Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 18 Gorffennaf cyhoeddais ddatganiad ynghylch y gwaith sydd wedi'i wneud i ymchwilio i'r potensial ar gyfer mwy o gyfleoedd ym maes addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd, gan gynnwys a oes achos dros sefydlu ysgol feddygol ychwanegol yn y Gogledd.  Yn y datganiad hwnnw cadarnheais fod achos dros gael mwy o addysg feddygol yn y Gogledd, er nad wyf wedi fy argyhoeddi bod angen Ysgol Feddygol newydd.

Cadarnheais hefyd, yn sgil trafodaeth â'm cydweithiwr yn y Cabinet - sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fod dull gweithredu cydweithredol arfaethedig o ddarparu addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd, yn seiliedig ar Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor yn gweithio'n agosach yn ddull gweithredu sy'n gallu sicrhau'r cynnydd hwn mewn cyfleoedd addysg feddygol yn y Gogledd.  Yn fy natganiad ymrwymais hefyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a fu.

Gallaf gadarnhau bod y tair prifysgol, ynghyd â Deoniaeth Cymru, wedi parhau i gydweithio i nodi meysydd allweddol y byddai angen mynd i'r afael â hwy er mwyn gwireddu'r dull gweithredu cychwynnol hwn. Cyfarfu fy swyddogion â'r holl bartïon ar 21 Medi i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'r wneud ac rwyf wedi cael gwybod bod nifer da wedi mynychu'r  cyfarfod a'i fod yn gadarnhaol.   Yn ystod y cyfarfod nodwyd nifer o faterion yr oedd angen i'r prifysgolion roi ystyriaeth bellach iddynt er mwyn dod i gytundeb ar y camau nesaf.  

Rwyf yn ymwybodol bod y prifysgolion wedi cyfarfod nifer o weithiau ers y cyfarfod ar 21 medi ac rwyf wedi rhoi gwybod i'm swyddogion am y datblygiadau. Mae ffordd arfaethedig ymlaen wedi dod i law oddi wrth y prifysgolion ond mae hwn yn faes cymhleth ac mae angen amser ychwanegol i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol sy'n deillio o'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn,

O dan unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol bydd angen i bob sefydliad fod yn glir am y rôl y bydd yn ei chwarae yn nhrefniadau'r dyfodol ac rwyf yn  credu ei bod yn bwysig rhoi i'r prifysgolion yr amser y mae ei angen i lywio'r dull gweithredu hwnnw.  

O ganlyniad i’r cytundeb dwy flynedd ar y Gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae cyllid o £7m ym mhob un o’r blynyddoedd 2018-10 a 2019-20 wedi’i sicrhau i greu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol i israddedigion yn y Gogledd.

Cynhelir cyfarfodydd pellach â swyddogion ar ddechrau'r flwyddyn newydd a rhoddaf ddiweddariad manylach i'r aelodau yn dilyn y trafodaethau hyn.