Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hynny er gwaethaf yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd datblygu gweithlu'r GIG a sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd y staff sydd ei angen arno yn awr ac yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y gweithlu sy'n angenrheidiol i ymateb i'r heriau presennol a heriau'r dyfodol y mae'r GIG yn eu hwynebu.
Rwyf wedi cytuno ar gyllid gwerth £294.224 miliwn ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 i gynnal addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau ac yn cynnal nifer y lleoedd a gomisiynir yn seiliedig ar y rhai y cytunwyd arnynt yn 2024/25.
Y llynedd oedd y tro cyntaf inni gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, o gymharu â nifer y lleoedd a gafodd eu llenwi. Bydd y buddsoddiad ar gyfer 2025-26 yn cynnal hyn.
Rwyf yn hynod o falch o'r ffordd rydym yn buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i helpu a chynnal gweithlu'r GIG yng Nghymru.
Heddiw, mae gan y GIG fwy o bobl yn gweithio ynddo nag a fu ar unrhyw adeg yn ei hanes wrth inni ganolbwyntio ar atal a gofalu ym mhob cymuned yng Nghymru.