Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n dda gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen newydd o fuddsoddi mewn adfywio a dargedir. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i ymgeisio, ar y cyd â sefydliadau partner, am fuddsoddiad. Mae hyd at £100 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gael i adfywio economïau ein cymunedau a helpu gydag amcanion datblygu cynaliadwy ehangach.

Mae gan fuddsoddi mewn adfywio a dargedir rôl allweddol i chwarae yn y gwaith o annog ffyniant a chreu cymunedau cadarn ym mhob rhan o Gymru, nid dim ond yr ardaloedd hynny sy’n cynnig yr enillion masnachol gorau.  Mae heriau penodol ynghlwm wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a datblygu cymunedau cysylltiedig a chynaliadwy mewn ardaloedd sy’n ddifreintiedig a dan anfantais yn economaidd, neu’r ardaloedd hynny a oedd yn y gorffennol yn ddibynnol ar y diwydiannau trwm. Hefyd, mae’n bwysig cydnabod bod heriau penodol mewn ardaloedd gwledig yn ogystal.

Yn unol â’r amcanion a nodir yn Ffyniant i Bawb, fy mwriad yw bod awdurdodau lleol a phartneriaethau rhanbarthol yn manteisio ar y cyllid hwn i ategu’r buddsoddiadau eraill rydym yn eu gwneud i hybu ffyniant. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu datrysiadau cydgysylltiedig ac i’r perwyl hwnnw bydd angen i brosiectau sy’n ymgeisio am gyllid adfywio gyd-fynd â Chynlluniau Lles Lleol, y gwaith sy’n cael ei wneud o dan y Bargeinion Dinesig, ein buddsoddiad yn y Metros, cynigion gan Dasglu’r Cymoedd a pharatoadau ar gyfer Wylfa Newydd. Hefyd, rwyf yn awyddus i’r buddsoddiad cyfalaf newydd hwn gefnogi rhaglenni eraill sydd â’r nod o ddatblygu cymunedau mwy cadarn, gan gynnwys ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau. Rhaid ymgysylltu’n wirioneddol â chymunedau a seilio prosiectau ar hynny. Byddaf yn edrych ar y partneriaethau datblygu economaidd sydd wrthi’n cael eu creu ledled Cymru i benderfynu pa brosiectau gaiff yr effaith fwyaf.

Bydd llwyddiant y rhaglen yn dibynnu’n rhannol ar ddatblygu partneriaethau rhanbarthol cryf i bennu blaenoriaethau buddsoddi, a gweithredu arnynt. Fodd bynnag, ni ddylai’r partneriaethau hyn weithredu ar eu pen eu hunain. Rhaid inni geisio sicrhau bod y broses o bennu blaenoriaethau adfywio yn seiliedig ar ddealltwriaeth mor gyflawn â phosib o’r  ffynonellau eraill o gyllid sydd ar gael. Fy her i’n partneriaid yw: byddwch yn uchelgeisiol ac yn arloesol wrth ddatblygu cyfleoedd newydd i hybu adfywio a lledu llewyrch. Rhaid inni sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu targedu at nifer cyfyngedig o gynigion am fuddsoddiad, a rheiny’n rhai gyda sail economaidd gref a chlir ar gyfer adfywio. Rhaid hefyd sicrhau bod creu cyfleoedd cyflogaeth a gwella sgiliau a chyflogadwyedd wrth galon cynigion a bod cymorth yn cael ei ddarparu lle y mae ei angen fwyaf.

Fy mlaenoriaeth i ddechrau yw sicrhau bod y rhaglen newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau dros y cyfnod hyd at 2021, ond nodir yn glir yn ein canllawiau i awdurdodau lleol ein bod hefyd am ddechrau pennu blaenoriaethau mwy hirdymor. Nid yw’n rhy gynnar i ddechrau meddwl am sut y byddwn yn adfywio ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ac ar ôl i’r Cronfeydd Strwythurol ddod i ben. Rwyf am i’r rhaglen hon gael yr effaith fwyaf posibl, ond rwyf hefyd am iddi osod sail ar gyfer y camau gweithredu mwy hirdymor sydd eu hangen ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Nodwedd allweddol o’r rhaglen newydd yw’r ymgais i sicrhau mecanwaith cadarn a thryloyw i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau am fuddsoddiadau.  I’r perwyl hwn, byddaf yn sefydlu’r Panel Cenedlaethol ar gyfer Buddsoddi mewn Adfywio. Bydd y Panel yn edrych ar adfywio yng Nghymru gyfan, a’i waith fydd sicrhau bod y buddsoddiad sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosib ledled y wlad. Hefyd, bydd yn rhoi cyngor er mwyn ceisio sicrhau rhywfaint o gydlyniant ar draws y rhaglenni rhanbarthol a cheisio sicrhau y caiff cyllidebau eu defnyddio mewn ffordd sy’n manteisio i’r eithaf ar ffynonellau eraill o gyllid er mwyn sicrhau’r effaith adfywio fwyaf posibl. Bydd angen i bob prosiect a gynigir arddangos gwerth am arian a bydd hyn yn ganolog i’r ffordd y bydd y panel yn craffu arnynt.

Gyda chefnogaeth ein partneriaid, bydd y rhaglen adfywio newydd yn gallu buddsoddi mewn prosiectau o fis Ebrill 2018 ymlaen. Byddwn yn gweithredu rhaglen dreigl o ran cymeradwyo, gan ein bod yn deall bod angen mwy o amser i baratoi a llunio rhai prosiectau nag eraill. Fodd bynnag, mae’r heriau sydd i’w gweld yn ein cymunedau’n pwysleisio bod angen inni fwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn ddiymdroi a chydag egni. Yn y man, adroddaf i’r Cynulliad hwn ar y cynlluniau rhanbarthol sydd wrthi’n cael eu datblygu.