Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod Cyllideb Derfynol 2018-19, sy'n gosod cyfres o ddyraniadau refeniw newydd i Gymru o ganlyniad i gyllid canlyniadol a dderbyniwyd o Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.  

Ym mis Rhagfyr, ymrwymais i wneud cyhoeddiad am unrhyw benderfyniadau cynnar ynghylch buddsoddi cyfalaf yn deillio o gyllid canlyniadol Cymru o Gyllideb y DU, cyn y drafodaeth heddiw ar y Gyllideb Derfynol.

Felly rwy'n cyhoeddi buddsoddiad cyfalaf o bron i £200m hyd at 2020-21, a fydd yn cefnogi blaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

• Bydd £75m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i gyflymu'r gwaith o gyflawni rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

• Bydd £30m o hwb cyfalaf ar unwaith eleni i raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif i gefnogi ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hynny'n golygu y bydd £30m cyfatebol yn cael ei ryddhau o'r rhaglen hon yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi prosiectau cyfalaf penodol i gefnogi a hybu'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg. Mae hyn yn flaenoriaeth rydym yn ei rhannu â Phlaid Cymru.

• Bydd £70m ychwanegol yn cael ei ddyrannu dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi gwelliannau i'r GIG, a fydd yn eu tro yn helpu i ddarparu gofal modern, effeithiol ac o ansawdd uchel i gleifion. Bydd y cyllid yn caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fwrw ymlaen i ystyried amrywiol flaenoriaethau clinigol, gan gynnwys parhau i gefnogi Canolfan Ganser Felindre a buddsoddi mewn gwasanaethau newyddenedigol yng Nghaerfyrddin ac yn Abertawe.

• £9m o gyllid trafodiadau ariannol dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddatblygu canolfannau arloesi iechyd tebyg i'r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau.

• £14.6m ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd aer, gan adeiladu ar y  £5.6m o refeniw ychwanegol a gafodd ei neilltuo yng Nghyllideb Derfynol 2018-19.

Rwyf hefyd yn trafod cynigion ar gyfer cynllun ailwampio ffyrdd gwerth hyd at £30m gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, a fydd yn darparu buddsoddiad hanfodol yn ein ffyrdd lleol.

Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru newydd yn y gwanwyn. Bydd hyn yn adlewyrchu canlyniad trafodaethau pellach gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid cyfalaf ychwanegol i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi, sy’n cyd-fynd â Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb. Bydd trafodaethau hefyd yn parhau gyda Phlaid Cymru ar ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer buddsoddi cyfalaf.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ynghylch dyraniadau cyfalaf pellach yn y gwanwyn, pan fydd Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru wedi’i gyhoeddi.