Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n gwerthfawrogi ymroddiad gweithlu GIG Cymru ac wedi bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cyfyngiad ar gyflogau’r sector cyhoeddus er mwyn sicrhau y gellir gwobrwyo staff y GIG yn briodol am y gwaith y maent yn ei wneud. Rwyf hefyd wedi datgan yn eglur bod yn rhaid i’r Trysorlys ddarparu cyllid i Gymru i sicrhau bod modd rhoi dyfarniadau cyflog heb danseilio gwasanaethau i gleifion.

Bob blwyddyn, rwy’n penderfynu ynglŷn â’r dyfarniad cyflog blynyddol ar gyfer staff y GIG gan roi ystyriaeth i gyngor ac argymhellion y ddau gorff adolygu cyflogau annibynnol, Corff Adolygu Cyflogau’r GIG (NHSPRB) sy’n ymdrin â’r staff sy’n gweithio o dan y Contract Agenda ar gyfer Newid, a’r Corff Adolygu Cyflogau Meddygon a Deintyddion (DDPRB).

Mae cam cyntaf y broses o adolygu cyflogau’r sector cyhoeddus fel arfer yn dechrau yn y gwanwyn, pan fydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn anfon llythyr cylch gwaith sy’n nodi’r cyd-destun yn y DU er mwyn galluogi’r dyfarniadau cyflog i ddod i rym ar gyfer y GIG ym mis Ebrill bob blwyddyn. Eleni, anfonwyd y llythyr cylch gwaith ar 21 Medi, gan nodi amserlen hwyrach nag arfer ar gyfer y broses adolygu.

Mae llythyrau’r Trysorlys yn nodi’r farn y dylid bod yn fwy hyblyg wrth ystyried cyflogau’r sector cyhoeddus, yn hytrach na chadw at y cyfyngiad presennol o un y cant ar gyflogau, er mwyn mynd i’r afael â heriau o ran recriwtio a chadw staff. Nodant hefyd y dylai’r cyflogau fod yn gysylltiedig â chynnydd mewn lefelau cynhyrchiant. Nid oedd y llythyrau’n crybwyll a fyddai cyllid canolog ar gael i ganiatáu ar gyfer cynnydd sy’n fwy nag un y cant.

Ar 22 Tachwedd, rhoddwyd gwarant yng nghyhoeddiad Cyllideb y DU ar gyfer 2017 y byddai arian newydd ar gael pe byddai’r cyrff adolygu cyflogau yn argymell codiadau cyflog yn y dyfodol a phe byddent yn cael eu cysylltu â chynnydd mewn lefelau cynhyrchiant a diwygiadau mewn contractau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi datgan yn eglur ei fod yn disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i ariannu’n llawn unrhyw argymhellion newydd gan y cyrff adolygu cyflogau ar gyfer y pedair gwlad ac i ddarparu swm canlyniadol llawn o dan fformiwla Barnett.

Ail gam y broses annibynnol o adolygu cyflogau yw i adrannau iechyd unigol y DU ystyried a ydynt am ddarparu tystiolaeth i’r cyrff adolygu i gefnogi eu trafodaethau unigol ynghylch cyflogau, ac a ydynt am geisio argymhellion gan y cyrff hynny.

Heddiw, yng nghyd-destun ein partneriaeth gymdeithasol ehangach yng Nghymru, rwyf wedi anfon fy llythyr cylch gwaith at y cyrff adolygu cyflogau yn gofyn am eu cyngor ar gylch cyflogau 2018-19. Rwyf wedi gofyn iddynt ystyried tystiolaeth a gwneud argymhellion cyn diwedd y flwyddyn ariannol ar ddau gwestiwn:

  • Beth fyddai’n ddyfarniad teg o ran cyflogau staff y GIG yng Nghymru?
  • Gan gofio eu hargymhellion ynglŷn â dyfarniad cyflog teg, faint o ddyfarniad cyflog y gallai’r GIG yng Nghymru ei roi os na cheir rhagor o gyllid gan Drysorlys y DU?

Rwy’n bwriadu darparu tystiolaeth i’r cyrff adolygu cyflogau yn y flwyddyn newydd, ac i’m swyddogion fod yn bresennol yn y sesiynau tystiolaeth lafar sydd wedi’u cynllunio.

Rwyf hefyd wedi gweld y llythyrau cylch gwaith a anfonwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr, ac mae’r rhain yn creu cyswllt nad yw’n gwbl eglur rhwng materion ynglŷn â chyflogau a thrafodaethau ynglŷn â diwygio contractau. Rwyf wedi gofyn i swyddogion drafod y llythyrau hyn â’r Adran Iechyd er mwyn inni allu deall sut y bydd unrhyw ddiwygiadau i gontractau yn cyd-fynd â’r broses adolygu cyflogau yn Lloegr.

Mae’r GIG ar draws pedair gwlad y DU yn elwa ar y ffaith fod peth gallu i’r gweithlu symud o le i le. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i bob un o’r pedair gwlad o ran recriwtio. Mae hefyd yn ei gwneud yn haws i staff symud ar gyfer datblygu eu gyrfa a dilyn hyfforddiant, ac yn sicrhau bod staff proffesiynol sy’n gweithio ledled y DU yn gydradd â’i gilydd. Mae’r gallu hwn i symud yn seiliedig ar set graidd o nodweddion cyffredin yng nghontractau’r GIG ledled y DU ac rwy’n ymroddedig i gadw’r elfennau cyffredin hyn ar yr amod eu bod yn parhau i roi manteision i’r GIG yng Nghymru.

O gofio nodweddion cyffredin contractau’r GIG ledled y DU, mae’n hanfodol bod cynrychiolwyr y cyflogwyr a’r staff o Gymru yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau ynghylch contractau a’u bod yn gallu cynrychioli barn a buddiannau Cymru yn ystod y trafodaethau hynny. Byddwn yn ceisio cynnal trafodaethau â’r Adran Iechyd yn fuan ynglŷn â’r mater hwn.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r broses symud yn ei blaen.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.