Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Am y bumed flwyddyn yn olynol, bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru yn cynyddu. Bydd £114m yn cael ei fuddsoddi yn 2019/20, cynnydd o £7m o gymharu â 2018/19, i gefnogi amrywiol raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Dyma lefel uwch nag erioed o gyllid, ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal y nifer fwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru.

Rwy'n hynod o falch o fuddsoddiad y llywodraeth hon mewn addysg a hyfforddiant i gynnal y gweithlu iechyd ar draws Cymru. Mae mwy o bobl yn gweithio i'r GIG heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda phob un ohonynt yn ceisio atal problemau a gofalu am aelodau o'r gymdeithas ar draws pob cymuned yng Nghymru.

Fel y dywedais yn flaenorol - yn wyneb yr heriau ariannol sylweddol sydd wedi codi o ganlyniad i agenda cyni Llywodraeth y DU - yn aml iawn, buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant yw'r cyntaf i ddioddef. Nid yw hynny'n wir yng Nghymru.

Mae modd gweld hynny yn y cynnydd mewn lleoliadau hyfforddi a ariannwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf. Er enghraifft, ers 2014:

  • Gwelwyd cynnydd o 68% mewn lleoliadau hyfforddi nyrsys, gyda chynnydd ar draws pob un o bedwar maes nyrsio.
  • Gwelwyd cynnydd o 88% mewn lleoliadau hyfforddi ymwelwyr iechyd.
  • O ran lleoliadau hyfforddi bydwragedd, llwyddwyd i gynnal y cynnydd o 43% ers 2017/18.
  • Mae lleoliadau hyfforddi nyrsys ardal wedi mwy na threblu.

Ar ben hynny, codwyd y cap ar gyfer rhaglenni i helpu nyrsys cymwys blaenorol i ddychwelyd i'r gwaith, gydag ymrwymiad i ariannu lleoliadau ychwanegol lle bo galw. 

Bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y bydd lefelau'r hyfforddiant ar gyfer y grwpiau staff uchod yn cael eu cynnal. Ar ben hynny, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn lleoliadau hyfforddi meddygol ychwanegol, gyda mwy o leoliadau ar gael yn 2019/20 yn y meysydd canlynol:

    • Meddygaeth Frys
    • Seiciatreg Pobl Hŷn
    • Trawma ac Orthopedeg
    • Meddygaeth Gofal Dwys 

Mae hyn ar ben y buddsoddiad ychwanegol sydd eisoes yn cael ei wneud mewn lleoliadau hyfforddi radioleg.

Yn aml iawn, nyrsys a meddygon sy’n cael sylw mewn trafodaethau am y GIG a gwasanaethau cysylltiedig. Mae hyn yn naturiol; dyma'r gweithwyr proffesiynol cyntaf y bydd pobl yn dod ar eu traws wrth gael problemau iechyd. Mae'n wir na allai'r GIG weithredu heb y gweithwyr proffesiynol hyn sy'n hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau. Ond mae'r un mor wir bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dibynnu ar dros 300 o broffesiynau a swyddi sy'n cyfuno i ddarparu gofal i gleifion. Dim ond drwy gydweithio y gellir darparu'r gwasanaethau rydym ni i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd.

Dyna pam ein bod ni ers 2014 wedi bod yn buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i amrywiol weithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys:

  • Therapyddion Galwedigaethol - cynnydd o 51%
  • Ffisiotherapyddion - cynnydd o 53%
  • Radiograffwyr - cynnydd o 53%
  • Hylenwyr Deintyddol - cynnydd o 80%
  • Parafeddygon - cynnydd o 139%

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'n briodol i ni oedi a meddwl am y meysydd lle mae angen buddsoddi i sicrhau bod modd i weithlu'r dyfodol ddygymod â'r heriau yn y cynllun. Felly fe fyddwn hefyd yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i gefnogi ymarfer uwch / sgiliau estynedig a datblygu gweithwyr cymorth gofal iechyd, ond rwyf am sicrhau bod y cyllid yn cael ei gyfeirio i feysydd lle bydd modd i'r system iechyd weld y manteision mwyaf.

Mae sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu mwy o gyfleoedd i ystyried heriau presennol a'r dyfodol i'r gweithlu, a'r ffordd y gall addysg a hyfforddiant gefnogi'r newidiadau gofynnol i roi sylw i'r heriau hyn. Bydd AaGIC yn gweithio gyda'r GIG ac eraill i wneud yn siŵr bod eu gwaith yn gosod anghenion y claf wrth galon unrhyw benderfyniadau. Gall mwy o bwyslais ar dimau amlbroffesiwn ofyn am newidiadau sylfaenol i'r ffordd y mae rhaglenni addysg a hyfforddiant yn cael eu clustnodi, eu comisiynu a'u darparu yn y dyfodol, ac fe fydd AaGIC, mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol yn darparu arweinyddiaeth yn y maes hwn. 

Mae swyddogaeth Gwyddonwyr Iechyd yn parhau i chwarae rhan hanfodol mewn darpariaeth gofal i gefnogi uchelgais Cymru Iachach. Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddwyd Gwyddor Gofal Iechyd - Edrych Tuag at y Dyfodol sy'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer y proffesiynau yn unol â'r cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Yn yr un modd, cyhoeddwyd Datganiad o Fwriad cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Delweddu ym mis Mawrth 2018, a gafodd gydnabyddiaeth Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2018.

Yn gynharach eleni, cytunwyd i reoleiddio swyddogaeth Meddygon Cyswllt ar draws y DU. Yng Nghymru, byddwn yn parhau i gefnogi rôl y Meddygon Cyswllt wrth werthuso effaith y rôl hon ar ddarpariaeth gwasanaethau. Mae hyn ar ben yr ymrwymiad a wnaed i gefnogi lleoliadau hyfforddi ychwanegol i feddygon teulu lle bo lefel yr ymgeiswyr derbyniol yn fwy na nifer y lleoliadau hyfforddi sydd ar gael.

Nid oes modd i leoliadau hyfforddi, wrth eu hunain, sicrhau cynaliadwyedd y gweithlu. Rhaid i'r pecyn cymorth i unigolion adlewyrchu anghenion myfyrwyr er mwyn eu galluogi i ymrwymo i'r rhaglenni hyn yn eu cyfanrwydd. Dyna pam y gwnaed ymrwymiad i gynnal trefniadau Bwrsariaeth GIG Cymru ar gyfer 2019/20. Mae'r ymgynghoriad diweddar ar drefniadau cymorth i fyfyrwyr wedi darparu gwybodaeth werthfawr ar farn unigolion a sefydliadau am y trefniadau presennol, ac fe fydd hyn o gymorth wrth ddatblygu pecyn cymorth tymor hirach. Bydd penderfyniad ar hyn yn ystod y misoedd nesaf.