Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn nawr roi'r diwedddaraf i Aelodau am y cynlluniau i fuddsoddi mewn cyfleusterau trenau, gan gynnwys depo modern newydd, fydd yn rhoi hwb i waith Metro'r De.

Mae canlyniad y broses gaffael wedi sicrhau buddsoddiad o bron £100m mewn depo newydd a gaiff ei adeiladu yn Ffynnon Taf ar safle a brynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016. Caiff 36 o gerbydau newydd y Metro fydd yn darparu gwasanaethau ar lein Ffynnon Taf eu cadw a'u gwasanaethu yno, ac yn y pen draw, bydd 400 o staff trenau a 35 o weithwyr cynnal a chadw cerbydau'r Metro yn gweithio yno.

Bydd y depo newydd yn Ffynnon Taf yn ategu'r gwaith a wneir mewn depos eraill fel Canton, lle caiff rhyw £5m ei fuddsoddi i foderneiddio'r cyfleusterau yno ar gyfer cynnal a chadw'r cerbydau tri modd newydd. Gyda'i gilydd, bydd y depos yn gwneud gwaith pwysig iawn, yn helpu i redeg Metro'r De.

Bydd y depo yn Ffynnon Taf yn gartref hefyd i ganolfan reoli integredig Metro'r De fydd yn cyflogi 52 o staff.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi am fuddsoddi mewn cynlluniau fydd yn cefnogi'n hamcanion i ddatgarboneiddio. Bydd y depo newydd yn Ffynnon Taf yn defnyddio trydan o ffynonellau adnewyddadwy a bydd yn defnyddio dŵr glaw gyda'r disgwyl y bydd hynny'n arbed dros 3,000m3 o ddŵr y flwyddyn. Yn ogystal, caiff paneli solar eu gosod a'r goleuadau LED diweddaraf eu defnyddio i arbed ynni ac i leihau lefelau llygredd golau, hynny yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac i wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Yn ogystal â'r depo newydd, caiff stesion Ffynnon Taf ei moderneiddio fel rhan o'n buddsoddiad o £194m i wella gorsafoedd. Caiff cyfleusterau parcio a theithio eu darparu er mwyn i gymudwyr allu defnyddio Metro'r De.

Disgwylir i'r gwaith clirio ac adeiladu ddechrau yn 2019 a'i gwblhau erbyn canol 2022.  Bydd Trafnidiaeth Cymru'n caffael cwmnïau adeiladu trwy GwerthwchiGymru a fframwaith STRIDE.

Buddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o weithio gyda'r rheilffyrdd ac yn unol â'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rydyn ni'n awyddus i gynyddu'r cyfleoedd i fusnesau o Gymru, rhoi hwb i economi Cymru a datblygu sgiliau lleol gan greu a chynnal cymaint o swyddi lleol â phosib.

Y depo newydd yn Ffynnon Taf fydd un o'r cyfleoedd cyntaf i gyflenwyr o Gymru allu manteisio ar y buddsoddiad o £738m ym Metro'r De i greu seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy.

Gwnaeth Trafnidiaeth Cymru ystyried nifer o fannau posib, gan gynnwys pen draw canghennau Leiniau'r Cymoedd, ar gyfer y depo newydd a chyfleusterau eraill. Er mai Ffynnon Taf oedd y lleoliad oedd yn cynnig y fargen orau inni o bell ffordd o ran costau cyfalaf a rhedeg ac arbedion, rydyn ni'n buddsoddi mewn cyfleusterau pwysig ym mhob rhan o'r rhwydwaith.

Byddwn yn buddsoddi i wella'r cyfleusterau stablu yn Nhreherbert. Yn Rhymni, byddwn yn buddsoddi mewn cyfleusterau stablu ac i wella'r cyfleusterau cynnal a chadw ysgafn yno yn ogystal a gwella'r orsaf iddi allu delio â mwy o gerbydau tri modd a rhai hirach.

Rwy'n disgwyl ymlaen at rannu â chi fwy o fanylion ein cynlluniau cyffrous ar gyfer gweddnewid gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a Metro'r De yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.