Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yn ymrwymiad allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu ac mae'n hanfodol i iechyd a lles ein cenedl wrth inni adfer ar ôl y pandemig.

Mae'n bleser cael cyhoeddi ein bod yn buddsoddi £4.5 miliwn yn rhagor o gyllid cyfalaf eleni i gefnogi amrywiaeth o brosiectau i wella cyfleusterau pêl-droed, nofio etc. ledled Cymru. Bydd y cyllid hwn yn galluogi rhagor o bobl i gymryd mwy o ran mewn amrywiaeth eang o chwaraeon. Bydd yn cael ei ddarparu drwy Chwaraeon Cymru ac mae’n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfanswm o £13.2 miliwn o gyllid cyfalaf mewn chwaraeon eleni i gefnogi prosiectau ym mhob cwr o Gymru.

Mae'r pecyn hwn yn adlewyrchu'r gwerth yr ydym yn parhau i'w roi ar ein cyfleusterau chwaraeon. Maen nhw’n amgylcheddau sy'n creu cyfleoedd cynhwysol i bobl fwynhau’r manteision corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig â chwaraeon, ac i ryddhau eu potensial ym maes chwaraeon.

Mae’r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23, a gyhoeddwyd ar 21 Rhagfyr, yn cynnwys £24 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad cyfalaf mewn cyfleusterau chwaraeon dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy Chwaraeon Cymru.