlaethol i Ofalwyr - helpu i fyw yn ogystal â gofalu; adnabod a chydnabod gofalwyr; a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o wella ansawdd a phriodoldeb y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig i ofalwyr, gan gynnwys y math o wasanaeth seibiant neu gymorth o fath arall sydd ar gael a pha mor aml y mae'n cael ei gynnig. Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector i symud ymlaen â'r agenda hwn.
Mae Cyllideb ddrafft 2019-20 yn darparu ar gyfer rhoi £30miliwn ychwanegol ar gyfer y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dweud yn glir mai byrddau rhanbarthol fydd yn gyfrifol am fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol di-dor.
Ar 13 Tachwedd, cyhoeddais y byddwn yn buddsoddi £15miliwn o'r cyfanswm hwn o £30miliwn y flwyddyn nesaf er mwyn helpu i leihau'r angen i blant ddechrau cael gofal a chefnogi plant mewn gofal.
Mae'r arian hwn yn ychwanegol at yr £50miliwn o gyllid refeniw y mae'r Gyllideb Ddrafft yn ei darparu eto ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig yn 2019-20 a'r cyllid Trawsnewid gwerth £100miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd i gefnogi'r gwaith o gyflwyno modelau newydd o ofal er mwyn cyflawni amcanion Cymru Iachach.