Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae mwy a mwy o alwadau ar y system gofal iechyd yng Nghymru, ac o ganlyniad i fuddsoddiad parhaus mae mwy o bobl yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) nag erioed o’r blaen.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael ei heffeithio’n fawr gan yr hinsawdd ariannol anodd bresennol yn sgil polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) o gyni cyllidol. Yn yr amgylchiadau hyn, buddsoddiad mewn hyfforddiant sydd fel arfer yn cael ei dorri’n gyntaf. Mae hyn yn dangos diffyg gweledigaeth sy'n aml yn arwain at anawsterau mwy difrifol yn y tymor hwy.  

Fel llywodraeth, rydym wedi dewis peidio â mabwysiadu'r dull hwn. Rydym ninnau yn parhau i gynyddu lefel ein buddsoddiad mewn meysydd allweddol o wasanaethau cyhoeddus ac mae cynaliadwyedd gweithlu’r GIG yn un o'n prif flaenoriaethau.

Heddiw, rwy'n parhau ar y trywydd hwn ac yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £107m ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o £12m ar y pecyn y cytunwyd arno eisoes ar gyfer 2017/18 a bydd yn galluogi mwy na 3500 o fyfyrwyr newydd i ymuno â'r rheini sy’n astudio ar raglenni addysg gofal iechyd ledled Cymru. Bydd 9,490 o unigolion mewn hyfforddiant ar gyfer 2018/19 o'i gymharu â 8,573 yn 2017/18.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cynnydd o fwy na 10% yn nifer y lleoliadau hyfforddi i nyrsys – 161 arall ohonynt – a fydd yn cael eu comisiynu yn 2018/19. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd o 13% yn 2017/18, y cynnydd o 10% yn 2016-17 a'r cynnydd o 22% yn 2015-16 ac mae'n rhan o'n buddsoddiad parhaus yn nifer y rheini sy'n cael addysg i nyrsys.

Cytunwyd hefyd, fel rhan o'r fargen y gyllideb ddwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, ar neilltuo £2m y flwyddyn i gefnogi rhaglen beilot o ofal nyrsio yn y gymdogaeth ar gynllun Buurtzorg yng Nghymru. Rwyf wedi cytuno ar £1.4m o'r cyllid hwn ym mhob un flwyddyn fel cymorth ar gyfer yr addysg a'r hyfforddiant sydd eu hangen fel sylfaen ar gyfer y cynlluniau peilot hyn. Bydd hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer rhyddhau nyrsys i hyfforddi fel nyrsys ardal
.  
Mae hefyd yn cynnwys cynnydd o 10% mewn lleoliadau hyfforddiant ffisiotherapi a therapi galwedigaethol a chynnydd mewn lleoliadau hyfforddi i ymwelwyr iechyd. Mae'r cynnydd o 40% mewn hyfforddiant i fydwragedd yn 2017/18 wedi'i gynnal ar gyfer 2018/19, ac mae hyn yn wir yn achos pob lefel arall o leoliadau hyfforddi a gomisiynwyd.

Rhaid i'n buddsoddiad gyflawni dau beth. Yn gyntaf, rhaid iddo sicrhau bod modd cynnal y gwasanaethau presennol ac, yn ail, rhaid iddo fod o gymorth i newid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Ein nod, wedi'r cyfan, yw darparu gwasanaethau mor agos â phosibl at gartrefi unigolion. Rydym yn cyflawni'r ddwy uchelgais.

Fel rhan o becyn cymorth 2017/18, cyhoeddais fod £750k ar gael i helpu practisau ymarferwyr cyffredinol i fanteisio ar hyfforddiant ac addysg ymarfer uwch a sgiliau estynedig. Cyhoeddais hefyd gymorth ar gyfer hyfforddiant gweithwyr cymorth gofal sy'n hyfforddi yn y maes hwn. Mae'r datblygiad hwn wedi cael ei groesawu'n wresog. O ystyried y gallai’r dull hwn helpu i newid darpariaeth gwasanaethau a modelau gwasanaethau, rwy'n cyhoeddi £250k o gymorth arall ar ei gyfer hefyd.

Rwyf hefyd yn darparu £250k arall i roi addysg a hyfforddiant Lefel 4 i weithwyr cymorth gofal iechyd.

Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnal buddsoddiad mewn lleoliadau hyfforddi ar gyfer rhannau allweddol eraill o'r gweithlu gan gynnwys, gwyddonwyr gofal iechyd, parafeddygon, hylenwyr deintyddol a therapyddion a radiograffyddion. Byddwn hefyd yn sicrhau bod cohort arall o leoliadau hyfforddi i gymdeithion meddygol ar gael o fis Medi 2018 ymlaen, a hynny ar yr un sail â 2017.

Mae'r buddsoddiad y manylwyd arno uchod yn ychwanegol i'r £0.5m y cytunwyd arno yn gynharach eleni ar gyfer swyddi meddygol ychwanegol gan gynnwys Radioleg Glinigol, Offthalmoleg, Deintyddiaeth Meddygaeth y Geg a Deintyddiaeth Bediatrig.

Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi yn y gweithlu sydd ei angen i gynnal ein system iechyd yng Nghymru, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.