Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod 2019, fy mlwyddyn gyntaf fel Gweinidog y Gogledd, bu rhai buddsoddiadau cyffrous yn rhanbarth Gogledd Cymru.

Rwy'n arbennig o falch fod yr holl bartïon, sef Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, wedi arwyddo Penawdau Telerau Bargen Twf y Gogledd. Bydd yn golygu buddsoddiad o bron £1bn yn y rhanbarth, gan gynnwys £120 miliwn yr un gan y ddwy Lywodraeth. Ym mis Tachwedd, ymunais â Phrif Weinidog Cymru i agor yn swyddogol y Ganolfan Arloesedd Gweithgynhyrchu Uwch newydd yng Nglannau Dyfrdwy, a dderbyniodd £20m oddi wrth Lywodraeth Cymru. Airbus yw tenant cyntaf y Ganolfan a rhagwelir y gwnaiff hi sicrhau cymaint â £4bn o gynnydd yn GVA y rhanbarth dros 20 mlynedd. Roedd yn dda gen i hefyd gyhoeddi hwb ariannol o £1m ar gyfer 11 o brosiectau economi sylfaenol yn y Gogledd trwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, sy'n helpu i sicrhau bod arian yn aros yn yr ardal.

Gwnaethon ni barhau i gefnogi busnesau trwy Busnes Cymru, gan helpu 109 o fusnesau yn y Gogledd yn 2018/19. Yn wir, ers Ebrill 2015, mae Busnes Cymru wedi cefnogi dros 6,600 o entrepreneuriaid a busnesau yn y rhanbarth. Hyd yma, mae hynny wedi sbarduno buddsoddiad cyfun o £31.6m a gwerth £30.2m o allforion, gan greu dros 3,700 o swyddi newydd a bron 850 o fusnesau newydd yn y Gogledd. Mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi dros £40 miliwn ym musnesau'r Gogledd ers Ebrill 2016. Mae Cronfa Dyfodol yr Economi wedi noddi 9 prosiect yn y Gogledd, gwerth dros £14 miliwn rhyngddynt, ac ym mis Mai, neilltuodd yr UE £12.6m i gwmni Minesto ar Ynys Môn er lles diwydiant ynni llanw'r Gogledd.

Cafodd arian mawr ei fuddsoddi yn nhrafnidiaeth y rhanbarth yn 2019, yn enwedig trwy fasnachfraint newydd Trafnidiaeth Cymru sy'n sicrhau newid go iawn trwy ei Uned Fusnes newydd yn Wrecsam. Mae'n darparu mwy o lwybrau a mwy o wasanaethau a bydd y trenau mwyaf modern yn cyrraedd yn 2023 i wasanaethu arfordir y Gogledd.  Yn y cyfamser, cyflwynir cerbydau a adnewyddwyd yn ddiweddarach eleni i wella cysur teithwyr.  Mae'n buddsoddi mewn gorsafoedd, gan gynnwys glanhau pob gorsaf drenau yn y rhanbarth, ac yn arbrofi trwy Gymru â math newydd o wasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw.  Mae dau o'r pedwar treial yn cael eu cynnal yn y Gogledd, gydag un eisoes ar y gweill yn Nyffryn Conwy.

Mae'r gwaith i wella'r cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y ffin â Gogledd Lloegr yn mynd yn ei flaen, gan ddod â buddiannau bob ochr y ffin. Rydym wedi llofnodi fersiwn newydd o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Transport for the North, i gryfhau'r cysylltiadau trawsffiniol hyn. Sefydlwyd Fforwm Trafnidiaeth Cymru a Gorllewin Lloegr, sy'n dod â rhanddeiliaid trafnidiaeth o'r ddwy ochr ynghyd. Mae'r amserlen rhwng y Gogledd a Lerpwl bellach wedi'i hestyn, gan fanteisio ar y seilwaith gwell yn Halton Curve ac mae opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer cynyddu'r gwasanaethau ar y llwybr i wella'r cysylltiadau eto fyth. Caiff mwy o wasanaethau eu darparu hefyd ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston.

Ar ein ffyrdd, mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar Gynllun Coridor Sir y Fflint, sydd werth £300m, i ddewis dylunwyr i ddatblygu'r cynllun. Gwnaethon ni gyhoeddi'r llwybr a ffefrir ar gyfer cynllun £90m Pont Afon Ddyfrdwy yr A494 a byddwn yn cyhoeddi Gorchmynion Drafft cyn hir. Rydym wedi dechrau adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd gwerth £135m a byddwn yn dechrau ar welliannau Aber i Dai'r Meibion ar yr A55, gwerth £26m, yn y Gwanwyn. Cyhoeddon ni hefyd yr opsiynau rydym yn eu ffafrio ar gyfer Cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 gan gyhoeddi'r Gorchmynion drafft yn y Gwanwyn. Agorais yn swyddogol y darn olaf o ffordd gyswllt Llangefni yn dilyn buddsoddiad o £10m, fydd yn dod â buddiannau mawr i'r ardal ac i Ynys Môn gyfan. Rydym hefyd wedi ymrwymo i drydedd bont dros y Fenai.  Mae'r cynlluniau hyn yn creu cyfanswm o fwy na hanner biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad yn seilwaith Gogledd Cymru.

Yn ein rhaglen i ddelio â mannau cyfyng ar ein ffyrdd, rydym wrthi'n bwrw ymlaen â nifer o gynlluniau trwy'r broses WelTAG i leihau tagfeydd, gwneud y ffyrdd yn fwy diogel a gwella amserau teithiau. Ceir cynlluniau ar gyfer dau fan ar yr A483 ac yng nghyfnewidfa Glan Conwy A55/A470.

Rydym wedi helpu prosiectau trafnidiaeth lleol hefyd trwy grantiau trafnidiaeth lleol, gyda bron £17m wedi'i neilltuo ledled y Gogledd. Rydym wedi darparu hefyd £20m yn ychwanegol ar gyfer prosiectau metro'r Gogledd i'w wario yn 2020/21. Byddwn yn buddsoddi ym mhob dull teithio er mwyn creu system drafnidiaeth fodern o'r ansawdd uchaf.  Mae hynny'n hanfodol inni allu gwireddu ein hamcanion o ran cynaliadwyedd a newid hinsawdd a thwf economaidd.

Mae'n dda gen i ddweud bod allyriadau deuocsid nitrogen (NO2) wedi gostwng ym mhob un o'r 5 lle ar draffyrdd a chefnffyrdd Cymru lle cafodd cyfyngiadau cyflymder o 50mya eu cyflwyno, gan gynnwys ar yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy a'r A483 ger Wrecsam. Hefyd, yn sgil treialu camerâu cyflymder cyfartalog, mae nifer y gwrthdrawiadau wedi gostwng ar yr A55 yn Gallt Rhuallt.

Ymhlith y buddsoddiadau eraill yn rhanbarth y Gogledd yn 2019 y mae'r £3.25m o arian adfywio Llywodraeth Cymru i droi tai gwag yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn gartrefi. Gwnaethon ni hefyd helpu gyda chost adeiladu ysgolion newydd sbon gan gynnwys Ysgol Pen Barras a Stryd y Rhos, Rhuthun, y ddwy yn rhan o fuddsoddiad o £280m i foderneiddio ysgolion y Gogledd rhwng 2014 a 2019. Gwnaeth datblygiad newydd yng Nghonwy elwa ar fuddsoddiad o £1.5m trwy'r UE. Gydag arian cyfatebol gan Gyngor Sir Conwy, amcan y safle yw cefnogi parthau menter a safleoedd strategol cyffiniol, i ddarparu swyddi lleol a mwy rhanbarthol a rhoi hwb i economi'r Gogledd. 

Mae Cyflymu Cymru wedi creu cyswllt band eang ffeibr cyflym â 230,000 eiddo, am bris o ryw £62m. Byddai llawer o ardaloedd yng Nghymru heb gyswllt band eang cyflym o gwbl oni bai am Cyflymu Cymru. Yn y Gogledd, byddai hynny'n arbennig o wir mewn siroedd fel Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn darparu band eang ffeibr yn y Gogledd trwy brosiect newydd cymalog gydag Openreach, ac mae ein cynlluniau grant yn parhau i helpu'r rheini sydd ag angen band eang dibynadwy a chyflym arnyn nhw.

Cadeiriais ail gyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar y Gogledd ar 30 Ionawr.  Ymunodd arweinwyr chwe Awdurdod Lleol y Gogledd â’r cyfarfod a oedd yn cynnwys trafodaeth ar ddatblygu'r momentwm o gwmpas Bargen Twf y Gogledd yn ogystal â sut i gydweithio ac alinio'n gwaith er lles y rhanbarth.

Yn olaf, gan gydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru fod â phresenoldeb ledled Cymru gyfan, yn ogystal â’n swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chyffordd Llandudno, mae gwaith cwmpasu i sefydlu swyddfa ar gyfer Gweinidog Gogledd Cymru yng ngogledd ddwyrain Cymru yn mynd rhagddo a bydd yn ategu ein swyddfeydd eraill yn y rhanbarth.

Byddaf yn parhau i gadw bys Gweinidogion ar byls datblygiadau yn Rhanbarth Gogledd Cymru.